Dyma gipolwg ar yr ymweliadau rhyngwladol cyffrous sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd gan ddysgwyr a staff yn y sector Addysg Bellach yng Nghymru – y blog cyntaf o lawer gobeithio!

Ond yn gyntaf oll – beth yw Addysg Bellach?

Mae colegau Addysg Bellach yn gweithio gyda grŵp amrywiol o ddysgwyr gan gynnwys dysgwyr a adawodd yr ysgol yn 16 oed ac oedolion yn eu 90au! Mae colegau Addysg Bellach yn cynnig cymaint o gyfleoedd – dyma rai enghreifftiau:

  • Dysgu sgil neu grefft

  • astudio pwnc galwedigaethol fel Gwallt a Harddwch, Peirianneg, Gofal Anifeiliaid

  • astudio Lefel A mewn ystod eang o bynciau

  • astudio fel rhan o raglen brentisiaeth

  • dilyn cyrsiau dysgu oedolion mewn Saesneg sylfaenol, mathemateg a chyrsiau lefel mynediad eraill

Ar ben hyn oll, gall dysgwyr Addysg Bellach dreulio peth amser dramor fel rhan o’u cwrs. Gallant fanteisio ar raglenni hyfforddi a gwirfoddoli, neu ymgymryd â phrofiad gwaith unrhyw le yn y byd – am gyfnodau amrywiol o 5 diwrnod i flwyddyn gyfan! Os yw’r syniad yma’n gwneud i chi deimlo ychydig yn nerfus, peidiwch â phoeni gan fod aelodau o staff o’r coleg hefyd yn teithio â ‘r dysgwyr am ymweliadau hyd at bythefnos.

Ac i goroni’r cyfan mae’r rhan fwyaf o’r ymweliadau hyn yn cael eu hariannu gan raglenni llywodraeth gydnabyddedig fel Taith (rhaglen gyfnewid ryngwladol Llywodraeth Cymru; Hafan – Taith) a’r Cynllun Turing (rhaglen gyfnewid ryngwladol Llywodraeth y DU; Homepage – Turing Scheme (turing-scheme.org.uk)). Mae ColegauCymru yn arwain ar geisiadau consortiwm Cymru gyfan am gyllid o’r ddwy raglen ar ran y sector. Gall colegau hefyd wneud cais am eu cyllid eu hunain.

Mae rhai o’r ymweliadau i ddysgwyr a drefnwyd yn ystod y 12 mis diwethaf trwy brosiectau consortiwm ColegauCymru yn cynnwys:

Coleg Gwent -Taith Ffotograffiaeth Safon Uwch i Tenerife

Coleg Ceredigion – Taith Iechyd a Gofal i Ganada

Coleg Sir Gâr – Taith Lefel A i Wlad Thai

Academi pêl-droed Coleg Caerdydd a’r Fro (bechgyn a merched) – Taith i Benfica, Portiwgal

Nid oes angen siarad Cymraeg, Saesneg nac unrhyw iaith arall yn rhugl i gymryd rhan yn yr ymweliadau hyn. Fodd bynnag, yn rhan o broses ddewis y dysgwyr, mae angen dangos ymrwymiad i ddysgu rhywfaint o’r iaith yn ogystal â pharodrwydd i ddysgu rhagor am ddiwylliant a thraddodiadau’r wlad cyn iddynt teithio yno. Dyma gyfleoedd ardderchog i ehangu gorwelion, meithrin hyder a chodi dyheadau. Mae dysgwyr yn aml yn nodi ar ôl iddynt ddychwelyd o’r ymweliadau a myfyrio ar eu profiadau mai dyma oedd pythefnos gorau eu bywydau!

Ac ar gyfer aelodau staff Addysg Bellach, mae yna ymweliadau arloesol yn cael eu cynnal ar hyn o bryd i Japan, Dubai, Sbaen, Gwlad Thai, Mecsico a’r Unol Daliaethau. Mae’r rhain yn gyfleoedd DPP byd-eang a fydd yn cyfoethogi ac yn gwella profiadau dysgu i ddysgwyr Addysg Bellach.

Edrychwch ar y fideo hwn sy’n dangos cydweithio rhwng Nexgen Careers, CBAC a cholegau ledled Cymru i ryngwladoli darpariaeth ein cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd. –

Gwella Addysg Trwy Gydweithio Rhyngwladol

https://youtu.be/E3MjLNIRyfQ

Dyma’r blog cyntaf o’r sector Addysg Bellach ac rydym yn edrych ymlaen at glywed sut brofiad oedd yr ymweliadau yma i’n dysgwyr, staff a’n partneriaid rhyngwladol, a’u rhannu nhw gyda chi’n fuan iawn!