Mis diwethaf daeth tîm Mentora ITM â rhai o’n mentoriaid anhygoel at ei gilydd i drafod eu profiadau gyda’r prosiect. Roedd yn fore gwirioneddol ysbrydoledig a mae’r tîm bellach llawn egni, syniadau a brwdfrydedd wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Roedd ein mentoriaid wedi creu argraff fawr arnom (fel maen nhw bob tro!) gan rannu eu syniadau gwych gyda ni. Mae wedi bod yn bleser i weithio gyda grŵp o fentoriaid mor amrywiol eleni, ac felly roedd tîm Mentora ITM yn awyddus iawn i dynnu sylw at yr ystod eang o brofiadau a safbwyntiau’r grŵp gwych yma! Mae ein mentoriaid yn fodelau rôl i ddysgwyr yn ein hysgolion, ond teimlwn yn gryf bod eu profiadau bywyd a’u teithiau personol amrywiol hefyd yn debygol iawn o ysbrydoli’r gymuned ehangach.

Felly, pa ffordd well o ddangos gwerth ein prosiect a’i genhadaeth i godi ymwybyddiaeth ddiwylliannol na dathlu ein mentoriaid a’u straeon amrywiol. Pa bynnag hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd, neu gymuned yr ydych yn perthyn iddi – mae Mentora ITM yn eich croesawu a’ch dathlu CHI!

Roedd y Grŵp Ffocws yn gyfle perffaith i’n mentoriaid fyfyrio ar eu taith fentora, yr uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. Dyma rhai o’r syniadau allweddol roedd y mentoriaid wedi rhannu â ni:

“Mae’n anhygoel cael cymuned sy’n deall pwysigrwydd a harddwch ieithoedd ac yn lledaenu’r neges hon. Mae fel cynnau cannwyll mewn tywyllwch, goleuo meddyliau…”

– Basma, Prifysgol Abertawe

“Dw i wedi sylweddoli pa mor bwysig yw hi i fod yn fodel rôl i’r dysgwyr sy’n cael eu mentora ac annog brwdfrydedd dros ieithoedd. Bydden i wedi elwa’n aruthrol o hyn.”

– Elliott, Prifysgol Caerdydd

“Gyda’r naratif negyddol presennol ynghylch hawliau traws, mae wir yn hyfryd i fod yn rhan o gymuned sydd nid yn unig yn parchu fy hunaniaeth ond sy’n fy annog i sefyll i fyny dros fy hun, defnyddio fy enw, defnyddio fy rhagenwau, ac i ddathlu pwy ydw i yn y byd gwaith.”

– Jules, Prifysgol Abertawe

“Mae’r mentoriaid yn gwbl gynrychioladol o amrywiaeth. Mae’r ffordd y mae’r sesiynau wedi’u cynllunio yn hybu cyfnewid diwylliannol.”

– Dom, Prifysgol Caerdydd

“Dw i wedi bod yn argymell hyn i fyfyrwyr rhyngwladol eraill. Mae’n brofiad sy’n agoriad llygad, nid dim ond y mentora ei hun a chael gweld sut mae tîm y prosiect yn gweithio, ond hefyd cael gwell dealltwriaeth o sut gallwn ddefnyddio ein straeon personol i hybu cyfathrebu a chysylltiadau rhyngddiwylliannol.”

– Zhen Ni, Prifysgol Caerdydd

Mae’r ffordd y mae’r prosiect yn dod â mentoriaid at ei gilydd i ddathlu pwy ydyn nhw fel unigolion, yn un o’r pethau mwyaf rhyfeddol am Fentora ITM. Rydyn ni’n hynod falch o’n mentoriaid ac maent yn rhoi gobaith i ni wrth iddynt rannu eu straeon gyda dysgwyr ifanc ledled Cymru, gan efallai mai nhw fydd y modelau rôl y mae ein dysgwyr wedi bod yn chwilio amdanynt!

Roedd yn fraint fawr i’r tîm fod yn rhan o’r trafodaethau a’r myfyrio gwych yn ystod y Grŵp Ffocws, ac er efallai bod hyn yn swnio fel cliché, mae gweld ein myfyrwyr yn blodeuo yn eu rôl fel mentoriaid gwir wedi creu argraff fawr arnom. Roedd awydd y mentoriaid i ddangos parch at ei gilydd, i ddysgu oddi wrth ei gilydd, ond hefyd i wneud ei gorau glas i’w gilydd yn wirioneddol ysbrydoledig. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn o waelod ein calonnau, i bob un o’n mentoriaid am ymddiried ynom ni i adlewyrchu eich lleisiau.