Glôbgarwyr ar Grwydr
Mae’n hadnoddau Glôbgarwyr ar Grwydr wedi’u cynllunio i gefnogi dysgwyr Blwyddyn 7 wrth iddyn nhw drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Mae pob adnodd byr yn archwilio gwrthrych, person neu thema arbennig o fewn wlad benodol. Caiff iaith ei phlethu i mewn i’r adnoddau diwylliannol er mwyn sicrhau cyd-destun mwy diriaethol i ddysgu iaith. Mae’n bosib ymestyn y gwaith yma trwy ddefnyddio’n hadnoddau Blas ar Iaith sy’n cynnig cyfle i archwilio’n fanylach i iaith neu dafodiaith benodol. Mae’n hadnoddau ni i gyd ar gael am ddim trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.