Ailfeddwl am y Biblinell Ieithoedd yn oes Brexit

admin

Awdures: Lucy Jenkins
Cyhoeddwyd: 17eg Ionawr 2020

Crynodeb o’r ymchwil: Ymchwilio i’r ffactorau sy’n effeithio ar y gostyngiad yn y niferoedd sy’n dysgu iaith yn y DU a hyrwyddo modelau partneriaeth newydd ar gyfer hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol. Nod y digwyddiad yw herio’r tybiaethau sy’n sail i ddifrïo poblyddol o amlddiwylliannaeth yn y DU, sy’n cael ei chwyddo gan Brexit, ac mae’n cyfrannu at ddadleuon ar ddyfodol Ieithoedd (Modern) fel disgyblaeth a maes.

Cyllidwr: AHRC Languages Acts and Worldmaking – Medi 2019

Crynodeb o’r deilliannau:

  1. Cynhaliwyd yr uwchgynhadledd ieithoedd yng Nghaerdydd ar 27 Medi 2019. Wedi’i hariannu gan grant bach gan ‘Language Acts and Worldmaking’, consortiwm GW4 a Llwybrau at Ieithoedd Cymru, trafododd y digwyddiad hwn yr heriau sy’n wynebu ieithoedd o’r ysgol gynradd i’r brifysgol ar draws Cymru a Lloegr. Yn gynyddol, mae myfyrwyr yn dewis peidio astudio iaith, heb fod yn ymwybodol yn aml o’r hyn y byddant yn ei golli (neu byth yn dod ar draws) o ganlyniad i benderfyniad o’r fath. Mae amlieithrwydd yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd ac yn ein galluogi i gyfathrebu, rhyngweithio a dysgu oddi wrth eraill y tu hwnt i’n cymuned ieithyddol. Mae angen yr arfer hwn o fod yn agored yn fwy nag erioed yn ystod cyfnod Brexit. Nod y digwyddiad oedd dwyn ynghyd randdeiliaid iaith allweddol sy’n ymwneud â thaith iaith myfyriwr i fyfyrio ac ystyried sut y byddem yn gallu ad-drefnu’r dirwedd iaith yn y DU er mwyn gwneud dysgu iaith yn fwy deniadol ar gyfer pobl ifanc.
  2. Darlun graffig o ganlyniadau’r Uwchgynhadledd Ieithoedd.
  3. Erthygl ar gyfer Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain a ysgrifennwyd gan Gorrara, Jenkins, Jepson a Machin 2020. ‘Multilingual perspectives: preparing for language learning in the new curriculum for Wales’, The Curriculum Journal, rhifyn arbennig, ‘Re-educating the nation: the development of the new curriculum in Wales’ (Ebrill 2020). Cliciwch yma i’w weld.

 

Dilynwch @2210Lucy ar ei chyfrif Twitter.


Pobl Communications: Menter y Gwyddorau Cymdeithasol

admin

Awdur: Lucy Jenkins
Cyhoeddwyd: 15 Mai 2021

Crynodeb o’r ymchwil: Ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu menter fasnachol o’r ymchwil a gynhaliwyd gan brosiect Mentora ITM er mwyn tyfu a datblygu ei weithgareddau. Mae’r gweithgaredd hwn yn ategu ac yn cysylltu’n uniongyrchol â’r gwaith sy’n cael ei wneud i ystyried y llwybrau masnachol ar gyfer y prosiect trwy Raglen ASPECT ARC (Masnacheiddio Ymchwil Aspect). Mae hwn yn sbardunwr mawreddog a’r cyntaf o’i fath ar gyfer y gwyddorau cymdeithasol. Mae’n cynnig hyfforddiant a chefnogaeth hanfodol i ymchwilwyr i helpu i hwyluso dilyniant syniadau arloesol hyd at drosi a chreu menter.  Gallwch ddarllen rhagor am hyn yma.

Ar hyn o bryd mae Mentora ITM yn chwilio am ffyrdd i gynnal a graddio ei weithgaredd er mwyn caniatáu iddo gyflawni ei weithgareddau ysbrydoledig mewn sawl cyd-destun a chydag amrywiaeth o bartneriaid. Mae hyn yn dilyn ei lwyddiant yn datblygu sawl menter arall fel Language Horizons a’r bartneriaeth â Castilla y Le .

Ariannwr: Cyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Caerdydd – Ebrill 2021

Crynodeb o’r deilliannau:

  1. Datblygu Pobl Communications, hunaniaeth brand newydd sbon i’r fenter. Bydd y brand newydd ar gael yn fuan.

 

  1. Comisiynu Oxentia i gynnal ymchwil i’r farchnad i ganfod cwmpas y farchnad ar gyfer gweithgareddau’r fenter. Mae hyn yn cynnwys edrych ymhellach ar sector addysg y DU, y sector addysg fyd-eang ac ar y sector hyfforddiant corfforaethol. Bydd canfyddiadau’r adroddiad hwn ar gael yn fuan.

 

 

Dilynwch @2210Lucy ar Twitter.


Amdanaf fi: Lucy

Amdanaf fi: Lucy

Awdur: Lucy Jenkins
Cyhoeddwyd: 4 Mehefin 2021

Ymunais â Mentora ITM ar ddiwedd 2017, ar ôl cael fy ysbrydoli gan y genhadaeth sy’n sail i’r prosiect yma ac oherwydd fy mod yn dymuno cefnogi pob person ifanc i weld pwysigrwydd canolog ieithoedd a diwylliannau i bopeth rydyn ni’n ei wneud. Rwy’n dal i gael fy ysbrydoli bob dydd gan ein pobl ifanc, ein myfyrwyr prifysgol, fy nghydweithwyr, a’r posibiliadau ar gyfer ieithoedd yma yng Nghymru.

Fe wnes i raddio o Brifysgol Caerdydd ar ôl gwneud BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Eidaleg a Gradd Meistr mewn Astudiaethau Ewropeaidd. Ar ôl cwblhau fy Ngradd Meistr, ymunais â Chwmni Buddiannau Cymunedol yn ne-orllewin Cymru a oedd yn defnyddio cerddoriaeth a thechnoleg i geisio ail-ennyn diddordeb pobl mewn dysgu, hyfforddi a gwaith. Trwy fy ngwaith, bûm yn gweithio gyda phobl ifanc ag anableddau corfforol a meddyliol, gyda throseddwyr ifanc, gyda phobl ifanc mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion, gofalwyr ifanc ac oedolion a oedd yn cael trafferth gyda diweithdra tymor hir, i grybwyll rhai yn unig. Roedd cyflwyno gweithdai, datblygu cwricwlwm ac offer newydd i ennyn diddordeb y bobl hyn, ynghyd â chyflawni achrediadau, yn gwneud i mi feddwl eto am rôl ieithoedd a diwylliannau, a’u rôl ganolog wrth ddatblygu cydlyniant cymdeithasol, hyder personol ac fel sbardun ar gyfer dyheadau. Roeddwn i’n gwybod bod angen i mi ‘fynd yn ôl’ at ieithoedd ac ar ôl blwyddyn neu ddwy yn mireinio fy sgiliau ymgysylltu, cyflwyno a rheoli partneriaethau, cefais fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Prosiect Mentora ITM.

Rwyf wedi arwain y gwaith o ddatblygu gweithgareddau gwahanol, gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, trawsnewid y prosiect i fod yn rhaglen gwbl ddigidol. Rwyf hefyd wedi arwain y broses o ehangu’r prosiect i gynnwys gweithio gyda dros hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru, a datblygu ffrydiau prosiect sy’n targedu dysgwyr ôl-16 a chreu adnoddau athrawon. Rwyf hefyd wedi arwain y gwaith o ddatblygu partneriaeth â rhanbarth Castilla y León yn Sbaen, gan addasu ein model i edrych ar sut i gefnogi ei chyd-destun ieithyddol.

Gan fy mod i wir yn credu yn y prosiect ac am fod gennyf lawer o dystiolaeth i gefnogi ei effeithiolrwydd, datblygais chwaer brosiect, Language Horizons, yn 2018 a dderbyniodd arian gan yr Adran Addysg yn Lloegr. Arweiniais y prosiect hwn nes iddo ddod i ben yn 2020, yn dilyn pandemig COVID-19. Roedd Language Horizons yn brofiad mentora cyfunol hynod lwyddiannus a oedd yn cynnwys datblygu partneriaeth rhwng Prifysgol Sheffield Hallam, Prifysgol Sheffield, Prifysgol Warwick a Phrifysgol Coventry. Trwy’r prosiect hwn, cefais brofiad helaeth mewn dylunio a chreu profiadau ar-lein yn ogystal â dod i ddeall fframweithiau profi a gwerthuso defnyddwyr yn well. Dysgais hefyd fy mod i wir yn mwynhau gweithio ar y rhyngwyneb rhwng profiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Rwyf hefyd wedi cael y pleser o gefnogi sawl grant ymchwil sy’n gysylltiedig â’r prosiect, popeth o ganfod ffynonellau cyllid posibl, i gyflawni yn unol â’n hallbynnau. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi ar faterion yn ymwneud ag addysg ieithoedd, ieithoedd yng Nghymru a mentora fel dull i gynyddu cymhelliant dysgwyr. Rwyf wir yn mwynhau cyflwyno ein hymgysylltiad a’n hymchwil mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol, a hynny fel siaradwr gwadd a phrif siaradwr dros y pedair blynedd diwethaf.

Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi bod yn rhan o raglen fawreddog o’r enw ASPECT sy’n cefnogi prifysgolion i ddatblygu eu hymchwil gwyddorau cymdeithasol yn gynigion busnes hyfyw. Fel rhan o’r rhaglen rwyf wedi dysgu sgiliau busnes newydd a fydd yn caniatáu i ni dyfu a datblygu’r prosiect er mwyn cyrraedd mwy a mwy o bobl ifanc. Cymerwch gip ar y blog hwn neu mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen hyfforddi yma.  Yn ein hachos ni, mae hyn er mwyn sicrhau y gallwn ddal ati i gyflwyno ein prosiect a chyflwyno mwy o’r prosiect mewn mwy o leoedd, sydd ynddo’i hun yn obaith hynod gyffrous.

Y tu hwnt i’m rôl yng Nghaerdydd a Mentora ITM, yn ddiweddar cefais fy nghyflogi fel Ymgynghorydd Addysg gan Ysgol Economeg Llundain i ddatblygu rhaglen i ysgolion i gefnogi menter SHAPE yr Academi Brydeinig, sy’n ceisio cynyddu amlygrwydd y gwyddorau cymdeithasol, y dyniaethau a’r pynciau celfyddydol ar draws y gymdeithas. Mae’r prosiect hwn yn dilyn dull pedair cenedl wrth ddelio â’r anawsterau y mae pynciau SHAPE yn eu hwynebu ac mae’n bwriadu dod o hyd i ffyrdd newydd o ennyn diddordeb pobl ifanc yng ngwerth y pynciau hyn. Rydyn ni’n datblygu adnoddau i ddysgwyr a hyfforddiant i athrawon i gefnogi’r uchelgais hon.

I mi, gweithio ar draws addysg i dorri ar draws a herio safbwyntiau yw rhan orau fy swydd. Wrth i ni geisio ailffurfio ein byd wrth i ni ddod allan o bandemig Covid-19, does dim modd anwybyddu rôl ganolog ieithoedd a chyfathrebu. Byddwn ni yno yn atgoffa’r byd o’u pwysigrwydd – mae hynny’n sicr!

Dilynwch @2210Lucy ar Twitter.


Amdanaf fi: Glesni

Amdanaf fi: Glesni

Awdur: Glesni Owen
Cyhoeddwyd: 4ydd Mehefin 2021

Ymunais â’r prosiect fel mentor yn 2017, wrth gwblhau fy BA mewn Hanes ac Almaeneg ym mhrifysgol Caerdydd. Mwynheais fy amser gymaint fel i mi barhau fel mentor yn ystod fy Ngradd Meistr mewn Hanes Canoloesol ym Mhrifysgol Caerdydd y flwyddyn flaenorol. Yn ystod haf 2019, cefais y cyfle i fod yn intern gyda’r prosiect, a phan ddaeth y cyfle i mi ymuno â’r prosiect yn llawn amser, fe neidiais ar y cyfle! Es I yn syth o gwblhau fy Nhraethawd Hir ar gyfer fy ngradd Meistr i weithio gyda’r prosiect.

Ers mis Medi 2019, rwyf yn gweithio fel Cydlynydd Prosiect ac yn mwynhau pob munud. Yn ystod yr pandemig Covid-19, helpais i greu prosiect trawsnewid trochi cwbl ddigidol ar gyfer disgyblion blwyddyn 11-13 pan gaewyd ysgolion ledled y DU. Crëwyd y prosiect hwn gyda’r nod o ddatblygu profiad cadarnhaol o ddysgu digidol, yn ogystal ag ehangu gwybodaeth disgyblion am y cyfleoedd sydd ar gael mewn addysg uwch o ran dewisiadau graddau.

Cefais fy nwyn fynnu’n ddwyieithog, gan ddefnyddio’r Gymraeg gyda ffrindiau, teulu, ac yn yr ysgol. Golygai hyn fy mod yn frwdfrydig dros ddod â phob iaith at ei gilydd a pheidio creu hierarchaeth iaith. Mae hyrwyddo pwysigrwydd pob iaith yn gyfartal o fewn y sector addysg yn hynod o bwysig i mi. Mae pob iaith yn werthfawr ynddynt eu hunain a gobeithiaf y bydd ein dysgwyr a’n mentoriaid yn dod i ddeall hyn yn ystod eu hamser gyda’r prosiect.

Y flwyddyn yma, edrychaf ymlaen at weithio gydag ein hysgolion a’r mentoriaid eto, ac i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ieithyddion. Ar ôl y pandemig Covid-19 a’i effaith ar addysgu, mae’n fwy pwysig nawr nac erioed ein bod yn cefnogi ein dysgwyr ar eu taith iaith, eu helpu i ddarganfod eu cymhelliant cynhenid dros ddewis iaith. Gobeithiwn y gwneith hyn ysbrydoli dysgwyr i sylweddoli bod ieithoedd yn bodoli ym mhobman!

Dilynwch @glesnihaf2 on Twitter.


Amdanaf fi: Becky

Amdanaf fi: Becky

Awdur: Becky Beckley
Cyhoeddwyd: 4 Mehefin 2021

Ymunais â’r tîm yn Ionawr 2020, yn wreiddiol i ddatblygu prosiect Language Horizons yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Graddiais gyda BA Anrhydedd yn Eidaleg a Sbaeneg a wnes i gwblhau Diploma Ôl-raddedig mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd ym mhrifysgol Caerfaddon. Yna, bu imi gwblhau cwrs TAR uwchradd yn UWIC cyn mynd ati i addysgu Sbaeneg a Ffrangeg mewn ysgol uwchradd gyfrwng Gymraeg am dros 12 mlynedd. Ers ymuno â’r tîm, rydw i wedi bod wrth fy modd yn helpu cynyddu’r niferoedd sy’n astudio ieithoedd TGAU yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, gwireddu’r rhaglen ôl-16 cwbl ddigidol ar gyfer dysgwyr blynyddoedd 11-13 yn ystod pandemig COVID-19, yn ogystal â pharatoi adnoddau digidol ar gyfer athrawon sydd nid yn unig yn hybu ethos Mentora ITM ond hefyd yn cynorthwyo ysgolion wrth iddynt drawsnewid i’r Cwricwlwm i Gymru. Rwy’n awyddus iawn i weithio gyda mentoriaid ac ysgolion yng Nghymru yn rhan o gylch mentora 2021-22 i ennyn brwdfrydedd dysgwyr tuag at ieithoedd sydd, heb os nac oni bai, wedi cael ei effeithio gan y pandemig. Rydw i hefyd yn ysu am gael cychwyn ar baratoi adnoddau digidol cyffrous ar gyfer dysgwyr blwyddyn 7 eleni – yn fy marn i mae gan bawb y potensial i garu ieithoedd, ond yr her yw darganfod yr hyn sy’n mynd i sbarduno rhywun i ddechrau ar ei daith i ddysgu iaith.

Dilynwch @k_beckley ar Twitter.