Rebecca Gould ydw i, Pennaeth Celfyddydau y Cyngor Prydeinig yng Nghymru. Cyn ymuno â’r Cyngor Prydeinig, roeddwn i’n gyfarwyddwr theatr ac yn ystod y cyfnod hwn bûm yn gweithio am ddeng mlynedd i’r Royal Shakespeare Company. Treuliais i  lawer o fy amser yn ystod y cyfnod yma’n ennyn brwdfrydedd athrawon a myfyrwyr ar draws y DU, am iaith ein dramodydd Shakespeare, ei fydoedd niferus a pha mor berthnasol yw ei waith hyd heddiw.

Yn fy swydd, dysgais mai’r ffordd orau i fagu dealltwriaeth a mwynhad myfyrwyr o’r dramâu, ac yn arbennig o’r iaith, oedd i ddefnyddio dulliau dysgu ‘theatr byw’ egnïol. Roedd y gweithdai roeddwn i’n eu cyflwyno’n annog pobl ifanc i siarad ar goedd, waeth beth oedd safon eu Saesneg (Nid Saesneg oedd iaith gyntaf llawer o’r myfyrwyr). Bwriad y gweithdai oedd annog dysgwyr i cnoi cil dros eiriau Shakespeare, ac ystyried sut roedden nhw’n swnio yn eu lleisiau eu hunain, gan roi’r cyfle iddynt ymgorffori’r geiriau. Gofynnais i ddysgwyr ddefnyddio’u dychymyg ac i roi eu hunain yn esgidiau’r cymeriadau roedden nhw’n eu creu. Roedd hyn yn arfer magu rhyw ymdeimlad o berchnogaeth o iaith Shakespeare ymhlith y myfyrwyr, rhywbeth i’w mwynhau a’i rhannu.

A dyma lle mae’r adnodd Cerdd Iaith yn ennill ei blwyf! Mae Cerdd Iaith yn adnodd gan y Cyngor Prydeinig sy’n helpu athrawon cynradd i ddysgu ieithoedd. Mae Cerdd Iaith, sy’n golygu Iaith Gerddoriaeth, yn adnodd addysgu ar-lein rhad ac am ddim sy’n cynnig llwyth o weithgareddau a chaneuon gwreiddiol i’w defnyddio mewn gwersi iaith cynradd. Mae’r Cyngor Prydeinig yng Nghymru hefyd yn cynnal rhaglen hyfforddi athrawon, rhithwir neu wyneb yn wyneb, sy’n esbonio’r adnoddau ar-lein. Mae’r adnodd cyfan wedi’i ddatblygu gan ieithyddion, cerddorion, ac athrawon drama, sydd wedi cydweithio’n agos ag athrawon ysgolion cynradd yng Nghymru. Nod yr adnodd yw meithrin a gwella sgiliau athrawon cynradd i gyflwyno Maes Dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’r Cwricwlwm newydd i Gymru’n llwyddiannus.

Mae Cerdd Iaith eisoes yn helpu dysgwyr ysgol gynradd a’u hathrawon i ddysgu Sbaeneg, Cymraeg ac Almaeneg (a bydd Ffrangeg yn cael ei gyflwyno yn y gwanwyn).

Yn y blog nesaf, bydda i’n esbonio pam, yn fy marn i, roedd hi mor bwysig creu adnodd newydd fel hwn!!