Ysgol Gyfun Porthcawl, Gaëlle Morgan

Cyfrwng: Saesneg

Lleoliad: Porthcawl

Ieithoedd: Ffrangeg, Almaeneg

Sut rydyn ni'n codi proffil ieithoedd rhyngwladol yn ein hysgol

Rydyn ni’n lwcus iawn ym Mhorthcawl i ddysgu Ffrangeg ac Almaeneg.

Mae gennym glwb Cymreig a chlwb Ieithoedd Rhyngwladol dwi wedi bod yn eu rhedeg ers 15 mlynedd, lle mae dysgwyr yn chwarae gemau bwrdd mewn gwahanol ieithoedd a gemau cyfrifiadurol (Kahoot, Blooket, Quizlet…), yn o gystal â sgwrsio ac ymarfer chwarae rôl. Hefyd, rydyn ni wedi cynnal sesiynau blas ar iaith mewn ieithoedd megis Japaneeg a Sbaeneg. Mae’r chweched dosbarth yn aml yn cynnal y clybiau, sydd yn boblogaidd iawn gyda’r dysgwyr iau.

Rydw i hefyd yn trefnu cystadleuaeth pobi Ffrengig bob mis gyda rysáit gwahanol bob tro (quiche lorraine, galette des rois, ac ati) gyda gwobrau a thystysgrifau i’w hennill. Mae’n gystadleuaeth boblogaidd iawn yn ein hysgol.

Mae gennym hefyd lysgenhadon iaith (dysgwyr TGAU yn bennaf) sy’n cynnal gwasanaethau i hybu Ieithoedd Rhyngwladol.

Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd

Rydyn ni’n dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd yn ein hysgol bob blwyddyn ym mis Medi.

Rydyn ni’n trefnu gwasanaethau arbennig a gynhelir gan ddysgwyr iaith a llysgenhadon o CA4 a CA5, ac rydyn ni’n cynnal cystadlaethau dosbarthiadau cofrestru ar draws yr ysgol, fel cwisiau.

Mae gennym hefyd fwydlen Ewropeaidd arbennig yn y ffreutur i ddathlu’r achlysur (pain au chocolat, selsig Almaenaidd, ac ati).

Rydyn ni wedi canfod bod yr holl weithgareddau hyn yn codi proffil Ieithoedd Rhyngwladol yn ein hysgol yn fawr.

Teithiau allgyrsiol

Trefnais taith lwyddiannus iawn i’r Institut Français yn Llundain ym mis Chwefror 2022

i wylio ffilm Ffrengig yn eu sinema ac archwilio’r ardal Ffrengig yn Kensington. Rwy’n argymell y daith hon yn fawr ac rwy’n bwriadu cynnal un tebyg y flwyddyn nesaf!

Rydyn ni’n mynd â 55 o ddysgwyr (o flwyddyn 10 i flwyddyn 13) i farchnad Nadolig Lille ym mis Rhagfyr 2022. Mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr at y daith hon a dyma’r pedwerydd tro i ni fynd yno. Mae’r daith hon bob amser yn hynod o boblogaidd gan nad yw’n rhy ddrud ac mae’n llawer o hwyl!

Rydyn ni hefyd yn trefnu dwy daith i Baris a Disneyland Paris yn 2023, un ym mis Mawrth ac un ym mis Ebrill. Pam? Oherwydd bod cynifer o ddysgwyr wedi dangos diddordeb a doedden ni ddim eisiau siomi neb – Rhaid ein bod ni braidd yn wallgof!

Hybu amlieithrwydd a manteision ieithoedd yn cydweithio ar draws Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae ein maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (adrannau Saesneg/Cymraeg/Ffrangeg/Almaeneg) yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd ac rydyn ni eisoes wedi cynhyrchu a chyflwyno prosiectau llythrennedd triphlyg a phedwarplyg gyda llwyddiant mawr, gyda’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i wreiddio yn y mwyafrif ohonynt.

Mae ein gweithgareddau pontio blwyddyn 6 wedi eu seilio ar lythrennedd pedwarplyg a gwreiddiau ieithoedd ac mae’r adborth gan yr ysgolion cynradd a’r dysgwyr bob amser yn wych.

Rydyn ni hefyd yn cynnal cystadleuaeth ganu gyda blwyddyn 6. Rydyn ni’n eu rhannu’n grwpiau o dri – mae un grŵp yn canu cân Almaeneg, grŵp arall yn canu cân Ffrengig a’r trydydd grŵp yn canu cân yn y Gymraeg. Maen nhw’n ymarfer ac yna’n mynd ar y llwyfan i gystadlu yn erbyn ei gilydd cyn i ni gyhoeddi’r enillydd. Mae’n weithgaredd llawn hwyl!

Rydw i a chydweithiwr arall yn parhau â’n rôl fel Ymarferwyr Arweiniol Ieithoedd Rhyngwladol Uwchradd am yr ail flwyddyn yn olynol. Rydyn ni’n creu adnoddau i hyrwyddo amlieithrwydd ac ymgysylltiad yn yr ystafell ddosbarth yn CA3/4 a 5. Mae’r ddau ohonom yn cynnal gweminarau ar-lein lle rydyn ni’n rhannu ein syniadau gydag athrawon ysgolion uwchradd a chynradd ar sut i hyrwyddo Ieithoedd Rhyngwladol yn yr ysgol.

Roeddwn i hefyd wedi gweithio gydag Ieithoedd Rhyngwladol yn y sector cynradd y llynedd drwy ddatblygu adnoddau ar sut i ennyn diddordeb dysgwyr mewn dosbarthiadau Ieithoedd Rhyngwladol gan ddefnyddio llefaredd a chysylltiadau rhwng ieithoedd.

Strategaethau llwyddiannus i wella ymgysylltiad ag Ieithoedd Rhyngwlado

Mae gwneud llawer o waith llafar yn hollbwysig oherwydd mae dysgwyr wrth eu boddau yn siarad yr iaith. Y gemau fwyaf poblogaidd yn ein hadran ni yw:

  • Trapdoor
  • Un beiro, un dis
  • Lleidr brawddegau
  • Battleships

Mae dysgwyr hefyd wrth eu boddau yn gwylio ffilmiau yn yr iaith darged, felly mae’n braf cynllunio’r sesiynau hyn adeg y Nadolig neu ar ôl prawf fel gwobr!