Roedd noson yr 11eg – 12fed Rhagfyr 2022 yn nodi 420 mlynedd ers brwydr hanesyddol rhwng *Protestaniaid a *Chatholigion yn Genefa.

I ddathlu’r Genevoises (pobl o Genefa) yn curo’r milwyr Catholig, cynhelir gŵyl flynyddol o’r enw ‘La Fête de L’Escalade’ gyda phenwythnos yn llawn digwyddiadau ledled y ddinas.

Wrth iddi nosi, ar brynhawn Sul oer ofnadwy, gwyliais rai o’r gweithgareddau sy’n dathlu un o draddodiadau hynaf Genefa.

Roedd *gorymdaith wedi’i threfnu gan grŵp *ailberfformio hanesyddol y ddinas gyda dynion, menywod a phlant dan arweiniad grwpiau o ddrymwyr a *ffliwtwyr.

Roedd pobl yn gorymdeithio ar gefn ceffyl neu ar droed, yn gwisgo gwisgoedd hanesyddol.

Roeddent yn falch o gario baneri gydag *arfbais Genefa, fflachlampau wedi’u goleuo gan dân, *mwsgedau, ac ysgolion.

Er y gall ysgol swnio’n rhyfedd, daw’r enw gŵyl ‘L’Escalade’ o’r ferf Ffrengig d’escalader (i ddringo), ac mae’r ysgol yn cynrychioli’r milwyr a ddefnyddiodd ysgolion i ddringo waliau’r ddinas.

Yng nghanol y ddinas, roedd llawer o stondinau yn gwerthu gwin cynnes (‘vin chaud’ yn Ffrangeg a ‘Glühwein’ yn Almaeneg), cnau castan wedi’u rhostio (‘marrons chauds’ yn Ffrangeg a ‘geröstete Kastanien’ yn Almaeneg), a bara gyda math arbennig o gaws wedi’i doddi o’r enw ‘raclette’ ar ei ben.

Gan gadw at y thema bwyd, mae holl archfarchnadoedd Genefa yn gwerthu *crochan (‘une marmite’ yn Ffrangeg, ‘ein Kessel’ yn Almaeneg) wedi’i wneud o siocled sy’n dathlu’r foment y taflodd cogyddes ddewr Genevoise o’r enw Catherine Cheynel grochan berwedig o gawl dros un o’r ymosodwyr! Mae’r crochan yn cynrychioli *gwrthsafiad a dewrder y Genevoises.

Roedd yr orymdaith ei hun wedi teithio ar hyd y strydoedd prysur a dosbarthwyd lanternau i blant.

Gorffennodd yr orymdaith y tu allan i’r eglwys gadeiriol lle canodd y côr ‘Cé qu’é lainô’ (Ef sy’n uchel), emyn Genefa yn y *dafodiaith leol o’r enw Arpitan, sy’n swnio’n debyg iawn i’r anthem genedlaethol Brydeinig ‘God Save the Queen/King.’

Mae gan yr emyn, a gyfansoddwyd ar ôl y frwydr, 68 o benillion ac mae’n adrodd stori L’Escalade a buddugoliaeth y Genevoises dros y Savoyards (milwyr Catholig y *Dug Savoy).

Cafodd coelcerth ei chynnau y tu allan i’r eglwys gadeiriol o flaen torf fawr. Dyma lle cwrddais ag Alma a Mathias, pâr priod sy’n byw yn Genefa.

Gyda’n gilydd, gwelsom dynion ifanc gyda *sashis coch a gwyn, yn dal dwylo ac yn ffurfio cylch o amgylch y goelcerth i ganu’r Picoulet, cân werin sy’n dyddio’n ôl i’r Oesoedd Canol.

Mae’n enwog yn ardaloedd y Swistir sy’n siarad Ffrangeg ac yn cael ei chanu yn ystod gwyliau. Mae’r Picoulet yn gân hwyl, lle mae grŵp o ddynion yn sefyll mewn cylch yn dawnsio ac yn canu am wahanol rannau o’r corff, fel bysedd, dwylo a phenelinoedd… roedd yn ffordd wych o gadw’n gynnes yn ystod yr ŵyl!

Yn Genefa, mae wedi bod yn hyfryd iawn cael y cyfle i weld gŵyl leol mor bwysig sy’n llawn hwyl i’r teulu cyfan.

Geirfa

Protestaniaid – pobl sy’n dilyn eglwysi Protestannaidd, a dorrodd i ffwrdd o’r eglwys Gatholig yn yr Oesoedd Canol (o ddiwedd y bumed ganrif i ddiwedd y 15fed ganrif)

Catholigion — pobl sy’n dilyn y ffydd Gatholig ac sy’n cael eu harwain gan y Pab

gorymdaith – parêd neu ymdaith

ailberfformio – actio digwyddiad o’r gorffennol

ffliwtwyr – pobl sy’n chwarae’r ffliwt

arfbais – dyluniad a ddefnyddir ar eitemau fel tarian a baneri

mwsgedau – math o ddryll, wedi’i danio o’r ysgwydd

crochan – pot metel mawr ar gyfer coginio dros dân agored

gwrthsafiad – i wrthod derbyn neu gytuno â rhywbeth

tafodiaith – math o iaith sy’n benodol i ranbarth neu grŵp o bobl

Dug Savoy – Charles Emmanuel I oedd arweinydd Dugiaeth Savoy a arferai fod yn wlad yng Ngorllewin Ewrop

Sash – Stribed hir o ddefnydd sy’n cael ei wisgo dros un ysgwydd neu o amgylch eich canol

Dolen i Cé qu’è lainô – YouTube sy’n canu tri o’r 68 pennill o emyn Genefa.

Dolen i Lyrics of Cé qu’è lainô | Ville de Genève – Safle officiel (geneve.ch) yn Arpitan a Saesneg.

Dolen i Cortège de l’escalade gyda “Le Picoulet” – YouTube o 2015. Mae’r gân yn dechrau am 5 munud.

Dolen i wefan La Fête de L’Escalade (yn Ffrangeg): Accueil – Compagnie de 1602

Credyd llun crochan: https://cuisinehelvetica.com