About me

Helo, Non ydw i, shwmae!

Non ydw i, dwi’n fyfyrwraig 30 oed o Gaerdydd. Pan orffennais fy ngradd israddedig mewn Seicoleg Arbrofol flynyddoedd maith yn ôl, ro’n i’n eithaf sicr fy mod i wedi cael digon ar astudio, er ro’n i dal i fod yn chwilfrydig ac yn awyddus i ddysgu pethau newydd. Yn ffodus, nid dyna oedd diwedd y siwrne dysgu, ac ers hynny dw i wedi ennill gradd meistr mewn Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol, Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd, a sawl *tystysgrif datblygiad proffesiynol arall! Mae pob un o’r cyrsiau dw i wedi’u hastudio wedi *cyfoethogi fy mywyd, ac dw i wedi datblygu fy sgiliau, gwybodaeth, profiad a hyder ar hyd y daith. Dw i hefyd wedi gallu manteisio ar gyfleoedd efallai na fyddwn i wedi’u cael fel arall. Mae hyn yn dangos fod hi’n peth da i fod yn anghywir weithiau!

Ar hyn o bryd, dw i’n astudio fy ngradd PhD sy’n ymchwilio i’r ffyrdd y mae *cyfieithwyr ar y pryd yn y llysoedd yn gwneud newidiadau wrth *gyfieithu ar y pryd rhwng dwy iaith, a sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar farn y *rheithgor am y diffynnydd*. Prin yw’n bosib cyfieithu gair wrth air mewn dwy iaith wahanol! Hefyd, mae cyfieithwyr ar y pryd yn gweithio yn y fan a’r lle, gan siarad ar goedd, heb ffordd hawdd o ‘olygu’r’ cyfieithiad, felly mae newidiadau’n gyffredin iawn! Dw i’n meddwl bod y newidiadau sy’n digwydd wrth gyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn hynod o ddiddorol, yn o gystal â’r perthynas rhwng iaith, diwylliant, pŵer, a *natur ryngbersonol y cyfieithydd ar y pryd, sy’n aml yn cael eu hanwybyddu. Dw i wir yn  gobeithio y bydd fy ymchwil bresennol yn cael effaith byd go iawn ac yn helpu pobl i ddeall y ffordd orau i gefnogi cyfieithwyr ar y pryd sy’n gweithio yn y llys.

Yn ogystal â fod yn fyfyrwraig, dw i hefyd yn fam i ddau o blant arbennig, ac yn wraig i ŵr gwych. Dw i’n canu mewn band ac mae gen i fusnes bach yn gwerthu cardiau cyfarch gyda lluniau o foch a chŵn arnyn nhw!  Dw i hefyd yn nofwraig ac yn rhedwraig frwd (neu obsesiynol meddai rhai!) ac yn mwynhau cystadlu mewn rasys, yn enwedig rasys 10km, sef fy hoff bellter. Dw i hyd yn oed yn rhedeg mewn gwisg ffansi weithiau! Moch yw fy hoff anifeiliaid, ac un ffaith ddifyr sy’n cysylltu dau o fy hoff bethau – rhedeg a moch – yw bod moch yn gallu rhedeg milltir mewn 6 munud (felly mae rhoi enw o fod yn ddiog i fochyn yn hollol annheg!). Ar ddiwrnod da iawn, iawn, gyda thrac fflat, tywydd teg, a digon o gwsg y noson cynt, galla i redeg cystal â’r mochyn hefyd!

Ieithoedd a fi: Cymraeg

Dysgais Gymraeg ochr yn ochr â Saesneg gartref, ond wnes i ddim wir gwerthfawrogi’r ffaith ro’n i’n *ddwyieithog nes i fi symud i ffwrdd i’r brifysgol. Fe es i i ysgol gynradd ac uwchradd Gymraeg, lle ro’n i’n haelod o’r Urdd, ac yn mwynhau mynd ar deithiau preswyl i Lan-llyn a Llangrannog, a chystadlu mewn Eisteddfodau. Dysgon ni ddawnsio gwerin mewn gwersi addysg gorfforol yn yr ysgol gynradd, a ro’n i’n hoff iawn o dwmpath dawns.

Dysgon ni am y Mabinogi; a chwedlau a thraddodiadau Cymru fel y Fari Lwyd. Ro’n ni hefyd wedi dysgu llawer am hanes Cymru, a sut cafodd ein hiaith genedlaethol ei thrin fel *niwsans a rhywbeth y dylid cael gwared arni. Ro’n i wedi synnu wrth ddysgu am hanes y ‘Welsh Not’, a phobl yn newid cyfenwau Cymraeg, fel ‘ap Rhys’ i ‘Price’ er mwyn creu fersiynau Saesneg o’u cyfenwau oedd yn fwy ‘derbyniol’. Mae’n bosibl mai’r profiadau cynnar hyn a daniodd fy niddordeb fel oedolyn yn y berthynas rhwng diwylliant, iaith a phŵer.

Doedd symud o Gaerdydd i Fryste i fynd i’r brifysgol ddim yn sioc ddiwylliannol enfawr, ond fe agorodd fy llygaid i rai pethau ro’n i wedi’u cymryd yn ganiataol, fel arwyddion dwyieithog a phresgripsiwn meddygol am ddim! Roedd gen i grŵp o ffrindiau rhyngwladol a *rhyngddiwylliannol iawn, ond sylwais i y byddai rhai pobl yn dweud pethau negyddol am Gymru a’r Gymraeg, ac ro’n i’n siŵr na fydden nhw’n dweud yr un peth am ieithoedd eraill. Roedd hyn yn fy ngwylltio. Rwy’n credu i fi brofi’r *cliché ‘na o beidio gwerthfawrogi’r hyn sydd gennych chi nes ei fod wedi diflannu – pan fyddwn i gartref byddwn i’n gallu siarad Cymraeg neu Saesneg, ac roeddwn i’n gweld eisiau sgyrsiau Cymraeg.

Sylwais hefyd ar fwy o ragfarn* wrth-Gymraeg yn fy hen weithle, gyda cydweithwyr yn dweud bod cyfieithu dogfennau i’r Gymraeg yn ‘wastraff amser, gan fod pawb yn deall Saesneg felly dylai’r cyfan fod yn Saesneg’. Wrth gwrs, mae hyn yn anwybyddu’r bobl niferus sy’n siarad Cymraeg gartref, yn y gwaith, ac yn eu cylchoedd cymdeithasol. Heb sôn am unrhyw un sydd, yn syml, yn well ganddyn nhw ddarllen dogfen yn Gymraeg yn lle yn Saesneg! Gwnaeth wynebu agweddau gwrth-Gymraeg wneud i mi deimlo’n agosach ac yn fwy amddiffynnol o fy hunaniaeth fel siaradwr Cymraeg. Weithiau mae angen rhywbeth i wrthryfela* yn ei erbyn mewn bywyd!

Yn fy ngweithleoedd cyntaf ar ôl y brifysgol, byddai pobl yn aml yn gofyn i fi gyfieithu pethau syml, a buan y sylweddolais i fy mod i wir yn mwynhau gwneud. Ro’n i’n ei fwynhau cymaint nes mai swydd gyfieithu oedd fy swydd ddiwethaf. Yna, cefais i gynnig *cyfle wedi’i ariannu i astudio gradd meistr, ac yn ystod y radd honno *rhoddais gynnig ar gyfieithu ar y pryd, ac ro’n i wrth fy modd! Roedd hi’n anodd gweithio’n llawn-amser ac astudio am fy ngradd meistr yn rhan-amser, ond roedd yn werth chweil – rwy’n credu mai’r rhan orau oedd dod â fy mab, oedd yn chwe wythnos oed ar y pryd, i seminar gyda fi!

Mae fy mab a fy merch yn mynd i ysgolion Cymraeg, ac rwy’n falch iawn y byddan nhw hefyd yn tyfu i fyny yn ddwyieithog. Y tu allan i’r ysgol maen nhw hefyd yn cael eu *trochi yn niwylliant Cymru; rydyn ni’n darllen llyfrau Cymraeg a Saesneg gartref, yn gwylio Cyw ar y teledu, ac yn mwynhau mynd i Tafwyl ac i’r Egin. Mae fy ngŵr yn dod o Newcastle, a dim ond Saesneg roedd e’n ei siarad cyn iddo gwrdd â fi, ond mae e bellach yn mwynhau gwylio Pobol y Cwm a Rownd a Rownd gyda’r is-deitlau, ac mae’n gwybod rhai geiriau Cymraeg pwysig fel cwrw!

Ieithoedd a fi: TGAU Ffrangeg

Dewisais astudio Ffrangeg fel TGAU, er gwaetha’r holl jôcs am fy enw… roedd e’n ddoniol y tro cyntaf i rywun grybwyll y peth, wir! Mwynheais ddysgu iaith newydd, ac ro’n i’n ddigon ffodus o gael athro creadigol iawn a oedd yn ein hannog i ganu caneuon i’n helpu i ddysgu gwahanol bethau fel y wyddor.

Un ffordd greadigol a ddefnyddiais i ddysgu Ffrangeg oedd gwylio gemau Cynghrair y Pencampwyr ar sianeli teledu Ffrainc er mwyn codi geiriau o’r sylwebaeth! Roedd yn ffordd dda o ddod i arfer â gwahanol acenion, ac roedd yn hawdd ei ddilyn oherwydd ro’n i’n gallu gweld beth oedd yn digwydd ar yr un pryd. Ro’n i hefyd yn arfer dweud wrth fy mam bod gwylio pêl-droed yn ‘adolygu’! Er fy mod i’n jocian am y peth, roedd hyn yn beth defnyddiol a hwyliog i’w wneud ochr yn ochr â dulliau adolygu mwy traddodiadol.

Ystyriais astudio Ffrangeg ar gyfer lefel Safon Uwch, a weithiau rydw i’n difaru na wnes i, gan fy mod i wedi anghofio llawer o’r hyn ddysgais i ar gyfer lefel TGAU. Serch hynny, dewisais astudio pum pwnc Safon Uwch bryd hynny, a doedd dim lle i un arall!

Ro’n i’n meddwl fy mod i wedi anghofio fy Ffrangeg i gyd, ond ces i fy synnu ar yr ochr orau pan es i i’r brifysgol ac roedd un o fy nghyd-letywyr yn dod o Foroco. Arabeg oedd ei iaith gyntaf, Ffrangeg oedd ei ail iaith, a Saesneg oedd ei drydedd iaith, ac er roedd e’n hapus i siarad Saesneg, roedd e’n blino yn ei siarad drwy’r dydd. Roedd e’n arfer dod â ffrindiau oedd yn siarad Ffrangeg draw i’n tŷ, ac ro’n i bron iawn yn gallu deall popeth roedden nhw’n ei ddweud, ac ro’n nhw’n gallu deall llawer mwy o Saesneg nag oedden nhw’n gallu ei siarad. Roedd hyn yn golygu oherwydd y ddealltwriaeth ro’n i wedi’i ddatblygu wrth astudio TGAU Ffrangeg, ac er fy mod i wedi colli fy ngallu i siarad yn gyfan gwbl bron (neu’r hyder i siarad efallai), roedd modd i fi dreulio amser gyda’r grŵp yma o fyfyrwyr o Ffrainc a Gogledd Affrica yn ein cegin, a mwynhau cwmni ein gilydd er gwaetha’r hyn a allai gael ei ystyried yn *rwystr iaith.

Fy mywyd fel myfyriwr & fi yn y dyfodol

Mae fy mywyd fel myfyrwraig ychydig yn wahanol yn yr ystyr fy mod i’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ond yn dysgu o bell, gan fy mod i’n byw yng Nghaerdydd gyda fy nheulu. Yn gyffredinol, dw i’n gweithio gartref, ac mae’r rhan fwyaf o fy nysgu yn *anghydamserol, sy’n golygu y galla i drefnu fy oriau fy hun o gwmpas fy oriau ysgol, swydd fy ngŵr, a fy anghenion fy hun i redeg a nofio mor aml â phosibl. Mae hyn yn *fraint enfawr, ond ar yr un pryd mae’n rhywbeth y dylid ei drin â llawer o ofal; mae’n cymryd llawer o *ddisgyblaeth i weithio pan allwch wneud eich gwaith ar unrhyw adeg. Hefyd, mae gweithio o gartref yn golygu bod angen i chi gael ffiniau clir er mwyn osgoi meddwl am waith bob amser o’r dydd.

Ar ôl i fi orffen fy ngradd PhD a chymryd y teitl Dr Non, dw i’n gobeithio dod o hyd i swydd o fewn maes ymchwil; yn ddelfrydol fel aelod academaidd o staff mewn brifysgol. Hoffwn hefyd gadw moch fel anifeiliaid anwes!