Gwyliau Iaith
Roedd Mentora ITM wedi cynnal dwy ŵyl yn 2020-21 i roi cyfle i ddysgwyr ôl-16 ddarganfod mwy am astudio ieithoedd yn y brifysgol. Roedd y gwyliau wedi dilyn themâu penodol: cynrychioli profiadau amrywiol a chysylltu ieithoedd gyda phynciau eraill. Er nad yw’r digwyddiadau yma’n cael eu cynnal bellach, cafodd nifer ohonyn nhw eu recordio ac mae’n bosib dod o hyd iddyn nhw drwy ddilyn y dolenni isod. Mae’r dolenni hefyd ar gael yn Saesneg.