Coucou bawb, Ellie ydw i, cockapoo 2 oed a Chyd-weithwraig Swyddogol Cyfarwyddwraig Prosiect Mentora ITM, Lucy Jenkins. ‘Morwyn fach annwyl’ yw Lucy ond dw i ddim p’un a yw hi’n hoffi’r teitl ‘na;  bydd hi siŵr o fod yn flin fy mod i wedi dweud hynny, ond dyna ni. Mae gen i bethau pwysicach i’w rhannu â chi sef fy mreuddwyd mawr o fod yn seren cyfryngau cymdeithasol Mentora ITM! Weithiau mae pobl yn anghofio bod cŵn yn siarad ieithoedd hefyd ac mae ishe i bawb wybod, on’d oes?

Ond gad imi gyflwyno fy hun yn gyntaf. Hi/hithau yw fy rhagenwau a dw i’n gi maint canolig gyda gwallt cyrliog gwyn (yn dibynnu ar ba mor fwdlyd oedd y daith gerdded). Dw i bellach yn fy arddegau felly dw i’n hoffi cysgu llawer. Mae fy nheulu weithiau’n fy ngalw i’n ddiog, sy’n annheg dw i’n meddwl. Nag y’n nhw wedi darllen yr ymchwil sy’n dangos bod angen mwy o gwsg ar bobl ifanc yn eu harddegau?! Dw i’n mynd i gynnwys dolen i’r ymchwil ddiddorol hon ar ddiwedd fy mlog ar gyfer unrhyw un sydd ddim yn fy nghredu! Fy hoff bethau i’w gwneud heblaw cysgu wrth gwrs, yw mynd i’r traeth, chwarae gyda fy mhêl tenis ac yfed dŵr o’r pyllau glan môr- dw i’n gwybod bo hynny’n ddrwg i fi, ond mae e mor flasus! Dw i hefyd yn hoff iawn, iawn o fwyd.

Nawr te, dyna ddigon o glebran, be’ dw i wir eisiau trafod â chi heddiw yw’r holl enwau mae fy nheulu’n fy ngalw i – ‘Ellie Weli’, ‘Eleanor Wellington’, ‘y Gwir Anrhydeddus Fonesig Eleanor Wellington’, ‘Ellie Weli Bŵts’ ac ‘Ellie Ddrwg’. Maen nhw’n mynnu defnyddio nhw i gyd, felly dw  i wedi bod yn pendroni pam yn y byd mae angen cymaint o enwau gwahanol arna i….

Pan maen nhw’n hapus gyda fi maen nhw’n fy ngalw i’n Ellie Weli Bŵts, ond pan maen nhw’n grac dw i’n Ellie Ddrwg. Maen nhw’n meddwl bo fi ddim yn deall y gwahaniaeth ond dw i’n deall yn iawn oherwydd maen nhw’n defnyddio llais blin i ddweud ‘Ellie Ddrwg’, ond maen nhw’n dweud ‘Ellie Weli Bŵts’ gyda gwên a llygaid mawr hapus.

Yna, dechreuais i feddwl eu bod nhw’n defnyddio llawer o eiriau gwahanol (a dim ond ambell un dw i ‘di nodi yma) i gyfeirio ata i — ond sut mae’n bosib cael cymaint o enwau gwahanol i gi bach fel fi? Ydych chi erioed wedi meddwl am y nifer o wahanol enwau rydych chi’n galw’ch anifeiliaid anwes? Neu efallai eich ffrindiau? Neu frodyr a chwiorydd? Neu fodrybedd neu gefndryd? Ydych chi erioed wedi ystyried pam ry’ch chi’n ‘neud e, neu beth mae’n awgrymu am eich teimladau tuag at rywbeth/rywun?

Gad inni ddefnyddio’r gair ‘ci’ fel enghraifft: ci, cenau bach, bow-wow, helgi, mwngrel, fflwff…yr un ‘peth’ ac eto i gyd, cymaint o eiriau gwahanol. Mae iaith yn hollbwysig. Pa ddelwedd sy’n dod i’r meddwl pan dw i’n dweud bow-wow? A yw’r ddelwedd yn newid os dw i’n dweud ‘helgi’ yn lle? Pam?

Dyna ni am y tro, ond dw i am i chi feddwl am yr hyn ry’n ni wedi’i drafod heddiw a rhannu’r enwau ry’ch chi’n galw’ch anifeiliaid anwes neu’ch anwyliaid drosodd ar Twitter/Instagram — ymunwch â fi yno!

Hwyl am y tro!

Ellie Weli Bŵts