Wel, wel, am benwythnos! Dyna benwythnos hyfforddi arall wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, ac rydyn ni wrth ein boddau!

Rydyn ni wedi cael y fraint o gyfarfod ein mentoriaid, cael sgwrs ddiddorol â nhw a mwynhau awyrgylch hapus llawn cyffro gyda’n gilydd.

At ei gilydd, ymunodd 44 o fentoriaid dan hyfforddiant â ni yng Nghaerdydd am ddau ddiwrnod er mwyn dysgu mwy am Fentora ITM a beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o’r prosiect.

Cawson nhw gyfle i ddysgu wrth rai o’n mentoriaid presennol anhygoel, a oedd yn rhan annatod trwy gydol y penwythnos hyfforddi.

'Rhannu syniadau amrywiol'

Mae bob amser yn gyffrous cwrdd â mentoriaid newydd, ac nid oedd y penwythnos hyfforddi hwn yn ddim gwahanol.

Gwahoddwyd myfyrwyr o Aberystwyth, Bangor, Wrecsam Glyndŵr, Abertawe, Caerdydd a Met Caerdydd, felly roeddem yn gwybod y byddai hwn bendant yn benwythnos diddorol!

Fel arfer, mae ein penwythnosau hyfforddi yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ar draws y wlad, ond y penwythnos hwn penderfynon ni ddod â phawb at ei gilydd o bob rhan o Gymru, gan ganiatáu i ni weithio gyda’n criw newydd o fentoriaid fel un grŵp mawr.

Un o’r pethau gorau am gwrdd â’r mentoriaid yw darganfod mwy amdanyn nhw a’u rhesymau dros gymryd rhan yn y prosiect.

Gyda mentoriaid o bron bob cornel o’r byd, o Gymru a’r DU, i India, Gwlad Pwyl, Tsieina, Sbaen, Fietnam, Cyprus,

Ynysoedd y Philipinau, i enwi ond ychydig! Mae’n gyfle prin a rhyfeddol i gael cymaint o unigolion o wahanol gefndiroedd diwylliannol ac ieithyddol i gyd gyda’i gilydd mewn un lle.

Mae’r adborth a gawsom gan un o’n mentoriaid ar ôl yr hyfforddiant yn disgrifio hyn yn berffaith: ‘Doeddwn i ddim yn disgwyl i lawer o bobl o wahanol ddiwylliannau fod mewn un man yn rhannu syniadau amrywiol. Roeddwn wrth fy modd â hynny ac wedi mwynhau cwmni pobl mor hyfryd!’

Mae’r mentoriaid hefyd yn astudio amrywiaeth eang o bynciau gwahanol, o gyrsiau iaith i bynciau sy’n cynnwys marchnata, busnes, sŵoleg, cyfansoddi caneuon, y gyfraith, comics, a throseddeg.

Mae’n galonogol gweld cynifer o bobl o gefndiroedd ac arbenigedd gwahanol yn dod at ei gilydd ac yn ffurfio cyfeillgarwch diolch i’w cariad at ieithoedd.

Rydym hefyd yn hynod falch o’r mentoriaid presennol a oedd wir wedi blodeuo yn ystod y penwythnos hyfforddi, gan weithio’n galed ac arwain ar  sawl elfen o’r hyfforddiant.

Roeddem yn ffodus iawn i gael cwmni Alice, Dom, Firial, Elliott, Hannah, Jacob a Jules drwy gydol yr hyfforddiant.

O’r dechrau i’r diwedd, roeddent wedi arwain trwy esiampl gan ymgorffori egwyddorion y prosiect yn arbennig o dda, sy’n dipyn o gamp o ystyried mai dim ond nôl ym mis Medi y dechreuodd rhai ohonyn nhw ar eu taith fentora gyda ni!

'Yn hytrach na meddwl ‘dydw i ddim wedi dod o hyd i iaith rwy’n ei hoffi’, meddyliwch, ‘dw i ddim wedi dod o hyd i iaith rydw i’n ei hoffi eto.’

Dros y penwythnos, clywodd y mentoriaid yn uniongyrchol gan dîm y prosiect am yr hyn y mae rôl Mentor ITM yn ei olygu yn ystod gweithdai pynciau amrywiol megis sgiliau a rhinweddau mentor a diogelu plant mewn ysgolion.

Cynhaliwyd gweithgareddau ymarferol gyda’n mentoriaid presennol yn ogystal â ffair syniadau rhyngweithiol.

Yn ystod un o’r gweithgareddau, lle bu mentoriaid yn trafod sut i ymateb i agweddau negyddol tuag at ieithoedd mewn ysgolion, cafwyd rhai ymatebion arbennig o dda.

Nod y dasg oedd crybwyll ymatebion bosib i sylwadau cyffredin mae ein mentoriaid wedi dod ar draws gan ddysgwyr nad sydd eisiau ymgysylltu ag ieithoedd rhyngwladol oherwydd nad ydynt yn hoffi dysgu Cymraeg.

Roeddem wedi gwirioni  ar y cyngor canlynol gan un grŵp: “Mae angen meddwl am ieithoedd yn debyg i chwaraeon. Efallai nad ydych yn hoffi un gamp, ond efallai y gwelwch eich bod yn mwynhau camp arall hollol wahanol gyda rheolau gwahanol.”

Ymateb gwych gan grŵp arall oedd: “Yn hytrach na meddwl ‘dydw i ddim wedi dod o hyd i iaith rwy’n ei hoffi, meddyliwch, dw i ddim wedi dod o hyd i iaith rydw i’n ei hoffi eto.”

Fe wnaethom hefyd annog mentoriaid i fyfyrio ar eu perthynas ag ieithoedd, gan ofyn iddynt ystyried gwahanol agweddau o’u hunaniaeth amlieithog a gosod nodiadau wrth ymyl y gwledydd perthnasol ar fap o’r byd.

Eto, roedd yn anhygoel gweld cymaint oedd gan bawb yn gyffredin er gwaethaf eu gwahanol gefndiroedd.

Mae ein mentoriaid yn rhannu cysylltiad ddofn iawn, waeth o ble maen nhw’n dod a pha gwrs maen nhw’n ei astudio, sef eu bod nhw’n amlieithog ac yn awyddus i rannu’r rhan honno ohonyn nhw eu hunain gyda dysgwyr ledled Cymru, gyda’r gobaith o’u hysbrydoli i ddilyn taith iaith/amlieithog eu hunain.

Dros y penwythnos, fe wnaethom hefyd ofyn i’n mentoriaid dan hyfforddiant ateb rhai cwestiynau i ni felly gallem o bosibl ddefnyddio eu hymatebion mewn adnoddau yn y dyfodol. Roedd yr atebion a gawsom wir wedi ein helpu i ddeall gymhellion a theithiau iaith ein mentoriaid newydd.

Pan ofynnwyd iddynt pa iaith y byddent wrth eu bodd yn ei dysgu yn y dyfodol, atebodd un o’n mentoriaid: “Pwnjabi, oherwydd mae fy nheulu yn ei siarad ond wnes i erioed ei ddysgu fy hun.

Yn yr un modd, wrth ymateb i’r un cwestiwn, atebodd mentor arall: “Gaeleg, achos mae’n iaith a oedd yn cael ei siarad yn fy nheulu ond sydd bellach wedi’i cholli, a dw i’n caru sut mae’n swnio.

Er bod yr ymatebion yn cyfeirio at ddwy iaith wahanol, yr un yw’r teimlad a rennir rhwng y ddau fentor hyn – adfer rhan o’u hunaniaeth sydd wedi cael ei chymryd wrthyn nhw.

Efallai y bydd hyn yn rhywbeth y gallent ei drafod gyda’u dysgwyr hefyd, o ystyried y gwahanol agweddau tuag at y Gymraeg mewn gwahanol rannau o’r wlad.

Camau nesaf

Ar hyn o bryd rydym wrthi’n paru ysgolion â’u mentoriaid newydd gan ystyried yn ofalus pa ysgolion sydd  yn gweddu orau i’n mentoriaid.

Rydyn ni’n awyddus iawn i weld pa lwybrau bydd ein mentoriaid yn ei dilyn yn y pen draw a beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig iddynt ar ôl penwythnos hyfforddi mor wych!

Rydym yn edrych ymlaen at ddod i adnabod aelodau newydd teulu Mentora ITM yn well a chlywed hanes eu taith mentora.

A phwy a ŵyr, efallai y bydd rhai ohonyn nhw’n dychwelyd yn ddiweddarach eleni i hyfforddi’r criw mentora nesaf….