Gwybodaeth am ein hysgol

Mae Ysgol y Moelwyn yn ysgol cyfrwng Cymraeg sydd wedi’i lleoli yn nhref lofaol hardd hanesyddol Blaenau Ffestiniog, yng nghanol Gwynedd.

Mae’n ysgol gymharol fach gydag ychydig llai na 350 o ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 i 11.

Fel yr unig athrawes ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol, rwyf wedi gallu addysgu pob dysgwr unigol, sy’n ein gwneud yn gymuned glos iawn.

Rwyf wedi bod yn addysgu yn yr ysgol ers pum mlynedd, a gyda’r ysgolion ar gau oherwydd Covid-19 a’r agweddau gwael tuag at ddysgu iaith rhyngwladol pan ddechreuais gyntaf, mae wedi bod yn gyfnod heriol.

Serch hynny, rydym wedi dyfalbarhau, a bellach yn teimlo ychydig o fwrlwm yn yr adran ieithoedd!

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein Llysgenhadon Iaith wedi arwain y ffordd wrth godi proffil a hyrwyddo gwerth dysgu iaith yn y Moelwyn, ac maent wedi cymryd rhan mewn nifer o wahanol weithgareddau.

Dechreuodd eu hyfforddiant gyda thaith rithwir fyw o amgylch Periw gyda Llwybrau at Ieithoedd Cymru lle cawsant gyfle i ddysgu am ddiwylliant ac iaith arall ac ehangu eu gorwelion yn barod ar gyfer arwain y ffordd eu hunain.

Cwblhawyd sawl her ganddynt yn ystod y flwyddyn a gwnaethant ddechrau clwb ieithoedd yn yr ysgol.

Uchafbwynt y flwyddyn oedd dod yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Tîm y Flwyddyn yn 2022!

Cafodd rhai o ieithyddion mwyaf talentog blwyddyn 8 a 9 y Moelwyn gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi Ieithoedd Seren Sylfaen eleni. Gwnaethant gwblhau gweithdy a gweithgareddau ar-lein a chymryd rhan mewn cystadleuaeth dylunio poster mewn iaith rhyngwladol.

Enillodd un dysgwr blwyddyn 8 docyn llyfr am ddod yn ail! Gwnaethant roi o’u hamser i ddod yn ôl i’r ystafell ddosbarth ar ôl oriau ysgol i gymryd rhan; nawr, dyna ymroddiad!

Dyma nhw gyda’u tystysgrifau:

Gweithgareddau ac ieithoedd

Fel cymuned wledig yng ngogledd Cymru, gall fod yn heriol weithiau i bwysleisio pwysigrwydd dysgu ieithoedd i’n pobl ifanc, a dyna pam ei bod yn hollbwysig creu profiadau dilys ar eu cyfer.

Oherwydd y pandemig, bu bron yn amhosibl trefnu teithiau tramor (cafodd ein taith Nadolig i Lille ei chanslo yn 2020!) felly rydym wedi ceisio gwneud y gorau o’r hyn sydd ar gael i ni yma.

Tafliad carreg o’r ysgol, mae gennym ni sinema o’r enw CellB, sef hen orsaf heddlu (enw clyfar!) felly mae’n lle cŵl iawn i fynd i wylio ffilm yn yr hen gelloedd! Gyda chymorth Gŵyl IntoFilm, bu modd i ni fynd â’n dysgwyr blwyddyn 7 i weld y ffilm animeiddiedig Ffrangeg, ‘Zarafa’, am ddim, felly roeddem yn cefnogi’r gymuned leol, a chafodd y dysgwyr hefyd gyfle i ddod â’r iaith roedden nhw’n ei dysgu yn fyw y tu allan i gyd-destun yr ystafell ddosbarth.

Cafodd dysgwyr blwyddyn 8 gyfle i fynd ar daith i Lundain eleni hefyd. Cawson nhw gyfle i ymweld â’r Insititut Français yn Llundain, cerdded o gwmpas Soho a chlywed hanes yr Huguenotiaid, a mwynhau swper mewn bwyty Ffrengig.

Roedd pawb – staff a dysgwyr – wedi mwynhau’r daith, a ddim wedi gorfod poeni am deithio dramor!

Mae cynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn bendant wedi rhoi mwy o ryddid i’r adran gyda phwyslais ar addysgu er pwrpas a mwynhad.

Mae wedi creu cyfleoedd i gydweithio ag adrannau a meysydd dysgu eraill ac i gyflwyno mwy o lenyddiaeth, caneuon a chelf.

Er gwaethaf heriau cau ysgolion yn ystod y pandemig, cawson ni gyfle gwych i arbrofi gyda syniadau a thechnoleg newydd ac i feddwl yn greadigol.

Mae’r adran wedi manteisio ar y cyfle i weithio ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad.

Yn y gwersi Saesneg astudiodd y dysgwyr llenyddiaeth gothig a disgrifiodd y dysgwyr ddelwedd gothig yn yr iaith Ffrangeg.

Yn y gwersi celf cawson nhw gyfle i ddilyn cyfarwyddiadau Ffrangeg i dorri papur yn null Henri Matisse.

Gwelodd y gwersi gwyddoniaeth a daearyddiaeth y dysgwyr yn creu llyfr i blant am anifeiliaid y jwngl ac yn ystod y cyfnod clo dyma nhw’n cael cyfle i goginio crêpes Ffrengig blasus yn ystod eu gwersi coginio!

Dyma rai o’u llwyddiannau:

Mae Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd wedi bod yn ddiwrnod allweddol i’r adran ac rydym yn hoffi ei ddathlu mewn gwahanol ffyrdd bob blwyddyn ar y 26ain o Fedi.

Rydym wedi cynnal cystadleuaeth pobi lle codwyd bron i £200 ar gyfer Cymorth Canser Macmillan; a llynedd cawsom gystadleuaeth dylunio crys-t. Mae’r digwyddiadau hyn wedi dod â’r ysgol gyfan at ei gilydd ac wedi ennyn diddordeb mewn dysgu ieithoedd ymhlith staff a dysgwyr, sydd wedi bod yn brofiad mor gadarnhaol!

Mae’r adran ieithoedd yn y Moelwyn bob amser wedi rhoi pwyslais mawr ar wella ymgysylltiad yn y dosbarth, ac rydym o hyd yn meddwl am ffyrdd o wneud gwersi’n fwy o hwyl.

Mae fy nysgwyr wrth eu bodd â gêm o Balloon Pop (o WordWall.net), Blooket neu ‘un dé, un stylo’ (un pen, un dis), sydd i gyd yn creu bwrlwm yn y dosbarth, a chyffro i’r iaith.

Yn yr Eisteddfod ysgol yn ddiweddar, cymerodd dysgwyr ran mewn cystadleuaeth creu caligramau yn Ffrangeg ar themâu anifeiliaid, ffilmiau neu deulu ac roedd y canlyniadau’n wych!

Ein hysgol a Mentora ITM

Yn olaf, hoffwn sôn am y llwyddiant rydym wedi’i gael wrth gymryd rhan mewn rhaglen Mentora ITM.

Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael sawl mentor yn ymweld â Moelwyn (wyneb yn wyneb ac yn rhithwir!) i ddarparu profiadau diwylliannol ac ieithyddol i’n dysgwyr er mwyn cynyddu ymgysylltiad a’r nifer sy’n astudio ieithoedd ar gyfer TGAU.

Mae’r ymateb wedi bod yn hynod gadarnhaol ac mae’r sesiynau wedi rhoi cyfle i ddysgwyr mwynhau ieithoedd y tu allan i’r ystafell ddosbarth traddodiadol.

Pan ddechreuais yn y Moelwyn 5 mlynedd yn ôl, roedd 3 dysgwr ym mlwyddyn 11 a dim dysgwyr ym mlwyddyn 10 yn astudio iaith ryngwladol; erbyn hyn mae gennym o leiaf 10 yn dewis astudio Ffrangeg TGAU bob blwyddyn, sy’n gyflawniad aruthrol yn fy marn i.

Mae gennym ychydig o waith i’w wneud o hyd, ond mae’r byd yn eiddo i ni!