Taith Llwybr 2

Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru, sy’n creu cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd.

Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng symudedd rhyngwladol a phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. Mae gweithio mewn partneriaethau ar draws y byd yn rhoi syniadau newydd i athrawon ac yn ysbrydoli ffyrdd newydd o addysgu. Mae hefyd yn helpu athrawon i ddarganfod adnoddau ac offer newydd i ddod yn ôl gyda nhw i’r ystafell ddosbarth er mwyn cyfoethogi profiadau dysgu’r dysgwyr.

Mae gwaith rhyngwladol yn cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau personol a deilliannau dysgu. Mae hefyd yn effeithio’n gadarnhaol ar gyflogadwyedd, yn enwedig i’r rheiny o gefndiroedd difreintiedig. Mae symudedd rhyngwladol yn galluogi dysgwyr i wella gwybodaeth, meithrin sgiliau a phrofi diwylliannau ac ieithoedd newydd. Pan mae dysgwyr yn dychwelyd maen nhw’n fwy hyderus, yn fwy annibynnol ac mae ganddyn nhw fwy o gymhelliant i ddysgu.

Rydyn ni’n falch o rannu straeon gan unigolion ym mhob sector sydd wedi ymweld â gwledydd ledled y byd yn rhan o’r rhaglen Taith. Darllenwch am eu profiadau ar ein gwefan yma.

Mae modd i unrhyw ysgol sy’n cael ei hariannu neu ei chynnal gan awdurdod lleol, ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac yn gweithredu o Gymru, wneud cais am gyllid Taith. Mae dau lwybr ariannu – Llwybr 1 a Llwybr 2. Mae bellach modd gwneud cais ar gyfer Llwybr 2. Bydd ceisiadau ar agor tan 30 Tachwedd!

Llwybr 2

Mae Llwybr 2 yn cefnogi sefydliadau Cymreig a sefydliadau rhyngwladol i rannu gwybodaeth, arbenigedd a dysgu cydweithredol. Bydd yn ariannu partneriaethau cydweithredol rhyngwladol i ddatblygu deilliant prosiect sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru.

Dylai ceisiadau ar gyfer cyllid nodi’n glir y bwlch, y pryder dan sylw neu’r flaenoriaeth sector y bydd y prosiect yn mynd i’r afael â hi/ag ef, ac egluro sut y bydd deilliant y prosiect arfaethedig yn gwella ac yn ehangu gwybodaeth, dealltwriaeth ac arferion ar draws y sector. Rhaid i ddeilliannau’r prosiectau fod o ansawdd uchel a rhaid bod ysgolion a’r sector ehangach yn cael gwerth o ddeilliannau’r prosiect.

Bydd deilliannau Prosiectau Lwybr 2, sy’n cael eu hariannu yn y sector ysgolion yn 2022, yn cynnwys:

  • Pecynnau cymorth addysgu a chynlluniau asesu a fydd yn helpu athrawon i leihau effeithiau andwyol cydnabyddedig pontio o addysg gynradd i addysg uwchradd;
  • Adnoddau i gefnogi datblygiad a chynaliadwyedd Ysgolion Bro yng Nghymru;
  • Pecyn cymorth i gefnogi ysgolion i ddatblygu system addysg ddwyieithog ynghyd â ffyrdd ymarferol o sicrhau bod modd i bob dysgwr gael mynediad at iaith, waeth beth fo’i allu.

Mae’r ffurflen gais ar gael yma ar wefan Taith. Mae llawer o adnoddau cymorth i ymgeiswyr ar gael hefyd gan gynnwys fideos sy’n esbonio sut i gwblhau’r ffurflen gais a beth yw cyllideb y prosiect, yn ogystal ag awgrymiadau gan Aseswyr Allanol Taith ynglŷn â sut i ysgrifennu ffurflen gais dda.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag ymholiadau@taith.cymru