Beth yw dy rôl?

Dw i’n Rheolwraig Addysg a Chyfieithu am Mentora ITM a dw i wedi bod yn gweithio gyda Lucy a’r tîm ers dros 3 mlynedd erbyn hyn!

Fi sy’n gyfrifol am y mentora sy’n digwydd ar draws rhanbarth y GCA, yn ogystal â datblygu adnoddau dysgu amlieithog ac amlddiwylliannol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Dw i hefyd yn goruchwylio gweithgareddau marchnata, cyfathrebu a chyfieithu’r prosiect sy’n golygu fy mod yn gweithio’n agos iawn gyda fy nghydweithwyr hyfryd Laura a Lowri!

Dw i wir yn mwynhau pa mor amrywiol yw fy swydd o ddydd i ddydd!

Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun!

Fe wnes i gais i astudio Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd ond yn y diwedd fe wnes i benderfynu newid o Ffrangeg i Eidaleg, oherwydd ro’n i wastad wedi eisiau ei ddysgu ar ôl syrthio mewn cariad â’r iaith yn gwylio rhaglen Cymraeg am bêl-droed Eidalaidd gyda fy nhad pan ro’n i’n ifanc!

Yn dilyn hyn, fe wnes i gwblhau diploma ôl-raddedig mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd ym Mhrifysgol Caerfaddon. Cwblheais fy nghwrs TAR mewn ieithoedd yn UWIC (sef Met Caerdydd bellach) ac ar ôl cymhwyso, dechreuais ddysgu Sbaeneg mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg lle arhosais am dros 12 mlynedd cyn gadael i ymuno â’r prosiect yn 2020.

Dw i’n fam falch iawn i ddau fachgen ifanc â phan nad ydw i wrth ochr y cae yn eu cefnogi yn chwarae pêl-droed, dw i wrth fy modd yn gwneud ioga 🧘‍♀️ a choginio 🍝 neu’n cerdded fy nghi hyfryd Pops🐕!

Beth yw dy hoff beth di am y prosiect?

Fy hoff beth am y prosiect yw gweld ein mentoriaid gwych yn ysbrydoli dysgwyr ifanc i feddwl am ieithoedd mewn ffordd wahanol. Mae gan y mentoriaid cyfle i drafod cymaint o bynciau gwahanol gyda’r dysgwyr ac fel arfer maen nhw’n bynciau nad yw athrawon yn cael yr amser i archwilio o fewn gwersi.

Mae’n bwysig sylweddoli’r effaith trawiadol mae’r mentoriaid cyfoed agos ‘ma yn ei chael ar bobl ifanc, maen nhw wir yn ysbrydoledig ac yn codi dyheadau dysgwyr am y dyfodol.