Ysgol Gyfun Cefn Saeson, Rebecca Steele

Cyfrwng: Saesneg

Lleoliad: Castell-nedd

Ieithoedd: Ffrangeg, Sbaeneg

Helo bawb,

Onid yw pethau wedi newid! Mae dysgu iaith yn edrych mor wahanol mewn ysgolion y dyddiau hyn o gymharu â phan oeddwn yn yr ysgol. Nid geiriau a gramadeg yn unig sy’n bwysig bellach (er eu bod yn dal yn bwysig iawn!), mae’n ymwneud â dod yn fwy cydnaws â byd rhyfeddol diwylliant ac amlieithrwydd y dyddiau hyn, sy’n gwneud synnwyr perffaith gan ein bod wedi’n cysylltu mor agos â phobl ar draws y byd nawr!

Mae ein hadran yn ymfalchïo mewn hyrwyddo amlieithrwydd yn ein hysgol. Mae llawer o’n dysgwyr yn siarad neu’n dysgu llawer o ieithoedd ac rydym wrth ein bodd yn eu clywed yn siarad am yr ieithoedd y maent yn eu defnyddio. Mae’r Cwricwlwm i Gymru newydd yn caniatáu i ni fanteisio ar hyn a helpu ein dysgwyr i weld iaith fel rhan o’u hunaniaeth. Mae bob amser yn adeg hudolus pan fydd dysgwr yn gallu cysylltu’r iaith sy’n cael ei dysgu ac iaith y mae eisoes yn ei gwybod, trwy gytras er enghraifft. Rwy’n cofio gosod darn o waith clawr (diolch tymor ffliw!) i fy nysgwyr lenwi map dosbarth o sut y gallent ‘gysylltu’ â gwledydd eraill (e.e. a ydynt yn siarad eu hiaith, a oes ganddynt berthnasau oddi yno, a oes ganddynt hoff fwyd oddi yno, ac ati). Pan ddeuthum yn ôl cefais fy synnu o weld faint o ddysgwyr oedd yn gallu cysylltu â gwledydd eraill, doeddwn i ddim yn gallu gweld unrhyw fapiau gwag yn unman! Roedd hyn yn gymaint o syndod i mi ag yr oedd iddyn nhw! Mae ein hadran hefyd yn cynnig clwb iaith Eidaleg allgyrsiol, sy’n boblogaidd iawn gyda dysgwyr, ac maent wedi gallu gweld tebygrwydd rhwng yr ieithoedd a addysgir yma yn ein hysgol ac Eidaleg. Mae athro arall yn ein hysgol ni wedi lansio clwb diwylliant Japaneeg hefyd, sy’n boblogaidd iawn. Mae’r mentrau hyn yn gwneud y dysgwyr mor gyffrous am iaith a diwylliant, cymaint fel fy mod wedi cael dysgwyr yn gofyn i mi gynnal clybiau eraill ar gyfer pob math o ieithoedd (dyma fi’n dod Duolingo!)

Peth arall rydw i’n ei garu am y cwricwlwm newydd yw’r cyfle y mae’n ei roi i ni gamu y tu allan i’n swigod pwnc a meddwl mewn cyd-destun ehangach. Rydw i wedi bod yn paratoi ein llyfryn newydd ar gyfer ein carfan blwyddyn 7 ac yn meddwl am y cyfleoedd y gallwn i eu rhoi i ddatblygu’r pedwar pwrpas. Bydd dysgwyr yn edrych ar gasau pensiliau a lliwiau ac, i ddechrau, roeddwn i’n methu deg â meddwl sut y gallwn i gyflwyno hyn mewn ffordd i ddatblygu dysgwyr moesegol, iach, uchelgeisiol a chreadigol. Yn ffodus, deuthum ar draws elusen wych sy’n gwneud bagiau ysgol ar gyfer dysgwyr mewn angen y tu allan i’r DU. Ers hynny, rydw i wedi bod yn gweithio ar ddefnyddio hwn ar gyfer y pwnc newydd, gan ganiatáu i ddysgwyr ddylunio eu bag ysgol ‘perffaith’, fel y gallwn greu rhestr o eitemau i’w hanfon at yr elusen. Diolch i’r Cwricwlwm i Gymru y gallwn nawr weithio gydag asiantaethau allanol fel yr elusen wych hon ac rydym hefyd yn cael ein hannog i weithio gydag adrannau eraill. Rydw i wedi bod yn ystyried cael y dysgwyr i greu darn o gelf gan ddefnyddio geiriau ar gyfer lliwiau i ddarlunio delwedd – yna gellir edrych ymhellach ar y math yma o gelf yng ngwersi’r adran gelf. Alla i ddim aros i weld beth mae ein hegin Picassos yn ei gynnig!

A dyna’r cyfan gennyf fi!