Mentora ITM a Sefydliad Confucius: Dewch i gwrdd â Modi Zhu

Helo! Fy enw i yw Modi Zhu, dw i’n diwtor iaith yn y Sefydliad Confucius Prifysgol Caerdydd a bydda i’n ysgrifennu cyfres o flogiau ar y cyd â Mentora ITM yn sôn am fy rôl yn y Sefydliad Confucius. Bydda i hefyd yn rhoi cipolwg o atyniadau twristaidd, gwyliau, a phobl Tsieina, ond yn gyntaf, hoffwn i ddweud bach mwy amdanaf fi fy hun.

Diddordebau

Dw i’n dod o ddinas yng Ngogledd-ddwyrain Tsieina o’r enw Daqing, sy’n enwog am ei olew, harddwch naturiol, a thymhorau gwahanol. Yn ystod gaeafau oer Daqing, fe ddysgais i sgïo a sglefrio, ond dw i hefyd wrth fy modd â chwaraeon eraill fel nofio, dawnsio, a thenis. Mae iechyd corfforol yn bwysig iawn yn niwylliant Tsieina, ac rydyn ni’n ceisio cadw’n heini i gadw’n iach!

Dw i wrth fy modd â cherddoriaeth hefyd. Dysgodd fy mam imi ganu’r piano, roedd hi wrth ei bodd yn canu’r piano, ac o fyna es ymlaen i ddysgu’r pipa, gitâr, drymiau, ac yn ystod fy amser ym Mongolia, dysgais i ganu’r morin khuur. Dw i wrth fy modd yn mynegi fy hun trwy gerddoriaeth – waeth beth yw fy hwyliau! Bydda i’n ysgrifennu blog cyfan am gerddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd a chaneuon clasurol, felly cadwch lygaid allan amdano!

Ieithoedd a Fi

Cyn i mi symud i Gymru, treuliais i amser ym Mongolia a Guyana fel athrawes Tsieineaidd. Mae gan Mongolia laswelltiroedd mawr le mae gwartheg, defaid a cheffylau yn pori, a dyma le dysgais i farchogaeth ceffyl. Mae Guyana’n wlad drofannol yn Ne America a threuliais i ddau haf hapus yno, yn rhannu’r campws gyda chrocodeil lleol! Dw i mor lwcus fod modd imi gwrdd â myfyrwyr a rhannu eu hiaith a’u diwylliant – mae hynny mor bwysig imi!

Pan ddechreuais i ddysgu ieithoedd newydd am y tro cyntaf, roedd fy athro’n fy annog i siarad yn uchel ac i beidio â bod ofn methu. Dywedodd “Rwyt ti’n siarad a dyna hanner y frwydr,” ac ers hynny, dw i ‘di dysgu Japaneaidd, Corëeg a Rwsieg. I mi, y ffordd orau o gysylltu â gwahanol wledydd a diwylliannau yw trwy ddysgu eu hiaith.

Dw i mor gyffrous i rannu mwy am fy rôl yn y Sefydliad Confucius ac am ddiwylliant Tsieina trwy’r gyfres yma o flogiau. Cadwch lygaid allan am yr un nesaf! Yn y cyfamser, os oes gen ti unrhyw gwestiynau o gwbl, neu os wyt ti eisiau cysylltu, anfona e-bost ata i: ChooM@caerdydd.ac.uk.