Amdanaf fi 

Shwmae, Ciao, Hello! Fy enw i yw Jacob, a dw i’n 19 mlwydd oed. Dw i’n dod o dref fach o’r enw Flitwick yn Swydd Bedford (yng nghanol unman!), tua 35 munud o ogledd Llundain.

Dw i wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers mis Medi 2021, pan ddechreuais astudio Eidaleg a Cherddoriaeth *(BA) ym Mhrifysgol Caerdydd. Ffaith ddiddorol amdana i yw fe wnes i gwblhau fy arholiad canu gradd 8 pan oeddwn i’n 18 oed wrth i’r DU ddod allan o’r cyfnod clo. 

Tyfu i fyny a’r ysgol 

Dw i’n dod o un o’r ychydig siroedd yn y DU lle nad yw’r system ysgolion cynradd ac uwchradd traddodiadol yn cael ei defnyddio.

Yn hytrach, mae gennym Ysgol Isaf, Ysgol Ganol, ac Ysgol Uchaf. Mae hyn yn golygu, Ysgol Isaf (Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 4), Ysgol Ganol (Blwyddyn 5 i Flwyddyn 8), Ysgol Uchaf (Blwyddyn 9 i Flwyddyn 13).  

Dechreuodd fy *angerdd am gerddoriaeth yn yr Ysgol Isaf, ac am ieithoedd yn yr Ysgol Ganol. Cefais wersi trwmped rhwng 8 a 17 oed (fe wnes i gwblhau gradd 6), a chefais wersi canu o 9 oed ymlaen, a dw i’n parhau hyd heddiw gyda fy athro canu anhygoel Buddug, sydd wedi fy nysgu ers i mi ddechrau yn y brifysgol.

Cefais wersi piano hefyd rhwng 14 a 18 oed felly mae gen i ddealltwriaeth dda o’r offeryn hwn hefyd.  

O ran ieithoedd, dechreuais ddysgu Ffrangeg yn rheolaidd ym mlwyddyn 5 a Sbaeneg o flwyddyn 9 ymlaen pan gyrhaeddais i’r Ysgol Uchaf. Roeddwn i wrth fy modd yn astudio Ffrangeg a Sbaeneg ar gyfer Safon Uwch.

Roeddwn i’n hynod o lwcus yn yr Ysgol Uchaf i allu mynd ar deithiau trochi* i Rouen yn Ffrainc a Malaga yn Sbaen bob blwyddyn.

Es i ar y teithiau yma rhwng 13 a 17 oed (dw i’n cofio dod adref o Malaga ganol mis Mawrth 2020 ychydig cyn y cyfnod clo!).

A dweud y gwir, byddwn i’n dweud mai’r teithiau trochi yma, yn byw gyda theuluoedd o Sbaen a Ffrainc nad oedd yn siarad Saesneg, oedd rhai o brofiadau gorau fy mhlentyndod.

Dysgais i gymaint amdanaf fi fy hun ac fe wnaeth y profiadau roi *hwb mawr i fy hyder ac agor fy llygaid i wahanol ddiwylliannau ledled y byd.

Es i i Sbaen am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2017 yn 14 oed, pan oeddwn i ond wedi bod yn dysgu Sbaeneg am chwe mis, ac rwy’n cofio teimlo mor falch o fy hun am fynd drwy brofiad mor *frawychus ond cyffrous. Ac wrth gwrs, roeddwn i’n gwneud cymaint o gamgymeriadau doniol wrth siarad Sbaeneg.

Er enghraifft, dw i’n cofio un diwrnod doeddwn i ddim yn siŵr a ddylwn i wisgo fy nghôt a gofynnais i fy Madre (mam) Sbaeneg a oedd hi’n boeth tu all.

Yn hytrach na defnyddio’r gair ‘calor’, defnyddiais y gair ‘caliente’. Os ydych chi’n deall Sbaeneg, gobeithio bod fy nghamgymeriad wedi gwneud i chi chwerthin!

Weithiau, mae gan eiriau sawl ystyr gwahanol ac mae’n bwysig gwneud yn siŵr ein bod ni’n defnyddio’r un cywir!

Ieithoedd a Fi 

Dw i’n siarad Saesneg fel fy iaith gyntaf a dw i’n dysgu Eidaleg yn y brifysgol, mae hyn yn golygu fy mod i’n mynd i fyw yn yr Eidal flwyddyn nesa – dw i mor gyffrous! Dw i eisoes wedi sôn fy mod i wedi astudio Ffrangeg a Sbaeneg ar gyfer Safon Uwch, felly dw i’n teimlo’n eithaf hyderus yn siarad y ddwy iaith yna hefyd (efallai fy mod i’n fwyaf hyderus yn siarad Sbaeneg oherwydd roeddwn  i wrth fy modd yn dysgu Sbaeneg yn  yr ysgol). Efallai eich bod chi am ofyn, fel llawer o bobl, “ym…Jacob, pam wyt ti’n dysgu Eidaleg nawr?”. Yn gyntaf, dw i wastad wedi bod eisiau dysgu Eidaleg ond ychydig iawn o ysgolion sy’n ei chynnig hi fel pwnc. Yn ail, doedd gen i ddim diddordeb mewn parhau â’r Ffrangeg, felly roedd yn rhaid dewis rhwng Sbaeneg neu Eidaleg. Wrth chwilio am brifysgolion roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n cynnig Cerddoriaeth gyda naill ai Ffrangeg, Almaeneg neu Eidaleg, oherwydd y cysylltiadau rhwng cerddoriaeth a’r ieithoedd hyn. I mi, mae Eidaleg a Cherddoriaeth yn gyfuniad hyfryd ac felly roedd hi’n amlwg ei bod hi’n bryd dechrau fy nhaith Eidaleg! Dw i dal i siarad Sbaeneg o bryd i’w gilydd gyda ffrindiau dw i wedi eu gwneud drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a bydd fy nhaith Sbaeneg byth yn dod i ben, achos dw i wedi datblygu cymaint o gariad tuag at yr iaith dros y blynyddoedd!  

Fel canwr â *hyfforddiant clasurol dw i wedi canu fy *natganiadau dros y blynyddoedd mewn Almaeneg, Ffrangeg ac Eidaleg a dw i hefyd bellach yn cael cyfle i ganu yn Gymraeg gyda fy athrawes canu.

Ar hyn o bryd dw i’n dysgu’r darn “Cân yr Arad Goch” gan Bryn Terfel a dw i’n mwynhau’n fawr.

Tra’n bod ni’n sôn am ddysgu Cymraeg, dw i wedi cwblhau cwrs Cymraeg 10 wythnos o hyd gyda Phrifysgol Caerdydd, a byddwn i wrth fy modd yn dysgu mwy yn y dyfodol (pan fydd gen i fwy o amser i’w dysgu!). 

Fy Mywyd fel Myfyriwr a'r Dyfodol 

Hyd yn hyn, dw i wedi mwynhau mas draw yn y brifysgol a dw i wedi gwneud ffrindiau oes a chwrdd â fy nghariad anhygoel Dom, sy’n astudio Ffrangeg a Sbaeneg yma hefyd.

Ar wahân i fy ngradd, mae’r brifysgol wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi fel gwirfoddoli.

Rai misoedd yn ôl, cefais gyfle i wirfoddoli gyda therapi lleferydd ar gyfer y mudiad Cymreig ’21-Plus’, elusen sy’n cefnogi teuluoedd gyda phlant a phobl ifanc sydd â syndrom Down.

Dw i’n meddwl ei bod hi mor bwysig bod llais pawb yn cael ei glywed, ac fel myfyriwr ieithoedd roedd fy sgiliau cyfathrebu a’r ffaith fy mod i’n hoffi gweithio gyda phobl yn golygu nad oeddwn i am golli’r cyfle yma.  

Yn y dyfodol, dw i’n gobeithio astudio *gradd meistr mewn Therapi Lleferydd ac Iaith neu Therapi Cerddoriaeth gyda’r sgiliau dw i wedi dysgu yn y brifysgol.

Geiriau: 

  • canol unman – ardal yng nghefn gwlad ymhell o bobman
  • BA – cwrs prifysgol ‘Baglor yn y Celfyddydau’
  • angerdd – teimladau cryf am rywbeth
  • taith drochi – treulio amser mewn gwlad arall yn siarad iaith arall
  • rhoi hwb mawr i’r hyder – gwneud i rywun deimlo’n fwy hyderus am rywbeth
  • profiad brawychus – teimlo’n nerfus neu’n poeni am rywbeth
  • canwr â hyfforddiant clasurol – rhywun sydd wedi’i ddysgu i ganu gan ddefnyddio cerddoriaeth glasurol fel ‘Ave Maria’
  • datganiadau – perfformiad cerddorol
  • gradd meistr – cwrs y gellir ei astudio ar ôl gorffen gradd prifysgol