Dw i’n eistedd ar y trên o Genefa i Basel, a dw i’n sylwi bo’r cyhoeddiadau bellach yn Almaeneg. Wyddoch chi fod gan y Swistir ddwy *iaith swyddogol – Ffrangeg ac Almaeneg? Mae’r ‘Röstigraben’ (Der Röstigraben yn Almaeneg neu’r Barrière de Rösti yn Ffrangeg) yn llinell *anweledig rhwng y Swistir Ffrangeg a’r Swistir Almaeneg. Ond nid dim ond yr ieithoedd sy’n wahanol, mae’r gwleidyddiaeth a’r traddodiadau’n wahanol hefyd. Wrth i’r trên deithio tuag at Basel, dw i’n edrych ymlaen at dreulio’r diwrnod yn siarad Almaeneg.

Mae’r daith i Basel wedi’i drefnu gan *Rhwydwaith Myfyrwyr Erasmus (ESN) sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr o Brifysgol Genefa. Pris y tocyn trên oedd 15 Ffranc y Swistir (£13.37) sy’n llawer rhatach na thaith drên arferol yn y Swistir! Dw i’n cyrraedd gorsaf Genefa am 6:40yb ar fore Sadwrn oer iawn ac yn gwneud dau ffrind newydd yn syth. Mae Laura sy’n dod o Wlad Belg a Soraya sy’n dod o’r Almaen, yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Genefa, ac rydyn ni’n treulio’r tair awr nesaf yn dod i adnabod ein gilydd ar y trên.

Ar ôl i ni gyrraedd gorsaf Basel, caiff lun grŵp ei dynnu ac yna i ffwrdd a ni i grwydro’r ddinas. Rydyn ni’n mynd syth i’r caffi agosaf am ddiod boeth cyn ymweld â Bider und Tanner, siop lyfrau annibynnol boblogaidd iawn sy’n baradwys i’r sawl sy’n hoffi darllen! Yn y siop mae dewis mawr iawn o lyfrau mewn gwahanol ieithoedd ac wrth ddarllen *broliant nofel Almaeneg, dw i’n clywed un o’r gwerthwyr llyfrau yn sgwrsio â chwsmer gan ddefnyddio Almaeneg y Swistir – mae’n braf clywed ei sain prydferth, er nad ydw i’n ei deall!

Yna, rydyn ni’n mynd i’r hen dref gyda’i golygfeydd trawiadol dros afon y Rhein i fwynhau pizza yn un o’r bwytai. Ar ôl cinio, rydyn ni’n treulio’n hamser ni’n siopa ar y stryd fawr a’r farchnad Nadolig traddodiadol. Yn y farchnad Almaeneg yma, rydyn ni’n dod ar draws  llawer o gytiau pren yn gwerthu pob math o bethau gan gynnwys Glühwein (gwin twym), Bratwurst (selsig wedi’i ffrio), cnau pob blas, dalwyr breuddwydion, gemwaith, a hyd yn oed danteithion i gŵn! Mae hwyl yr ŵyl i’w deimlo ym mhob man, ac mae’n amlwg bod pawb wir yn mwynhau’r rhyddid ar ôl blynyddoedd o gyfyngiadau symud Covid-19.

Un o fy *uchafbwyntiau personol o’r farchnad Nadolig oedd gweld y Weihnachtspyramide enfawr (pyramid Nadolig) gan ei fod yn fy atgoffa o f’annwyl nain Almaeneg. Rhoddodd hi byramid Nadolig bach yn anrheg i fy nhad un Nadolig, ac yn hwyrach fe ddaeth y pyramid i fi. Mae’n addurn Nadolig hyfryd, traddodiadol gyda darnau pren wedi’u llunio’n ofalus ar wahanol lefelau o garwsél. Mae gan bob lefel olygfa wahanol o stori’r geni. Mae’r fflamau o’r canhwyllau arbennig o gwmpas gwaelod y carwsél yn pweru’r *propelorau sy’n gwneud iddo droi.

Rydyn ni’n dychwelyd i’r orsaf gan adael y farchnad Nadolig ar ein hôl, mae diwrnod hir ac oer o grwydro dinas hardd Basel wedi dod i ben, ac mae’n amser dal y trên yn ôl i Genefa.

Geiriau:

*iaith swyddogol – ieithoedd sy’n cael eu cydnabod gan gyfraith gwlad

*anweledig – rhywbeth na allwch ei weld

*Rhwydwaith Myfyrwyr Erasmus – rhwydwaith myfyrwyr sy’n cefnogi teithiau cyfnewid i fyfyrwyr ledled y byd

* Ffranc y Swistir – dyma enw arian cyfred y Swistir

*broliant – y disgrifiad byr ar gen llyfr/DVD

*uchafbwynt – y darn gorau o rywbeth

*propelorau – dyfais gyda llafnau sy’n troelli i helpu symud pethau drwy ddŵr/aer