Lisa Humpries, Ysgol Gymunedol Tonyrefail

Cyfrwng: Saesneg

Lleoliad: Tonyrefail

Ieithoedd: Ffrangeg, Sbaeneg

Wrth edrych ar sut i godi proffil Ieithoedd Rhyngwladol ymhlith ein dysgwyr Blwyddyn 9, roedden ni’n teimlo ei bod yn bwysig canolbwyntio ar yr agweddau allweddol sy’n dylanwadu ar y mwyafrif o ddysgwyr wrth iddyn nhw benderfynu ar eu hopsiynau TGAU; faint maen nhw’n mwynhau eu gwersi, pa mor dda maen nhw’n meddwl eu bod yn perfformio yn y pwnc, a pha mor berthnasol maen nhw’n ystyried y pwnc. O ganlyniad, rydyn ni’n gweithredu’r strategaethau canlynol i wella agweddau dysgwyr yn y meysydd hollbwysig hyn.

Cyfarwyddyd Prosesu Dwys (E.P.I)— Fframwaith Dysgu Conti

Mae cyflwyno Cyfarwyddyd Prosesu Dwys yn yr adran wedi cael effaith sylweddol o ran gwella faint mae blwyddyn 9 yn mwynhau gwersi Ieithoedd rhyngwladol gan fod y dull yma o ddysgu yn helpu dysgwyr i deimlo eu bod yn cyflawni cymaint yn fwy erbyn diwedd bob gwers. Mae’r dull yn cynnig cymaint o weithgareddau gwahanol i ddysgwyr, sy’n arwain at lu o gyfleoedd i ddeall darnau o destun ac yna cynhyrchu darnau o destun eu hun, gyda’r patrymau targed a geirfa amledd uchel. Mae’r gwaith felly’n gosod sylfeini cadarn i ddysgwyr i ddefnyddio’r iaith yn hyderus ac yn gywir ac wir wedi helpu i fagu hyder. Mae’n dysgwyr ni bellach yn gallu gwerthfawrogi’r cynnydd y mae modd iddyn nhw ei wneud yn y pwnc. Yn benodol, mae’r elfen gystadleuol y mae nifer o’r gweithgareddau llafar yn ei chynnig, wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae gemau dwyn brawddegau, llongau rhyfel, darllen meddyliau ac ati wedi annog ein dysgwyr i fod yn fwy brwdfrydig wrth gyfrannu ar lafar. Mae hyn wir wedi gwneud gwahaniaeth i ba mor hyderus mae’r dysgwyr yn teimlo wrth siarad yn yr iaith darged.

Cyfleoedd Ffrind Llythyru

Rydyn ni hefyd wedi bod yn ffodus i feithrin cysylltiad cryf ag ysgol ym Mharis dros y pum mlynedd diwethaf ac, o ganlyniad, mae dau o’n dosbarthiadau Blwyddyn 9 ni eleni wedi cael cyfle i gael ffrind llythyru Ffrangeg. Mae dysgwyr yn gweld hyn yn ffordd wych o ddefnyddio’r iaith maen nhw wedi’i dysgu mewn cyd destun bywyd go iawn ac maen nhw wrth eu boddau’n derbyn llythyr personol gan eu ffrindiau newydd. Mae’n dysgwyr ni yn ysgrifennu llythyrau yn yr iaith darged ac mae’r ysgol Ffrangeg yn ysgrifennu at ein dysgwyr ni yn Saesneg, felly mae’n gyfle gwych i ni adolygu holl waith y flwyddyn. Mae’r dysgwyr yn anfon llythyrau yn disgrifio eu teulu, ysgol, hobïau ac ati, felly unwaith eto, mae hyn wedi golygu bod dysgwyr yn gwerthfawrogi pwysigrwydd a phwrpas yr iaith maen nhw wedi’i dysgu ac yn gallu mwynhau creu cysylltiad â phobl na fydden nhw fel arfer yn cael y cyfle i gysylltu â nhw. Mae cymaint o resymau gwych dros ddysgu iaith, ond rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno bod hwn yn bendant yn un ohonyn nhw!

Dysgwyr yn arwain y dysgu

Eleni rydyn ni’n ailgyflwyno rhywbeth sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol, sef prosiect grŵp annibynnol Blwyddyn 9 sy’n rhoi’r cyfle i ddysgwyr gynllunio gwers Ffrangeg eu hunain i ddysgwyr newydd i’r iaith. Mae gofyn iddyn nhw gynllunio gwers 30 munud ar bwnc, megis cyfarchion, rhifau, lliwiau er enghraifft  sy’n cynnwys tasg agoriadol, tri phrif weithgaredd ac yna gweithgaredd sy’n atgyfnerthu dealltwriaeth y dysgwyr. Wedyn, mae dysgwyr yn cyflwyno’u syniadau i weddill y dosbarth ac mae pob athro yn dewis grŵp buddugol a fydd wedyn yn cyflwyno’r wers i’n grwpiau blwyddyn iau ym mlwyddyn 3 a 4. Gan ein bod ni’n ysgol pob oed, rydyn ni’n gallu manteisio ar y cyfle i gyflwyno sesiynau Blas ar Ieithoedd Rhyngwladol i’n grwpiau iau, yn ogystal â’u cyflwyno i fodelau rôl ifanc sy’n hyrwyddo dysgu ieithoedd. Mae pob dosbarth Blwyddyn 9 wedi ymateb yn gadarnhaol i’r prosiect hwn ac mae’n atgyfnerthu pwrpas eu hastudiaethau ieithyddol ymhellach. Yn y pendraw, does dim gwell ffordd o ddysgu nag addysgu ac mae’r prosiect hwn wedi’n helpu ni i hybu hyder dysgwyr Blwyddyn 9.

Mentora ITM

Mae cynllun Mentora ITM Brifysgol Caerdydd hefyd wedi bod yn gymorth enfawr i ni o ran cynyddu’r niferoedd sy’n dewis astudio ieithoedd rhyngwladol ar gyfer TGAU. Mae’r prosiect yn hyfforddi myfyrwyr prifysgol i gyflwyno sesiynau diwylliannol i ddysgwyr,ae’r sesiynau yma wedi helpu ysbrydoli a gwella cymhelliant ein dysgwyr i barhau â’u taith iaith gan eu bod yn tynnu sylw at yr holl fanteision o ddysgu iaith. Mae’r holl ddysgwyr sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hwn wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ddysgu mwy am ieithoedd yn gyffredinol ac mae wedi agor eu llygaid i ddiwylliannau a safbwyntiau eraill yn ogystal ag ehangu eu gorwelion a chodi dyheadau am eu dyfodol eu hunain. Yn ogystal â hynny, mae dysgwyr wir wedi mwynhau dysgu rhagor am bynciau a themâu na fydden nhw fel arfer yn cael y cyfle i drafod yn ein gwersi Ieithoedd Rhyngwladol arferol. Mae’r sesiynau hefyd wedi caniatáu cyfle i ddysgwyr i siarad â model rôl sy’n gallu eu hysbrydoli trwy drafod yr holl gyfleoedd anhygoel sy’n dod o ddysgu iaith. Fel ysgol rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y cynllun arbennig yma gan ei fod yn ein helpu i atgyfnerthu’r negeseuon rydyn ni’n ymgorffori’n ddyddiol yn ein gwersi.

Sgyrsiau Gyrfa

Yn olaf, rydyn ni wedi manteisio eleni ar nifer o’r cyfleoedd mae Prifysgol Caerdydd a Chonsortiwm Canolbarth y De wedi eu cynnig sydd wedi galluogi ein dysgwyr i siarad â phobl y tu allan i’r ysgol ynghylch eu dewisiadau TGAU. Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn i groesawu Prifysgol Caerdydd i’r ysgol i gyflwyno gweithdy ieithoedd yn trafod manteision dysgu ieithoedd. Roedd ein dysgwyr hefyd wedi mwynhau cymryd rhan mewn digwyddiad allgymorth Cymraeg y Cyngor Prydeinig. Roedd y ddau ddigwyddiad hyn wedi helpu’n dysgwyr ni i ddeall pa fathau o yrfaoedd a chyfleoedd sydd ar gael i bobl sydd gyda chymhwyster iaith. Daliodd yr enghreifftiau o fywyd go iawn y ddau gyflwyniad sylw’r dysgwyr ac fe gawson nhw eu hysbrydoli gan lwyddiannau anhygoel pobl a ddechreuodd eu taith iaith yn union fel nhw ym Mlwyddyn 7, pobl gallai’r dysgwyr uniaethu â nhw, sydd bellach wedi teithio’r byd ac wedi mwynhau cymaint o brofiadau bendigedig diolch i’w sgiliau iaith.

Rydyn ni nawr yn awyddus i gyflwyno cynllun Llysgenhadon Iaith (PLAs) i’n dysgwyr mewn partneriaeth âLlwybrau at Ieithoedd Cymru. Ein gobaith yw y bydd y llysgenhadon iaith yn fodelau rôl i’w cyfoedion a fydd yn helpu i godi proffil ein hadran, er mwyn hybu ieithoedd rhyngwladol ymhellach yn ein hysgol ni. 

Mae’r holl strategaethau hyn yn sicrhau bod dysgwyr Ysgol Gymunedol Tonyrefail yn derbyn digon o gyfleoedd i feithrin cariad at ddysgu ieithoedd. Bydd yr ieithoedd maen nhw’n eu deall yn darparu cyfleoedd i gyfoethogi eu bywydau yn y byd ehangach.

Y llynedd, llwyddon ni i gael un o’n grwpiau TGAU mwyaf erioed trwy weithredu dim ond ychydig o’r strategaethau uchod ac felly rydyn ni’n gobeithio y bydd ein niferoedd yn parhau i godi bob blwyddyn yn y dyfodol.