Mae Dysgu Ieithoedd yn Agor Drysau i Fydoedd Eraill: Mae’r Cof yn Gweithredu drwy Dechnolegau Digidol
Awdures: Lucy Jenkins
Cyhoeddwyd: 10ed Ebrill 2019
Crynodeb o’r ymchwil: Deall perthnasedd Digi-Ieithoedd a methodolegau mentora a weithredir gan Mentora ITM yng Nghymru ar gyfer cymunedau ieithoedd ehangach ac, yn anad dim, mewn gwledydd partner Ewropeaidd.
Cyllidwr: AHRC Languages Acts and Worldmaking – Tachwedd 2018
Crynodeb o’r deilliannau:
- Cyflwyno prosiectau allgymorth yn y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol (APPG) ar gyfer Ieithoedd Modern ym mis Hydref 2018. Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys mentoriaid, mentoreion blaenorol ac athrawon a oedd yn rhan o’r prosiect ledled Cymru.
- Cyfarfodydd â chydweithwyr Ewropeaidd yng Nghanolfan Addysg Uwch Cymru (WHEB) ym mis Tachwedd 2018, a arweiniodd at bartneriaeth rhwng Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Ranbarthol Castilla y León. Arweiniodd hyn at recriwtio a hyfforddi wyth myfyriwr israddedig blwyddyn olaf i fentora yn Sbaen fel rhan o fodiwl blwyddyn olaf, y Modiwl Addysgu Myfyrwyr. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
- Gwahoddiad i fynychu digwyddiad dathlu Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru ym Mrwsel (Mawrth 2019) gyda Phrif Weinidog Cymru. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o brosiect Mentora ITM, Prosiect Mentora Ffiseg, ynghyd â myfyrwyr a oedd ynghlwm wrth Brosiectau Castilla y León a Language Horizons. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Dilynwch @2210Lucy ar ei chyfrif Twitter.