Buongiorno! Fy enw i yw Hannah. Rwy’n 25 oed ac yn Gynorthwy-ydd Iaith Saesneg yn La Spezia, yr Eidal.

Rwyf wedi byw mewn cymaint o wledydd dros y chwe blynedd diwethaf, a rhywbeth sydd wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ar fy nheithiau yw rôl iaith mewn bywyd bob dydd.

Dyma’r cyntaf o’r hyn a fydd yn gyfres o flogiau sydd wedi’u hysbrydoli gan fy mhrofiadau yn y DU a thramor, ac sy’n ymchwilio i sut mae ieithoedd yn cysylltu â gwahanol agweddau o fywyd sydd efallai’n ymddangos yn ddigyswllt ar yr olwg gyntaf.

Heddiw, byddwn ni’n sôn am ddull cludo clasurol – yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘piggyback’ yn Saesneg!

I’r rhai sy’n anghyfarwydd â’r cysyniad, dyma lle mae un person yn cario person arall ar ei gefn.

Nawr, doeddwn i erioed wedi meddwl gormod am y rheswm dros yr enw tan i mi gymryd rhan mewn sesiwn jiu-jitsu yn ddiweddar yma yn La Spezia.
Yn ystod y sesiwn, rhoddodd fy mhartner hyfforddi, Chiara, a minnau ‘piggyback’ i’n gilydd o gwmpas y dojo.
Disgrifiodd y sensei yr ymarfer yn debyg i gario rhywun ‘a cavalluccio’ – ystyr hynny yw cario rhywun ‘fel ceffyl bach’.
Mae’n swnio’n eithaf cŵl, on’d yw e? A gan fod ceffylau’n cludo pobl, mae’n gwneud synnwyr perffaith…

Ond beth am ‘piggyback’? Dydy hi ddim fel pe bai moch yn enwog am gario pobl ar eu cefnau.

Ar ôl egluro’r cyfieithiad Saesneg i’r sensei, dywedodd yn syth fod cigyddion arfer cario moch marw ar eu cefnau.

Er bod meddwl am garcasau moch yn cael eu halio’n gwneud i mi deimlo ychydig yn drist, roedd yn gwneud llawer o synnwyr.

Eto i gyd, penderfynais i ymchwilio i darddiad y gair ‘piggyback’.

Ymhen dim amser o gwbl, des i o hyd i hanes y gair … sydd ddim yn ymwneud â moch o gwbl, mewn gwirionedd!

Gadewch i ni fynd yn ôl i’r 16eg ganrif. Bryd hynny, roedd nwyddau gan amlaf yn cael eu cludo mewn pecynnau ar gefnau pobl (neu anifeiliaid).

Dechreuwyd galw’r pecynnau hyn yn ‘pick packs’ am fod angen i chi eu codi a’u rhoi ar eich cefn.
Fodd bynnag, wrth i amser symud yn ei flaen, datblygodd yr iaith.

Newidiodd ‘pick pack’ i ‘pick-a-pack’, a newidiodd hynny i ‘pick-a-back’.

Roedd pobl yn camglywed ‘pick-a-back’ yn ‘pick-i-back’, ac oherwydd ein tuedd naturiol i wneud synnwyr o’r hyn rydyn ni’n ei glywed, cafodd y gair ‘piggyback’ ei fathu – hyd yn oed os nad oedd moch yn enwog am gludo pobl a nwyddau, doedd enw dim anifail arall yn swnio’n debyg i ‘picky’.

Erbyn y 19eg ganrif, roedd y gair hwn yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r pecynnau hyn, ond erbyn y 1930au, roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio mynd ar gefn rhywun.

Felly, dydy’r gair ddim yn ymwneud â halio moch o gwbl!

Beth am ieithoedd eraill? Wel, yn Ffrangeg, mae cario rhywun ‘à califourchon’ yn golygu ‘ag un goes bob ochr’ yng nghyd-destun marchogaeth.

Yn Sbaeneg, mae cario rhywun ‘a caballito’ yn golygu bron yn union yr un peth ag yn Eidaleg, sef ‘fel ceffyl bach’.

Mae’n ymddangos bod ceffylau’n thema gyffredin yn yr ieithoedd Romáwns!

Beth am ‘piggyback’ mewn ieithoedd rhyngwladol eraill? Rhowch wybod sut rydych chi’n dweud ‘piggyback’ mewn iaith rydych chi’n ei siarad, a beth yw ei gyfieithiad llythrennol!

Baci, alla prossima!

Geiriau allweddol

  • A cavalluccio – ‘Fel ceffyl bach’ (Fersiwn Eidaleg o ‘piggyback’)
  • À califourchon – ‘Fel eistedd ar gefn ceffyl’ (Fersiwn Ffrangeg o ‘piggyback’)
  • A caballito – ‘Fel ceffyl bach’ (Fersiwn Sbaeneg o ‘piggyback’)
  • Baci, alla prossima! – ‘Cusanau, tan y tro nesaf!’ (Eidaleg)