Pobl Communications: Menter y Gwyddorau Cymdeithasol
Awdur: Lucy Jenkins
Cyhoeddwyd: 15 Mai 2021
Crynodeb o’r ymchwil: Ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu menter fasnachol o’r ymchwil a gynhaliwyd gan brosiect Mentora ITM er mwyn tyfu a datblygu ei weithgareddau. Mae’r gweithgaredd hwn yn ategu ac yn cysylltu’n uniongyrchol â’r gwaith sy’n cael ei wneud i ystyried y llwybrau masnachol ar gyfer y prosiect trwy Raglen ASPECT ARC (Masnacheiddio Ymchwil Aspect). Mae hwn yn sbardunwr mawreddog a’r cyntaf o’i fath ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol. Mae’n cynnig hyfforddiant a chefnogaeth hanfodol i ymchwilwyr i helpu i hwyluso dilyniant syniadau arloesol hyd at drosi a chreu menter. Gallwch ddarllen rhagor am hyn yma.
Ar hyn o bryd mae Mentora ITM yn chwilio am ffyrdd i gynnal a graddio ei weithgaredd er mwyn caniatáu iddo gyflawni ei weithgareddau ysbrydoledig mewn sawl cyd-destun a chydag amrywiaeth o bartneriaid. Mae hyn yn dilyn ei lwyddiant yn datblygu sawl menter arall fel Language Horizons a’r bartneriaeth â Castilla y Le .
Ariannwr: Cyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Caerdydd – Ebrill 2021
Crynodeb o’r deilliannau:
- Datblygu Pobl Communications, hunaniaeth brand newydd sbon i’r fenter. Bydd y brand newydd ar gael yn fuan.
- Comisiynu Oxentia i gynnal ymchwil i’r farchnad i ganfod cwmpas y farchnad ar gyfer gweithgareddau’r fenter. Mae hyn yn cynnwys edrych ymhellach ar sector addysg y DU, y sector addysg fyd-eang ac ar y sector hyfforddiant corfforaethol. Bydd canfyddiadau’r adroddiad hwn ar gael yn fuan.
Dilynwch @2210Lucy ar Twitter.