Ysgol Aberconwy, Jamie McAllister

Cyfrwng: Saesneg

Lleoliad: Aberconwy

Ieithoedd: Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, rwyf wedi neidio ar lori lwyddiant dull Conti a chyflwyno dulliau Cyfarwyddyd Prosesu Estynedig (EPI) a MARS-EARS yn fy adran.

A ninnau wedi cael ein hysbrydoli gan lyfr ‘Breaking the Sound Barrier’ Conti a Smith (a gafodd effaith fawr a phwysig arnaf), rydym wedi gweld mwy o ddysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3 yn cymryd diddordeb mewn ieithoedd, ond yn anffodus, ddim effaith ar nifer y dysgwyr sy’n mynd ymlaen i astudio ieithoedd yng Nghyfnod Allweddol 4.

Felly, wrth ddechrau cynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd, gwnaethom benderfynu y byddem yn mynd i’r afael ag agweddau at ddysgu ieithoedd gyda dysgwyr Blwyddyn 7, cyn mynd ati i ddysgu’r ieithoedd rhyngwladol eu hunain.

Dadleuol, ond beth sy’n wych am y Cwricwlwm i Gymru yw ei fod wedi rhoi’r rhyddid i ni fynd i’r afael â’r anghenion dysgu yn ein hysgol unigol.

Mae ein niferoedd yn gostwng, er gwaethaf unrhyw fentrau rydym yn eu gweithredu neu newidiadau addysgegol rydym yn eu gwneud. Felly, y teimlad oedd ei bod yn bryd gwneud rhywbeth hollol wahanol.

Ar ôl cael ein hysbrydoli gan wefan We Are Multilingual, aethom ati i seilio ein prif gysyniadau ar gyfer ein prosiect cyntaf ar y themâu hyn:

  • Ydw i’n berson amlieithog?
  • Beth yw iaith y corff?
  • Fy iaith yw fy hunaniaeth
  • Beth yw diwylliant?
  • Pam ydw i’n dysgu iaith?

Cafodd yr adnoddau ar y wefan eu defnyddio a’u haddasu gennym, ac wrth i ni gynllunio’r prosiect, gwnaethom ystyried ein lleoliad daearyddol: Conwy, Gogledd Cymru.

Er mwyn gallu rhoi profiadau dilys yn rhan o’n gwersi, aethom â’r dysgwyr i dref Conwy er mwyn iddynt allu gwneud arolwg o agweddau’r cyhoedd at ddysgu iaith ac amlieithrwydd.

Gwnaeth y dysgwyr fwynhau’r profiad yn fawr a chwrdd â llawer o ieithyddion yn uniongyrchol yn y dref dwristaidd.

Roedd yn gyfle iddynt hefyd ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol a llafar mewn sefyllfa go iawn. I ni, roedd yn gam i’r cyfeiriad cywir i greu dysgwyr uchelgeisiol, galluog, hyderus a gwybodus.

Rwy’n poeni, wrth gwrs, nad ydym wedi addysgu ieithoedd rhyngwladol o gwbl ers deng wythnos, ond y gobaith yw y bydd y gwaith a wnaed gennym yn helpu rywfaint i newid agweddau a chael ein dysgwyr i sylweddoli gwerth sgiliau iaith, sy’n cael eu diystyru a’u tanbrisio’n fawr ganddynt ar hyn o bryd.

Wrth gyflwyno unrhyw gwricwlwm newydd, mae problemau cychwynnol yn anochel, ac wrth i ni ystyried ein prosiect cyntaf, byddwn wrth gwrs yn gwneud sawl peth yn wahanol y tro nesaf.

Fodd bynnag, o ran gwerth yng nghyd-destun ein hysgol ein hunain, rydym ni, fel adran, yn teimlo bod ein amser wedi’i fuddsoddi’n dda.