Shw’mae bawb! Cyfarthion gen i Poppy’r ci, yr ail aelod o bartneriaeth gyd-weithio, Mentora ITM. Fi yw chwaer iau ac, rwy’n hoffi meddwl, pertach Ellie – wel mae gen i lai o’r cwrls-pŵdl. Felly rwy’n cael llai o frigau a mwd yn sownd yn fy nghôt o leiaf! Os yw Ellie yn meddwl ei bod hi’n cael yr holl sylw ar gyfer ymgyrch cyfryngau cymdeithasol Mentora ITM, yna gwell iddi feddwl eto… dwi ddim yn cael fy ngalw’n Poppalicious am ddim!

Rwy’n ddigon ffodus i fod yn gyd-weithiwr ac yn ffrind mynwesol i Becky Beckley, a does dim yn well gen i na galwad Teams am 9am – os yw’n dechrau hebddo i, rwy’n dechrau dioddef o FOMO difrifol. Mae nghartref yn un swnllyd, gyda’r bechgyn Beckley yn fy nghadw ar flaenau fy mhawennau, maen nhw’n hoffi chwarae ffrisbi gyda mi a chuddio’r ysgewyllen (yr anrheg Nadolig sy’n dal i roi…). Maen nhw hefyd yn hoff o wneud y conga gyda mi sy’n olygfa ddiddorol… efallai y gwna’i rannu llun i chi ei fwynhau ond fe adawa i i’r disgwyliadau dyfu’n gyntaf!

Pan mae Becky wrthi’n gweithio’n galed gartref wrth y ddesg yn y gegin rydw i naill ai’n hoffi cysgu am ambell awr go dda neu gael hwyl yn yr ardd gefn, mae cymaint o adar a gwiwerod i fynd ar eu holau, roeddwn i hyd yn oed yn ddigon ffodus i ddod o hyd i lygoden fawr farw unwaith… wps efallai y byddai’n well gan Becky i mi beidio â sôn am hynny!

Rwy’n aml yn ansicr a ydw i eisiau bod y tu allan neu’r tu mewn ac rwy’n credu ei bod hi’n deg dweud bod Becky weithiau’n gwylltio dipyn bach, gan fy mod yn aml yn torri ar ei thraws trwy daro fy mhawennau ar y drws i fynd allan, neu ddod yn ôl i mewn.

Ei chas beth yw pan fyddai’n taro fy mhawennau ar y drws i ddod yn ôl i mewn ac yna rhedeg i ffwrdd pan fydd hi’n dod at y drws (ciw chwerthin direidus…). Tybed beth sydd waethaf ganddi, y ffaith fy mod i wedi tarfu arni a bod yn rhaid iddi gerdded draw i agor y drws, neu’r ffaith ei bod wedi gorfod agor y drws i mi ac o ganlyniad bod yr ychydig wres sydd yn y tŷ mewn argyfwng cost byw, wedi dianc drwy’r drws (ciw wyneb euog…).

Beth bynnag, fe wnaeth hyn i gyd i mi feddwl am beth fyddech chi’n galw’r ‘gêm’ hon – y curo ar y drws (y taro gyda’r pawennau – neu hyd yn oed y crafu yn fy achos i ar ddiwrnod drwg) a rhedeg i ffwrdd. Lle cafodd Becky ei magu yn Ne Cymru, roedden nhw’n ei alw’n ‘cherry knocking’, ond rwy’n credu bod ganddo lawer o enwau gwahanol yn dibynnu ar yr ardal lle rydych chi’n byw (oes unrhyw un wedi clywed am Knock, Knock, Ginger/Ding Dong Ditch neu Nicky Nicky Nine Doors?). Mae Becky yn dweud wrtha i fy mod i’n lwcus nad ydw i’n fod dynol oherwydd pe bawn i’n berson o gig a gwaed, byddwn i’n torri’r gyfraith gan fod cherry knocking yn anghyfreithlon o dan gyfraith 1839… o yndi, mae bywyd ci yn fywyd da!

Byddwn wrth fy modd yn clywed eich barn ar hyn felly gadewch i mi wybod beth rydych chi’n galw hyn, ar Twitter/Instagram – ymunwch â mi yno!

Dysgwch rywbeth newydd heddiw, edrychwch ar hyn Knock, Knock, Ginger: The History of the Ding-Dong-Ditch Prank – Professional Moron