Ffocws ar…
Mae pob adnodd yn ffocysu ar thema benodol ar gyfer TGAU Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg er mwyn helpu dysgwyr i wella’u sgiliau iaith yn ogystal â’u dealltwriaeth ryngddiwylliannol. Mae’r adnoddau’n tynnu sylw pwrpasol at brofiadau amrywiol a phroblemau cymdeithasol, wrth ddilyn egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru gan annog dysgwyr i ddatblygu’n ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd. Mae pob adnodd yn cynnwys fideo rhyngweithiol a thaflen waith gyda geirfa allweddol, gweithgareddau cyfieithu a phwyntiau gramadeg. Mae pob adnodd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.