Amdanaf fi

Hello/Ciao/Shwmae/Hallo/Hola/مرحبًا! Fy enw i yw Sara, dw i’n 28 oed, a dw i’n fyfyriwr *PhD Eidalaidd ym Mhrifysgol Bangor.

Dw i’n dod o bentref bach wrth droed yr Alpau, yng ngogledd yr Eidal. Dw i bob amser wedi mwynhau cyfarfod â phobl newydd , a dw i’n meddwl bod gallu siarad ieithoedd gwahanol  yn rhan fawr o hyn.

Mae gen i ffrindiau o bob rhan o’r byd, a hyd yn oed ym Mangor dw i’n cael y cyfle i sgwrsio mewn tair iaith wahanol gyda ffrindiau a chydweithwyr.

Weithiau dw i’n deffro yn y bore a dw i’n siarad gan gymysgu ieithoedd gwahanol hefyd. Dw i’n meddwl fy mod i  wedi dweud rhywbeth sy’n gwneud synnwyr, ond wedyn mae fy mhartner yn edrych arna i mewn ffordd ddoniol neu’n dechrau chwerthin, a dw i’n sylweddoli fy mod i wedi drysu fy ieithoedd eto!

Dw i wedi bod yn byw yn y gogledd ers dwy flynedd bellach, a dw i wrth fy modd!

Fy marn i am ysgol

Dw i’n dod o bentref bach o’r enw Gianico yn yr Eidal ac fe es i i’r un ysgol â fy ffrindiau nes oeddwn i’n 14 oed. Pan wnaethon ni dechrau yn yr ysgol gyfun, yn sydyn roedd yn rhaid i ni ddod i arfer ag adeilad llawer mwy, mewn tref fwy, gyda myfyrwyr a phobl o’r cwm cyfan. Doedd gen i ddim ffrindiau yn fy nosbarth newydd i ddechrau, ond fe wnes i lwyddo ymgartrefu ar ôl ychydig.  Fe es i i ysgol uwchradd, ond roeddwn i’n ddigon ffodus i astudio pynciau fel Lladin ac Athroniaeth yno gan nad yw hyn bob amser yn bosibl.

Mae’r system ysgolion yn wahanol yn yr Eidal, a does gennych chi ddim yr un rhyddid i ddewis pa bynciau rydych am eu hastudio . Pan rydych yn 13, mae rhaid i chi benderfynu pa ysgol sy’n cynnig y pynciau rydych chi’n eu mwynhau fwyaf,  ac yna ni fydd eich pynciau’n newid am y pum mlynedd nesaf oni bai eich bod yn symud i ysgol arall. Dw i bob amser wedi dwlu ar ysgol. Dw i’n meddwl mod i’n dipyn o nerd; a dweud y gwir dw i’n meddwl mod i’n dal i fod yn un!

Gianico, Lombardy:

Dw i bob amser wedi cael diddordeb mawr mewn pethau ‘newydd’, dw i wrth fy modd yn dysgu pethau am bobl a natur. Fy hoff bynciau yn yr ysgol oedd gwyddoniaeth a hanes.

Roeddwn bob amser yn hiraethu am adref pan oeddwn yn iau, i’r pwynt na fyddwn yn stopio crio amser gwely os nad oeddwn yn yr un lle â mam (tan fy mod tua 12!). Roedd fy nheulu wedi synnu cymaint pan wnes i ddweud wrthyn nhw fy mod i eisiau gwneud cais am *ysgoloriaeth i dreulio blwyddyn yn astudio yn *Ecuador pan oeddwn i’n 17! Doedd neb yn credu y bydden i’n ymdopi, ond dyna oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.

Ieithoedd a fi

Yn amlwg, Eidaleg yw fy iaith gyntaf. Dw i hefyd yn falch o siarad fy *nhafodiaith leol, iaith sydd bellach yn diflannu ac mae pobl iau yn anghofio’n hawdd fod tafodieithoedd yn ein cysylltu â’n *gwreiddiau amaethyddol.

Dw i’n rhugl yn Saesneg a Sbaeneg a dw i’n siarad Ffrangeg yn eithaf da – dw i hefyd wedi dechrau dysgu Cymraeg ers i mi symud yma!

Fe wnes i ddechrau dysgu Sbaeneg yn ystod fy mlwyddyn tramor yn Ne America a dw i’n gwybod tipyn o Ffrangeg oherwydd tyfodd fy nain i fyny yn Ffrainc, ac fe wnes i astudio Ffrangeg yn yr ysgol uwchradd hefyd.

Dw i’n gwybod ambell air neu frawddeg mewn ieithoedd eraill hefyd a dw i’n hoffi eu defnyddio wrth deithio. Mae llawer o ieithoedd eraill dw i eisiau dysgu hefyd: Portiwgaleg, *Esperanto, Gaeleg yr Alban, ail-cychwyn Arabeg … mae’n rhestr ddiddiwedd!

Dw i’n ffeindio dysgu Almaeneg yn anodd. Dw i wedi ceisio ei dysgu, ond am ryw reswm dw i’n ei chael hi’n llawer anoddach nag ieithoedd eraill.

Yn gyffredinol, dw i’n meddwl mai’r peth pwysicaf yw nid pa mor rhugl ydych chi mewn iaith, ond yn hytrach pa mor fodlon ydych chi i ddysgu hyd yn oed ychydig eiriau: mae’n arwydd o barch, cynwysoldeb a *gostyngeiddrwydd.

Nid yw pawb yn siarad Saesneg a dw i’n meddwl ei fod yn beryglus credu hyn.

Fy mywyd fel myfyriwr

Yn y brifysgol yn Fenis, astudiais cwrs BA mewn Diwylliannau’r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, ac roeddwn i wedi astudio Arabeg a Ffarsi.

Roeddwn i’n *angerddol am wyddoniaeth ac eisiau astudio meddygaeth, ond roeddwn i hefyd yn meddwl y byddai gradd mewn ieithoedd yn caniatáu i mi deithio mwy. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn gydweithrediad a diplomyddiaeth ryngwladol* hefyd.

Doeddwn i ddim yn gallu treulio amser mewn gwlad Arabeg ei hiaith am nifer o resymau ac roedd yr arholiadau gramadeg yn anodd iawn. Fe wnes i ddarganfod hefyd, yn enwedig yn yr Eidal, ei bod yn anodd dilyn gyrfa mewn diplomyddiaeth os nad ydych chi yn y cylchoedd cywir  neu ddim yn ddigon cyfoethog.

Felly, fe wnes i sylweddoli’n fuan nad oedd Cysylltiadau Rhyngwladol yn addas i mi, a gramadeg Arabeg hyd yn oed yn llai felly (o leiaf adeg hynny). Ond er hyn, fe wnes i ddyfalbarhau; doeddwn i ddim eisiau gwastraffu’r holl waith caled, ac yn y pendraw roeddwn i’n hapus iawn gyda’r radd enillais.

Yn ystod fy mhrofiad gwaith roeddwn yn ddigon lwcus i weithio mewn Ysgol Ryngwladol yn Dubai gyda disgyblion ag anghenion arbennig. Roeddwn i wir wedi mwynhau gweld sut roedd plant yn mynd ati i ddysgu iaith.

Roeddwn i wedi ffeindio fy *ngalwedigaeth newydd, roeddwn i eisiau dysgu mwy am yr ymennydd! Felly, treuliais  blwyddyn yn astudio modiwlau mewn *ffisioleg, ystadegau a rhaglennu, ac yna dechreuais *radd meistr mewn Niwrowyddoniaeth Wybyddol yn fuan wedi hynny.

Cefais brofiadau anhygoel yn ystod y ddwy flynedd hynny, yn ogystal â rhai adegau anodd hefyd. Roeddwn i yn yr Eidal yn bennaf ac roeddwn i braidd yn siomedig am hyn oherwydd roeddwn i bob amser wedi bod eisiau symud nôl dramor ar ôl fy mhrofiad cyntaf yn Ecwador, ond roedd teulu mawr yn golygu bod yn rhaid i mi helpu gartref, a dw i  bob amser wedi gweithio wrth astudio ers i mi fod yn 16.

Treuliais chwe mis yn yr Almaen i wneud fy nhraethawd ymchwil meistr, a dysgais lawer am fy mhrosiect ac amdanaf fi fy hun yn ystof y cyfnod yma. Fe wnes i gymaint o ffrindiau diolch i orfod rhannu ystafell wely, ond eto doedd y profiad o weithio yn y labordy yno ddim yn *gynhwysol iawn*  – efallai mai’r profiad hwn sy’n gyfrifol am fy anawsterau wrth ddysgu Almaeneg.

Fe wnes i wir gael y gorau o fy ngradd ac ni feddyliais erioed y byddwn yn gwneud cystal ag y gwnes i! Roeddwn yn falch iawn ohonof fy hun.

Fi yn y dyfodol

Cyrhaeddais bwynt lle  roeddwn i wedi ennill fy ngradd, roeddwn yn *wenynwraig, cefais brofiad siomedig yn yr Almaen, ac roeddwn wedi symud o un lle i’r llall o amgylch yr Eidal a threulio ychydig o amser dramor wrth astudio.

Doeddwn i ddim yn siŵr am PhD ond roeddwn i eisiau bod yn flaengar, felly fe wnes i gais am ychydig o gyrsiau ond doeddwn i ddim yn eu cymryd o ddifri mewn gwirionedd.

Roeddwn i’n hapus lle roeddwn i, yn hapus iawn. Ac yna, daeth COVID.

Roeddwn i’n lwcus fy mod i’n byw mewn pentref bach gyda chae mawr lle gallwn i anadlu a threulio amser gyda’m gwenyn, ac nid oedd yr un o fy nheulu yn yr ysbyty oherwydd COVID.

Ond yn y dyfodol roeddwn i eisiau mwy , ac roeddwn yn ofni ychydig y byddwn i’n sownd yn y cwm hwnnw yn y pen draw.

Felly, penderfynais symud i Gymru i ddilyn fy angerdd am wenyn!

Rwy’n ddiolchgar am y profiad hwn, ac am allu bod yn rhan o lawer o brosiectau cyffrous, megis Mentora ITM.

A byddwn yn gwneud y cyfan eto heb feddwl ddwywaith!

  • PhD – cwrs prifysgol sy’n seiliedig ar ymchwil, dyma’r lefel uchaf o gymhwyster y gallwch ei gael yn y DU
  • Ysgoloriaeth –pan fyddwch yn gwneud cais i sefydliad dalu am eich cwrs
  • Ecuador – mae Ecuador yng nghornel orllewinol uchaf cyfandir De America
  • Diplomyddiaeth ryngwladol – rheoli cysylltiadau rhwng gwahanol wledydd
  • Profiad gwaith – swydd tymor byr yn cynnig profiad ymarferol mewn rôl broffesiynol
  • Ffarsi – Dyma’r iaith Iraneg fodern sy’n cael ei siarad yn Iran ac Afghanistan. Mae hefyd yn cael ei alw’n Berseg
  • Tafodiaith- amrywiad o iaith sydd yn nodweddiadol o ardal benodol neu grŵp penodol o siaradwyr
  • Gwreiddiau amaethyddol – ffermio yn y gorffennol
  • Angerddol – teimlo’n gryf iawn dros rywbeth
  • Gostyngeiddrwydd – rhywun sy’n gwybod nad ydyn nhw’n berffaith
  • Galwedigaeth – teimlad cryf tuag at yrfa neu alwedigaeth benodol
  • Ffisioleg – astudio sut mae’r corff yn gweithio
  • Gradd meistr– cwrs academaidd y gallwch ei astudio ar ôl cwblhau eich gradd gyntaf yn y Brifysgol
  • Wenynwraig – rhywun sy’n cadw gwenyn
  • Cynhwysol – gwneud i bawb deimlo bod croeso iddynt
  • Esperanto – iaith artiffisial a ddyfeisiwyd yn 1887 fel ffordd o gyfathrebu rhwng gwledydd
  • Traethawd ymchwil – traethawd hir, hir iawn