Beth yw dy rôl?

Rwy’n Rheolwraig Prosiect ar gyfer cynllun peilot newydd o’r enw Mentora Caru Darllen, ein nod yw meithrin cariad at ddarllen ymysg dysgwyr ifanc mewn ysgolion cynradd. Trwy greu adnoddau a gweithgareddau deniadol sy’n cael eu cyflwyno gan fyfyrwyr sy’n fodelau rôl, rydyn ni am annog dysgwyr i weld y darllen rydyn ni’n ei wneud mewn bywyd bob dydd ac ar yr un pryd darganfod y llawenydd, grym a phleser y gall darllen ei roi i feddyliau ifanc. Rwy’n gweithio gyda rhanddeiliaid o’r byd addysg, athrawon ysgol gynradd a myfyrwyr sy’n mentora i gyflwyno’r prosiect llythrennedd cyffrous iawn yma.

Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun!

Rwy’n siŵr na fydd yn eich synnu i glywed fy mod i’n dwlu ar ddarllen ac mae fy nghariad at straeon wedi llunio llwybr fy mywyd hyd heddiw. Darllenais bob llyfr ar y silff wrth dyfu i fyny a breuddwydiais am yr holl lefydd y gallwn ymweld â nhw yn y dyfodol.

Astudiais Gymdeithaseg yn Bucharest, sef fy ninas enedigol, ac yna cefais swydd haf yng Ngwlad Groeg cyn penderfynu fy mod am barhau i ddarganfod bydoedd newydd trwy astudio, felly cwblheais Radd Meistr mewn Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Freiburg yn yr Almaen. Ar ôl gorffen fy astudiaethau, symudais i Gaerdydd gan nad oeddwn erioed wedi ymweld â Chymru o’r blaen. Roeddwn i eisiau cael blas ar fyd Dylan Thomas a Roald Dahl fe wnes i fwynhau’r profiad cymaint fel fy mod wedi bod yma ers dros 7 mlynedd bellach!

Yn fy mywyd proffesiynol rwyf wedi chwilio am swyddi sydd wedi rhoi cyfleoedd i mi ddysgu a helpu pobl mewn ffyrdd creadigol. Rwyf wedi gweithio yn y sector elusennol, ym myd addysg, ym maes ehangu cyfranogiad ac allgymorth cymunedol, ond yr hyn sy’n dod â’r llawenydd mwyaf i mi yw creu cyfleoedd a phrofiadau i bobl ifanc, sy’n eu hysbrydoli i freuddwydio, darllen a dysgu rhagor.

Beth yw dy hoff beth di am y prosiect?

Rwy’n credu’n gryf fod angen prosiect Caru Darllen, ac yn fwy na hynny ei fod yn hanfodol. Mae angen i ddysgwyr ifanc gael mynediad, nid yn unig at wahanol adnoddau ond hefyd modelau rôl sy’n eu hysbrydoli ac yn dangos profiadau newydd o’r byd iddynt. Mae’n dipyn o her i gyflawni cymaint mewn dim ond 6 sesiwn mentora, a fy hoff beth am y prosiect yw bod pob un athro, myfyriwr, a chydweithiwr rwyf wedi gweithio gyda nhw hyd yn hyn, wedi ymrwymo 100% i gefnogi’r prosiect, rhannu arbenigedd, a sicrhau amser a lle i bobl ifanc fanteisio ar y cyfle hwn.

Rwy’n gwerthfawrogi ymroddiad a brwdfrydedd athrawon yn fawr iawn, sy’n mynd y tu hwnt i’r gofyn er mwyn creu amgylcheddau dysgu unigryw a chyffrous i bob un dysgwr. Ond yn bennaf oll, rwy’n ddiolchgar am ein tîm Mentora ITM anhygoel – rwy’n ffodus i weithio gyda phobl fendigedig, garedig, a chreadigol sy’n gwneud hyd yn oed y diwrnod mwyaf heriol yn gyffrous ac yn hwyl!