Cyfoeth yr Iaith a'r Diwylliant Arabeg

A minnau’n Arabes o Libia, Gogledd Affrica, rwy’n awyddus i rannu’r dw i’n ei ddeall a’i wybod am y dreftadaeth gyfoethog hon gyda chi.

Traddodiadau Diwylliannol a Gwyliau:

Gyda’r diwylliant Arabeg wedi’i ysbrydoli’n bennaf gan draddodiadau Islamaidd, Ramadan ac Eid yw’r gwyliau mwyaf poblogaidd gan eu bod nhw’n dod â chymunedau at ei gilydd ac yn rhoi ciplun i ni o werthoedd ac arferion y byd Arabaidd. Mae pwdinau, dawnsfeydd fel y Dabke a cherddoriaeth fel yr Oud i gyd yn rhan bwysig o’r diwylliant. Mae lletygarwch hefyd yn hynod bwysig yn y diwylliant Arabaidd. Mae gwesteion yn cael eu trin â pharch a gofal. Mae bwyta gyda’ch gilydd, mwynhau datysen neu ddwy gyda dy goffi, neu kaak gyda dy de, a chymryd rhan mewn sgyrsiau cyfeillgar ac ystyrlon, yn rhan allweddol o letygarwch Arabaidd. Mae’r cyfeillgarwch a’r haelioni yma’n meithrin ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn.

Dulliau coginio Arabaidd, cyfuniad o flasau a dylanwadau gwahanol:

Mae bwydydd a phrydau bwyd Arabaidd yn amrywiol ac yn niferus! Efallai dy fod eisoes yn gyfarwydd â llawer ohonyn nhw; fel hummus er enghraifft, neu falafel a shawarma, neu bwdinau fel baklava a kunafa. Nid yn unig ydy dysgu am fwydydd Arabaidd yn ein cyflwyno ni i flasau newydd a chyffrous, ond mae hefyd yn ein gwneud ni’n effro i’r elfennau hanesyddol a diwylliannol hynod ddiddorol sydd wedi dylanwadu ar draddodiadau coginio Arabaidd. Mae Libia’n enghraifft wych o wlad lle mae dylanwad sawl rhan o’r byd ar ei bwyd gan gynnwys yr Eidal, Môr y Canoldir, y Dwyrain Canol ac Affrica. Mae dylanwadau Eidalaidd yn amlwg iawn ym mwydydd Libia, gyda phethau fel pasta, risotto, a sawsiau tomato wedi hen ennill eu plwyf mewn ryseitiau traddodiadol. Mae dylanwadau Môr y Canoldir a’r Dwyrain Canol i’w gweld ar fwydydd haf fel mezze, ac mae dylanwadau Affricanaidd yn golygu bod cynhwysion sydd wedi’u gwneud allan o does yn boblogaidd, fel couscous. Mae’n daith sy’n cynrychioli cyfnewid diwylliannol!

Yr iaith Arabeg, Mwy Na Geiriau:

Mae gan Arabeg sawl tafodiaith ac acen wahanol; ond yr iaith sy’n cael ei haddysgu mewn ysgolion a’i defnyddio mewn llyfrau ac ar y newyddion, yw Fus’ha neu Arabeg Safonol Fodern. Mae’r ffordd gaiff Arabeg ei hysgrifennu hefyd yn ddiddorol, er enghraifft, does dim priflythrennau, ond yn hytrach mae llythrennau’n newid siâp pan fyddan nhw wedi cysylltu, gan greu patrwm caligraffig cain.

Hefyd, mae Arabeg yn adnabyddus am ei system ysgrifennu sy’n mynd o’r dde i’r chwith. Mae hynny’n rhywbeth anarferol iawn i bobl sy’n gyfarwydd ag ieithoedd chwith-i-dde.

Diwylliant a thraddodiadau Arabaidd:

Mae’r diwylliant Arabaidd yn hynod amrywiol, gyda thraddodiadau cyfoethog sy’n croesi sawl rhanbarth. O wledydd y Gwlff i Fawritania, mae gan bob rhanbarth ei harferion, bwyd, cerddoriaeth a chelfyddyd unigryw ei hun. Mae Arabiaid o lawer o ranbarthau gwahanol wedi dod i Gymru naill ai i weithio neu astudio, neu o ganlyniad i amodau gwleidyddol. Rydw i wedi cyfarfod â phobl o Libia, Yr Aifft, Sawdi Arabia, Syria, Yemen, Palesteina, Moroco, Oman ac Irac heb deithio tu hwnt i Gaerdydd ac Abertawe. Mae gan bob un o’r rhain eu tafodieithoedd, traddodiadau a’u bwydydd arbennig eu hunain!

Celf a Phensaernïaeth Arabaidd:

Nid yn unig ydy gwaith celf Islamaidd yn dangos dawn anhygoel yr artistiaid Arabaidd, er enghraifft y patrymau geometrig prydferth rwyt ti’n eu gweld mewn mosgiau a phalasau, ond mae hefyd yn dyst i gariad yr Arabiaid at fathemateg. Elfen nodweddiadol o dai Arabaidd yw’r ystafelloedd mawr sydd wedi’u cynllunio i gadw’r tu mewn yn oer ac yn gyfforddus yn y tywydd poeth. Pan es i i Diwnisia, cefais fy swyno gan harddwch y bensaernïaeth unigryw a’r waliau gwyn â’r ffenestri a’r drysau a oedd wedi’u paentio’n las fel yr awyr.

Mae dysgu rhagor am yr iaith a’r diwylliant Arabeg yn datgelu byd rhyfeddol a hardd. O’i sgript unigryw i’w thraddodiadau cyfoethog a’i chroeso cynnes, mae’r iaith Arabeg yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol o’r byd Arabaidd. Rwy’n gobeithio dy fod wedi mwynhau dysgu am yr iaith a’r diwylliant rhyfeddol yma. Shukran! (Diolch!)