Beth yw dy rôl?

Beth yw dy rôl? Glesni ydw i ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda Mentora ITM ers mis Medi 2019. Rheolwraig Gweithrediadau’r prosiect ydw i ond cyn hyn roeddwn yn Gydlynydd Prosiect. Rwy’n rheoli popeth i’w wneud ac ysgolion uwchradd a mentoriaid prifysgol ac wrth fy modd yn gweithio gyda nhw ill dau! 🙂 Dyw dim un diwrnod yr un peth – mae pob tro rhywbeth newydd i’w wneud, a dwi wrth fy modd gyda hyn!

Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun!

Rwy’n dod o Ogledd Cymru’n wreiddiol, gyda Chymraeg fel iaith gyntaf. Es i i ysgol gynradd ac ysgol uwchradd Gymraeg. Astudiais radd BA Hanes ag Almaeneg, ac wedyn gradd Meistr Hanes Hynafol yma yng Nghaerdydd, ac roeddwn hefyd yn fentor gyda’r prosiect am ddwy flynedd cyn i mi gychwyn gweithio yn fy rôl bresennol. Fy hoff bethau yw: ☕ (lot o goffi),🐶 (pob ci yn y byd) a 📚 (rwy’n berchen ar ormod o lyfrau) a dwi hefyd yn cic focsio yn fy amser sbâr 🥊. Ac wrth gwrs, rwyf wrth fy modd yn dysgu ieithoedd ac o hyd yn ceisio dysgu mwy nag un ar yr un pryd!

Mae ieithoedd wedi siapio fy hunaniaeth mewn ffyrdd na fyswn i erioed wedi meddwl am pan roeddwn i’n ifanc, ac wedi agor drysau i fyd o bosibiliadau. Roedd dewis dysgu Almaeneg am y tro cyntaf yn y brifysgol yn ddewis doeth, sydd wedi arwain at gymaint o brofiadau positif yn ogystal â rhoi hwb i fy hyder ar ôl treulio blwyddyn dramor. I ddeud y gwir, roeddwn i wedi mwynhau fy amser yn gweithio fel Cynorthwyydd Iaith gyda’r British Council yn Duisburg, yr Almaen gymaint, nad oeddwn eisiau dod adref! Ers hynny, dwi wedi cychwyn dysgu Arabeg, Lladin, a Pherseg – dwi wir yn mwynhau dysgu ieithoedd sydd ag wyddor sy’n wahanol i’r hyn rydyn ni’n ei ystyried yn wyddor ‘normal. Mae teulu fy nghariad yn dod o Iran yn wreiddiol hefyd, ac felly dwi wedi pigo fyny sawl gair yma ac acw ac yn ceisio fy ngorau glas i siarad cymaint o’r iaith ag y gallaf.

Beth yw dy hoff beth di am y prosiect?

Fy hoff beth i am y prosiect yw cael gweithio â chymaint o fyfyrwyr ysbrydoledig ledled Cymru. Fedrai’m meddwl am ddim byd gwell na dysgu o’r myfyrwyr rydyn ni’n gweithio gydag a chlywed mwy am eu profiadau nhw’n mentora neu’n rhedeg gweithdai yn yr ysgolion – mae’n codi’r galon!

Rydyn ni’n derbyn cymaint o adborth positif gan y myfyrwyr am eu sesiynau nhw, ac mae’n wych cael clywed hefyd pa mor bositif yw’r profiad yn sgil rhoi hwb i’w hyder nhw, neu wneud iddynt ail feddwl eu llwybr gyrfa.

Mae hefyd yn help fy mod yn gweithio gyda chydweithwyr ffantastig sy’n dod ag egni, creadigrwydd, a syniadau a phrofiadau mor amrywiol i’r prosiect!