Beth yw dy rôl?

Dw i hefyd yn Gydlynydd Prosiect ac Addysg gyda Mentora ITM. Fe wnes i ymuno â’r tîm ym mis Medi 2022 ar ôl bod yn fentor gyda’r prosiect am 2 flynedd a chwblhau profiad gwaith gyda Mentora ITM yn ystod yr haf ar ôl graddio!

Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun!

Ces i fy ngeni a fy magu ym Mryste, yn agos i’r ffin rhwng Lloegr a Chymru. Mae  mam yn dod yn wreiddiol o Gaerdydd, ac er na ches i’r cyfle i ddysgu Cymraeg pan ro’n i’n ifanc, fe wnes i dreulio lot o benwythnosau a gwyliau ysgol yng Nghymru, felly dw i ‘di magu perthynas cryf â Chymru ers tro!

Er nad ydy fy nheulu yn siarad ieithoedd eraill, fe wnes i benderfynu astudio Ffrangeg ac Almaeneg ar gyfer TGAU. Pan ro’n i yn yr ysgol uwchradd, roedd rhaid i bawb astudio iaith ryngwladol ar gyfer TGAU. Dw i’n cofio clywed sawl un yn cwyno bod y dosbarthiadau iaith yn ‘ddiflas’, neu am y ffaith nad oeddent yn gallu astudio unrhyw un o’r ieithoedd oedd yn eu diddori a hefyd fod cynnwys y gwersi yn amherthnasol. Ro’n i bendant yn cytuno gyda’r pwynt olaf ‘ma, oherwydd ro’n i eisiau cysylltu dysgu ieithoedd gyda fy niddordebau fy hun, yn hytrach na gorfod dilyn pynciau penodol a oedd wedi cael ei bennu i mi gan y cwricwlwm. Ro’n i’n ffodus iawn oherwydd roedd fy athro Almaeneg ar y pryd wedi cynllunio gwersi mwy agored a ddiddorol, a oedd yn mynd y tu hwnt i ffiniau’r cwricwlwm- fy hoff dasg oedd gorfod dod o hyd i rysáit Almaeneg, er mwyn ei baratoi a’i fwyta yn ystod ein gwers iaith. Mae Apfelstrudel yn dal i fod yn un o fy hoff brydau hyd heddiw!

Fe wnes i astudio Ffrangeg ar gyfer Lefel-A cyn mynd ymlaen i astudio Ffrangeg a Sbaeneg yn y brifysgol. Dw i nawr yn cychwyn dysgu Almaeneg eto, yn ogystal â gwireddu fy mreuddwyd i ddysgu Cymraeg! Ar wahân i ddysgu ieithoedd eraill yn fy amser rhydd (byddwch chi fel arfer yn fy nal yn dysgu mwy nag un ar y tro!), dw i hefyd yn caru ioga 🧘🏻‍♀️, celf a chrefft 🧶, llyfrau 📚, planhigion 🌱, te a choffi☕️, cathod 🐱a chŵn 🐶 (mae’n amhosib dewis ffefryn!)

Beth yw dy hoff beth di am y prosiect?

Gan fy mod i wedi cael y cyfle i fod yn fentor a hefyd yn aelod o dîm Mentora ITM, dw i wrth fy modd yn gweld yr effaith gadarnhaol mae’r prosiect yn ei gael, nid yn unig ar y nifer o ddysgwyr sy’n dewis astudio Ieithoedd Rhyngwladol ar gyfer TGAU, ond hefyd ar hunan hyder, cymhelliant a brwdfrydedd y dysgwyr dros ieithoedd (i enwi ond ambell reswm!). Mae’r prosiect (a’r mentoriaid gwych sydd wrth wraidd y prosiect) yn helpu i agor llygaid dysgwyr ac ehangu eu gorwelion i’r gwahanol ffyrdd y mae ieithoedd yn ffurfio rhan o’u hunaniaeth a’u bywyd bob dydd, a’r gwahanol ffyrdd y gallent ddysgu ieithoedd (a chael budd aruthrol ohonynt!) efallai nad ydynt erioed wedi ystyried o’r blaen. Mae’n brosiect arbennig iawn!

Dw i’n credu bod pawb yn haeddu’r cyfle i ddysgu iaith yn y ffordd drawsnewidiol, gyffrous ac ysbrydoledig hon, sef nod ac amcan Mentora ITM (a’r Cwricwlwm i Gymru!) – i gynorthwyo dysgwyr i archwilio POB iaith a diwylliant mewn amrywiaeth o ffyrdd sydd wedi’u teilwra i ddiddordebau’r dysgwyr eu hunain. Hefyd, mae’n helpu meithrin sgiliau hanfodol, trosglwyddadwy ein dysgwyr, wrth bersonoli’r daith dysgu iaith mewn ffordd sy’n dod â llawenydd mawr iddynt. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd cyfathrebu a chreu cysylltiadau ag eraill yn hytrach na chanolbwyntio ar ruglder yn unig, a phob dydd ry’n ni’n ddigon ffodus i weld yr effaith hynod gadarnhaol y mae’r prosiect yn ei gael!