Buongiorno a tutti!

Felly, dw i’n ôl yn y DU, ac wedi cael cyfle i feddwl nôl am fy nghyfnod yn yr Eidal. Heddiw bydda i’n yn sôn am un foment *gofiadwy iawn: dysgu Eidalwr 23 oed sut i droi tegell ymlaen!

Roeddwn i’n gwybod yn barod nad oedd y tegell yn eitem gyffredin mewn cartrefi Eidalaidd, ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor ryfedd yw’r syniad o degell i Eidalwyr.

Felly, pam ydyn ni’n defnyddio tegell ond dyw Eidalwyr ddim? Penderfynais wneud ychydig o ymchwil i ffeindio allan!

Daw’r gair ‘kettle’ o’r gair Hen Saesneg* ‘cetil’, a ddaeth o’r gair Lladin ‘catillus’, sy’n golygu ‘padell ddofn neu ddysgl ar gyfer coginio’ (OED, 2022).

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod tegelli’n cael eu defnyddio hyd yn oed cyn i’r gair ei hun fodoli! Er enghraifft, mae *archeolegwyr wedi dod o hyd i *lestr efydd a ddefnyddiwyd i ferwi dŵr sy’n dyddio’n ôl i *3000CC!

Daeth gwahanol fathau o degelli’n boblogaidd ar draws y byd gyda’r angen i ferwi dŵr i’w wneud yn lân. Tegelli haearn oedd y mwyaf cyffredin gyda theithwyr, milwyr a theuluoedd yn eu defnyddio i goginio bwyd a berwi dŵr (Aqua Libra, 2020).

Ond, yn *Tsieina Hynafol, byddai pobl yn gwella blas dŵr drwy ychwanegu dail te ato, a dyna sut cafodd te ei ddyfeisio!

Ac wrth i’r arfer hwn ddod yn fwy cyffredin yn niwylliant Tsieina, roedd tegelli porslen* yn cael eu cynhyrchu yn benodol i wneud te (In The Kitchen, 2017).

Cafodd Prydeinwyr eu dylanwadu gan y traddodiadau hyn a dyna pam ein bod ni ym Mhrydain yn caru te gymaint heddiw!

Pan ddaeth te o Asia i Brydain am y tro cyntaf yn y 17eg ganrif, dim ond pobl gyfoethog a allai fforddio ei yfed. Ond gyda threigl amser, roedd te ar gael i bawb, ynghyd â’r offer a oedd angen i’w baratoi hefyd. Erbyn diwedd y 18fed ganrif, dechreuodd tegelli copr ymddangos mewn cartrefi ym Mhrydain.

Yn yr 20fed ganrif, cyrhaeddodd y tegell stof gartrefi Prydain, ynghyd â’r tegell chwibanu a fyddai’n chwibanu i roi gwybod bod y dŵr wedi berwi! Yn y pen draw, cyrhaeddodd y tegell trydan modern, sef yr hyn mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ei ddefnyddio heddiw.

Felly pam nad yw tegelli yn boblogaidd yn yr Eidal? Oherwydd yn hanesyddol, dydy’r Eidalwyr ddim wir yn yfed te!  Yn hytrach, mae’r Eidalwyr wrth eu bodd â’r diwylliant coffi, sydd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ers i goffi gyrraedd Fenis am y tro cyntaf yn y 17eg ganrif.

Cafodd y coffi cryf  espresso ei ddyfeisio ym Milan ar ddechrau’r 20fed ganrif ac yn fuan wedi hynny, codwyd y bariau coffi cyntaf sydd erbyn hyn i’w gweld ledled yr Eidal (Neighbourhood Coffee Roasters, 2022).

Felly pan oedden ni Brydeinwyr yn berwi dŵr ar gyfer te mewn tegelli, roedd Eidalwyr yn gwneud coffi cryf mewn potiau moka* a oedd yn cael eu cynhesu ar stof yn debyg iawn i degell traddodiadol yn y DU!

Efallai bod tegell yn anghyffredin yn yr Eidal, ond dw i ddim wedi ymweld â’r un cartref heb bot moka neu beiriant espresso!

O ystyried yr holl hanes, ddylwn i ddim synnu mewn gwirionedd bod Eidalwr, er ei fod yn oedolyn, ddim yn gallu weithio tegell trydan! Ydych chi’n cytuno? Rhannwch eich barn yn y sylwadau.

Geiriau:

  • Cofiadwy: rhywbeth sy’n hawdd ei gofio am ei fod/wedi bod yn arbennig neu’n anarferol
  • Hen Saesneg: Y ffurf gynharaf ar Saesneg ar gofnod, a ddefnyddiwyd hyd at tua 1150
  • Archeolegwyr: rhywun sy’n astudio hanes trwy gloddio ac astudio gweddillion
  • Llestr: Cynhwysydd, yn enwedig un a ddefnyddir i ddal hylif
  • CC: Cyn Crist
  • Tsieina Hynafol: Gwareiddiad hen iawn
  • Porslen: Yn cael ei adnabod yn fwy cyffredin fel ‘tsieina’, sef enw’r lle y tarddodd ohono
  • Pot Moka: Teclyn i wneud coffi ar y stof a ddyfeisiwyd yn yr Eidal (https://en.wikipedia.org/wiki/Moka_pot)