Beth sydd gan gaws i’w wneud ag ieithoedd?

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae caws yn cael ei wneud?

Dw i’n hoff iawn o gaws, ac oherwydd hyn, penderfynais ymchwilio i’r cwestiwn hwn trwy ymweld â llaethdy caws Gruyère yn y Swistir.

Gwneir Gruyère (sy’n cael ei ynganu fel groo-yair) yn nhref Gruyères, ac fel y mwyafrif o drefi a phentrefi yn y Swistir, mae’n syfrdanol o bert gyda bryniau gwyrddlas, tonnog, a sŵn clychau buwch yn canu yn y caeau a mynyddoedd cyfagos.

Grue yw’r gair Ffrangeg am garan ac yr aderyn yma yw arwyddlun y dref, sydd i’w weld ar faneri neu fel addurniadau yng ngerddi’r bobl leol.

Wrth i mi ysgrifennu hwn, mae Gruyère newydd gael ei enwi’n gaws gorau’r byd am yr ail flwyddyn yn olynol yng Ngwobrau Caws y Byd, a gynhaliwyd yng Nghasnewydd, Cymru, gan guro bron i 4000 o gawsiau eraill. Pwy arall sy’n dymuno eu bod ar y panel beirniadu ar gyfer hyn?!

Mae Gruyère i’w gael ym mhob archfarchnad yn y DU. Felly, os ydy hyn i gyd yn tynnu dŵr i’ch dannedd, yna does dim rhaid i chi ddod yr holl ffordd i’r Swistir i’w flasu!

Mae’r llaethdy caws hwn, (‘la fromagerie’ yn Ffrangeg a’ die Käserei’ yn Almaeneg), wedi bod yn gwneud caws ers 1115 gyda llaeth wedi’i gynhyrchu o wartheg o fewn radiws o 12 milltir.

Maent yn cynnig taith hunan-dywys gyda chlustffonau sain mewn sawl iaith, mae ganddynt fwyty lle gallwch flasu’r caws fel rhan o lawer o brydau bwyd rhanbarthol a thraddodiadol blasus, ynghyd â siop anrhegion â stoc dda, a dwywaith y dydd gallwch eu gweld yn llenwi’r mowldiau caws sy’n rhan bwysig o’r cynhyrchiad.

Nawr at y rhifau! I wneud olwyn gaws 35kg mae angen 400l o laeth. Mae gan fuwch (une vache’ yn Ffrangeg, eine Kuh ‘yn Almaeneg) bedwar stumog ac mae’n cynhyrchu 25l o laeth y dydd.

Mae llaethdy Gruyère yn cynhyrchu 48 olwyn gaws y dydd ac yn eu hallforio yn fyd-eang.

Mae’r caws (le fromage’ yn Ffrangeg, der Käse’ yn Almaeneg), yn gaws caled wedi’i wneud o laeth buwch, yn union fel caws ‘Cheddar’ Prydeinig, ond mae gan Gruyère arogl a blas mwy nodedig (cneuog a hufennog) diolch i’r porfeydd glaswelltog mae’r gwartheg yn pori ynddynt.

Unwaith eto, fel caws ‘Cheddar’ Prydeinig, mae yna nifer o fathau o Gruyère sydd wedi aeddfedu dros gyfnodau amser gwahanol.

Po hiraf y maent wedi bod yn eistedd ar y silffoedd, y mwyaf dwfn yw’r blas. Yn y siop anrhegion gallwch flasu a phrynu’r cawsiau gwahanol oed sy’n amrywio o bum mis/ysgafn (‘doux’ yn Ffrangeg, ‘mild’ yn Almaeneg), yr holl ffordd hyd at 24 mis/aeddfed iawn (‘vieux’ yn Ffrangeg, ‘rezent’ yn Almaeneg).

Fe ges i gymaint o hwyl y tro cyntaf, fe es i nôl y penwythnos canlynol pan ddaeth ffrind draw i aros gyda fi.

Y tro hwn fe wnes i wrando ar y daith hunan-dywys yn Almaeneg, a phrynais i ragor o gaws gan fy mod eisoes wedi bwyta pob dim o’r penwythnos blaenorol!

Ar ôl ymweld â’r ŵyl alpaidd yn Lenk im Simmental (hanes yn fy mlog blaenorol) a’r llaethdy caws Gruyère, dw i’n teimlo fy mod i’n deall yn iawn pam fod y Swistir mor angerddol am eu gwartheg gan eu bod yn cynhyrchu’r caws gorau yn y byd!

Geiriau allweddol:

  • garan – aderyn o’r enw ‘crane’ yn Saesneg
  • gynhaliwyd – dathlwyd
  • tynnu dŵr i’ch dannedd – gwneud i chi eisiau bwyta
  • hunan-dywys – taith heb rywun yn eich tywys o gwmpas
  • all-forio – anfon rhywbeth i wlad arall i’w werthu
  • nodedig – unigryw
  • porfeydd – glaswelltiroedd
  • aeddfedu – broses sy’n ychwanegi ddyfnder blas i gaws dros amser


Proffil Ysgol: Ysgol y Moelwyn

Gwybodaeth am ein hysgol

Mae Ysgol y Moelwyn yn ysgol cyfrwng Cymraeg sydd wedi’i lleoli yn nhref lofaol hardd hanesyddol Blaenau Ffestiniog, yng nghanol Gwynedd.

Mae’n ysgol gymharol fach gydag ychydig llai na 350 o ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 i 11.

Fel yr unig athrawes ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol, rwyf wedi gallu addysgu pob dysgwr unigol, sy’n ein gwneud yn gymuned glos iawn.

Rwyf wedi bod yn addysgu yn yr ysgol ers pum mlynedd, a gyda’r ysgolion ar gau oherwydd Covid-19 a’r agweddau gwael tuag at ddysgu iaith rhyngwladol pan ddechreuais gyntaf, mae wedi bod yn gyfnod heriol.

Serch hynny, rydym wedi dyfalbarhau, a bellach yn teimlo ychydig o fwrlwm yn yr adran ieithoedd!

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein Llysgenhadon Iaith wedi arwain y ffordd wrth godi proffil a hyrwyddo gwerth dysgu iaith yn y Moelwyn, ac maent wedi cymryd rhan mewn nifer o wahanol weithgareddau.

Dechreuodd eu hyfforddiant gyda thaith rithwir fyw o amgylch Periw gyda Llwybrau at Ieithoedd Cymru lle cawsant gyfle i ddysgu am ddiwylliant ac iaith arall ac ehangu eu gorwelion yn barod ar gyfer arwain y ffordd eu hunain.

Cwblhawyd sawl her ganddynt yn ystod y flwyddyn a gwnaethant ddechrau clwb ieithoedd yn yr ysgol.

Uchafbwynt y flwyddyn oedd dod yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Tîm y Flwyddyn yn 2022!

Cafodd rhai o ieithyddion mwyaf talentog blwyddyn 8 a 9 y Moelwyn gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi Ieithoedd Seren Sylfaen eleni. Gwnaethant gwblhau gweithdy a gweithgareddau ar-lein a chymryd rhan mewn cystadleuaeth dylunio poster mewn iaith rhyngwladol.

Enillodd un dysgwr blwyddyn 8 docyn llyfr am ddod yn ail! Gwnaethant roi o’u hamser i ddod yn ôl i’r ystafell ddosbarth ar ôl oriau ysgol i gymryd rhan; nawr, dyna ymroddiad!

Dyma nhw gyda’u tystysgrifau:

Gweithgareddau ac ieithoedd

Fel cymuned wledig yng ngogledd Cymru, gall fod yn heriol weithiau i bwysleisio pwysigrwydd dysgu ieithoedd i’n pobl ifanc, a dyna pam ei bod yn hollbwysig creu profiadau dilys ar eu cyfer.

Oherwydd y pandemig, bu bron yn amhosibl trefnu teithiau tramor (cafodd ein taith Nadolig i Lille ei chanslo yn 2020!) felly rydym wedi ceisio gwneud y gorau o’r hyn sydd ar gael i ni yma.

Tafliad carreg o’r ysgol, mae gennym ni sinema o’r enw CellB, sef hen orsaf heddlu (enw clyfar!) felly mae’n lle cŵl iawn i fynd i wylio ffilm yn yr hen gelloedd! Gyda chymorth Gŵyl IntoFilm, bu modd i ni fynd â’n dysgwyr blwyddyn 7 i weld y ffilm animeiddiedig Ffrangeg, ‘Zarafa’, am ddim, felly roeddem yn cefnogi’r gymuned leol, a chafodd y dysgwyr hefyd gyfle i ddod â’r iaith roedden nhw’n ei dysgu yn fyw y tu allan i gyd-destun yr ystafell ddosbarth.

Cafodd dysgwyr blwyddyn 8 gyfle i fynd ar daith i Lundain eleni hefyd. Cawson nhw gyfle i ymweld â’r Insititut Français yn Llundain, cerdded o gwmpas Soho a chlywed hanes yr Huguenotiaid, a mwynhau swper mewn bwyty Ffrengig.

Roedd pawb – staff a dysgwyr – wedi mwynhau’r daith, a ddim wedi gorfod poeni am deithio dramor!

Mae cynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn bendant wedi rhoi mwy o ryddid i’r adran gyda phwyslais ar addysgu er pwrpas a mwynhad.

Mae wedi creu cyfleoedd i gydweithio ag adrannau a meysydd dysgu eraill ac i gyflwyno mwy o lenyddiaeth, caneuon a chelf.

Er gwaethaf heriau cau ysgolion yn ystod y pandemig, cawson ni gyfle gwych i arbrofi gyda syniadau a thechnoleg newydd ac i feddwl yn greadigol.

Mae’r adran wedi manteisio ar y cyfle i weithio ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad.

Yn y gwersi Saesneg astudiodd y dysgwyr llenyddiaeth gothig a disgrifiodd y dysgwyr ddelwedd gothig yn yr iaith Ffrangeg.

Yn y gwersi celf cawson nhw gyfle i ddilyn cyfarwyddiadau Ffrangeg i dorri papur yn null Henri Matisse.

Gwelodd y gwersi gwyddoniaeth a daearyddiaeth y dysgwyr yn creu llyfr i blant am anifeiliaid y jwngl ac yn ystod y cyfnod clo dyma nhw’n cael cyfle i goginio crêpes Ffrengig blasus yn ystod eu gwersi coginio!

Dyma rai o’u llwyddiannau:

Mae Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd wedi bod yn ddiwrnod allweddol i’r adran ac rydym yn hoffi ei ddathlu mewn gwahanol ffyrdd bob blwyddyn ar y 26ain o Fedi.

Rydym wedi cynnal cystadleuaeth pobi lle codwyd bron i £200 ar gyfer Cymorth Canser Macmillan; a llynedd cawsom gystadleuaeth dylunio crys-t. Mae’r digwyddiadau hyn wedi dod â’r ysgol gyfan at ei gilydd ac wedi ennyn diddordeb mewn dysgu ieithoedd ymhlith staff a dysgwyr, sydd wedi bod yn brofiad mor gadarnhaol!

Mae’r adran ieithoedd yn y Moelwyn bob amser wedi rhoi pwyslais mawr ar wella ymgysylltiad yn y dosbarth, ac rydym o hyd yn meddwl am ffyrdd o wneud gwersi’n fwy o hwyl.

Mae fy nysgwyr wrth eu bodd â gêm o Balloon Pop (o WordWall.net), Blooket neu ‘un dé, un stylo’ (un pen, un dis), sydd i gyd yn creu bwrlwm yn y dosbarth, a chyffro i’r iaith.

Yn yr Eisteddfod ysgol yn ddiweddar, cymerodd dysgwyr ran mewn cystadleuaeth creu caligramau yn Ffrangeg ar themâu anifeiliaid, ffilmiau neu deulu ac roedd y canlyniadau’n wych!

Ein hysgol a Mentora ITM

Yn olaf, hoffwn sôn am y llwyddiant rydym wedi’i gael wrth gymryd rhan mewn rhaglen Mentora ITM.

Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael sawl mentor yn ymweld â Moelwyn (wyneb yn wyneb ac yn rhithwir!) i ddarparu profiadau diwylliannol ac ieithyddol i’n dysgwyr er mwyn cynyddu ymgysylltiad a’r nifer sy’n astudio ieithoedd ar gyfer TGAU.

Mae’r ymateb wedi bod yn hynod gadarnhaol ac mae’r sesiynau wedi rhoi cyfle i ddysgwyr mwynhau ieithoedd y tu allan i’r ystafell ddosbarth traddodiadol.

Pan ddechreuais yn y Moelwyn 5 mlynedd yn ôl, roedd 3 dysgwr ym mlwyddyn 11 a dim dysgwyr ym mlwyddyn 10 yn astudio iaith ryngwladol; erbyn hyn mae gennym o leiaf 10 yn dewis astudio Ffrangeg TGAU bob blwyddyn, sy’n gyflawniad aruthrol yn fy marn i.

Mae gennym ychydig o waith i’w wneud o hyd, ond mae’r byd yn eiddo i ni!


O 'pick packs' i 'piggybacks'

Buongiorno! Fy enw i yw Hannah. Rwy’n 25 oed ac yn Gynorthwy-ydd Iaith Saesneg yn La Spezia, yr Eidal.

Rwyf wedi byw mewn cymaint o wledydd dros y chwe blynedd diwethaf, a rhywbeth sydd wedi bod o ddiddordeb mawr i mi ar fy nheithiau yw rôl iaith mewn bywyd bob dydd.

Dyma’r cyntaf o’r hyn a fydd yn gyfres o flogiau sydd wedi’u hysbrydoli gan fy mhrofiadau yn y DU a thramor, ac sy’n ymchwilio i sut mae ieithoedd yn cysylltu â gwahanol agweddau o fywyd sydd efallai’n ymddangos yn ddigyswllt ar yr olwg gyntaf.

Heddiw, byddwn ni’n sôn am ddull cludo clasurol – yr hyn sy’n cael ei alw’n ‘piggyback’ yn Saesneg!

I’r rhai sy’n anghyfarwydd â’r cysyniad, dyma lle mae un person yn cario person arall ar ei gefn.

Nawr, doeddwn i erioed wedi meddwl gormod am y rheswm dros yr enw tan i mi gymryd rhan mewn sesiwn jiu-jitsu yn ddiweddar yma yn La Spezia.
Yn ystod y sesiwn, rhoddodd fy mhartner hyfforddi, Chiara, a minnau ‘piggyback’ i’n gilydd o gwmpas y dojo.
Disgrifiodd y sensei yr ymarfer yn debyg i gario rhywun ‘a cavalluccio’ – ystyr hynny yw cario rhywun ‘fel ceffyl bach’.
Mae’n swnio’n eithaf cŵl, on’d yw e? A gan fod ceffylau’n cludo pobl, mae’n gwneud synnwyr perffaith…

Ond beth am ‘piggyback’? Dydy hi ddim fel pe bai moch yn enwog am gario pobl ar eu cefnau.

Ar ôl egluro’r cyfieithiad Saesneg i’r sensei, dywedodd yn syth fod cigyddion arfer cario moch marw ar eu cefnau.

Er bod meddwl am garcasau moch yn cael eu halio’n gwneud i mi deimlo ychydig yn drist, roedd yn gwneud llawer o synnwyr.

Eto i gyd, penderfynais i ymchwilio i darddiad y gair ‘piggyback’.

Ymhen dim amser o gwbl, des i o hyd i hanes y gair … sydd ddim yn ymwneud â moch o gwbl, mewn gwirionedd!

Gadewch i ni fynd yn ôl i’r 16eg ganrif. Bryd hynny, roedd nwyddau gan amlaf yn cael eu cludo mewn pecynnau ar gefnau pobl (neu anifeiliaid).

Dechreuwyd galw’r pecynnau hyn yn ‘pick packs’ am fod angen i chi eu codi a’u rhoi ar eich cefn.
Fodd bynnag, wrth i amser symud yn ei flaen, datblygodd yr iaith.

Newidiodd ‘pick pack’ i ‘pick-a-pack’, a newidiodd hynny i ‘pick-a-back’.

Roedd pobl yn camglywed ‘pick-a-back’ yn ‘pick-i-back’, ac oherwydd ein tuedd naturiol i wneud synnwyr o’r hyn rydyn ni’n ei glywed, cafodd y gair ‘piggyback’ ei fathu – hyd yn oed os nad oedd moch yn enwog am gludo pobl a nwyddau, doedd enw dim anifail arall yn swnio’n debyg i ‘picky’.

Erbyn y 19eg ganrif, roedd y gair hwn yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r pecynnau hyn, ond erbyn y 1930au, roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio mynd ar gefn rhywun.

Felly, dydy’r gair ddim yn ymwneud â halio moch o gwbl!

Beth am ieithoedd eraill? Wel, yn Ffrangeg, mae cario rhywun ‘à califourchon’ yn golygu ‘ag un goes bob ochr’ yng nghyd-destun marchogaeth.

Yn Sbaeneg, mae cario rhywun ‘a caballito’ yn golygu bron yn union yr un peth ag yn Eidaleg, sef ‘fel ceffyl bach’.

Mae’n ymddangos bod ceffylau’n thema gyffredin yn yr ieithoedd Romáwns!

Beth am ‘piggyback’ mewn ieithoedd rhyngwladol eraill? Rhowch wybod sut rydych chi’n dweud ‘piggyback’ mewn iaith rydych chi’n ei siarad, a beth yw ei gyfieithiad llythrennol!

Baci, alla prossima!

Geiriau allweddol

  • A cavalluccio – ‘Fel ceffyl bach’ (Fersiwn Eidaleg o ‘piggyback’)
  • À califourchon – ‘Fel eistedd ar gefn ceffyl’ (Fersiwn Ffrangeg o ‘piggyback’)
  • A caballito – ‘Fel ceffyl bach’ (Fersiwn Sbaeneg o ‘piggyback’)
  • Baci, alla prossima! – ‘Cusanau, tan y tro nesaf!’ (Eidaleg)


Amdanaf fi: Siân

Amdanaf fi: Siân

Awdur: Siân Burkitt 
Cyhoeddwyd: 20 Medi 2021

Ymunais â’r tîm ym mis Medi 2022 ar ôl cyfnod yn gweithio yn y sectorau newyddiaduraeth a chyfathrebu polisi cyhoeddus. Graddiais o Brifysgol St Andrews yn 2017 gydag MA (Anrh) mewn Hanes Modern, gyda modiwlau is-anrhydedd mewn Almaeneg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Ar ôl graddio, gweithiais i Weinyddiaeth Addysg Ffederal Awstria fel tiwtor Saesneg drwy’r Cyngor Prydeinig. Dysgais mewn dwy ysgol uwchradd yn Fienna am flwyddyn, gan weithio gyda myfyrwyr 10-18 oed. Ar ôl hynny, dychwelais i Gymru i wneud Gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol.

Cefais fy magu ar aelwyd Gymraeg ac astudiais yr iaith Gymraeg yn yr ysgol ar gyfer Lefel A. Serch hynny doeddwn i byth yn teimlo’n ddigon hyderus i’w defnyddio yn fy mywyd bob dydd. Dim ond pan ddechreuais astudio Almaeneg o’r newydd yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol y gwnes i oresgyn fy ofn o daflu fy hun i mewn i iaith newydd a dechrau gweld fy mherthynas ag amlieithrwydd mewn golau gwahanol, mwy pragmatig.

Roedd yn brofiad hynod o gadarnhaol sydd wedi fy ngwneud i’n awyddus i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i astudio ieithoedd yn eu ffordd eu hunain. Dylai’r daith ieithyddol fod yn un bleserus sy’n cyfoethogi bywyd yr unigolyn.

Eleni, rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod ein hysgolion a’n mentoriaid, gan ddefnyddio fy mhrofiad fy hun ym maes cyfathrebu i amlygu weledigaeth Mentora ITM sef hybu amgylchedd dysgu iaith cadarnhaol i bawb.

Dilynwch @BurkittSian ar Twitter.


Amdanaf fi: Beth

Amdanaf fi: Beth

Awdur: Beth Mumford
Cyhoeddwyd: 20 Medi 2021

Ymunais â Mentora ITM fel mentor iaith am y tro cyntaf yn 2019 pan oeddwn fy ail flwyddyn yn astudio BA Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn brofiad gwych ac roeddwn i wedi mwynhau cymaint nes i mi ymgeisio eto i gymryd rhan pan ddychwelais o fy mlwyddyn dramor yn 2021. Er fy mod i yn fy mlwyddyn olaf ar y pryd, fe wnes i hefyd fanteisio ar gyfleoedd ychwanegol, gan gynnwys mentora mewn ysgol ychwanegol a hefyd astudio dwy uned Achrediad Mentora Lefel 4 a ddarparwyd gan y prosiect.

A minnau wedi cwblhau fy nghwrs israddedig, mae fy rôl mentora bellach wedi bod i ben. Serch hynny, dydw i ddim wedi rhoi’r gorau i weithio gyda’r prosiect. Fe ges i gyfle i gwblhau cyfnod o brofiad gwaith â’r prosiect diolch i’r Gronfa Arloesedd Ymchwil Cymru (RWIF) cyn imi hyd yn oed gyflwyno fy asesiadau prifysgol terfynol! Cefais y cyfle i edrych i’r posibilrwydd fasnacheiddio’r prosiect yn ogystal ag ymchwilio i’r llwybrau gorau i wneud hynny. Er mwyn gallu gweithio gyda’r prosiect a’r tîm anhygoel am gyfnod hirach, ymgymerais â chyfrifoldebau ychwanegol fel Gweinyddwraig Prosiect Myfyrwyr, yn cefnogi prosesau’r prosiect ac yn datblygu adnoddau. Gan fy mod i wedi mwynhau’r profiad cymaint, gan gynnwys y cyfrifoldebau amrywiol a niferus oedd gen i yn ystod fy amser yn gweithio ar y prosiect, manteisiais ar y cyfle i ymuno â thîm y prosiect fel Cydlynydd Prosiect Addysg a Mentora.

Fel plentyn, rydw i’n cofio sawl myfyriwr Ffrangeg a Sbaeneg yn cael gwahoddiad i aros gyda ni fel teulu yn ystod gwyliau’r haf a chredaf fod y profiadau yma wedi fy annog i fagu edmygedd cryf o siaradwyr ieithoedd eraill. Astudiais TGAU Ffrangeg ac Almaeneg yn yr ysgol a chefais fy ysbrydoli hefyd gan fy athro Almaeneg gyda’i ffordd unigryw o addysgu, sef mewn modd cyfannol a oedd yn debyg iawn i sut mae’r prosiect a’r Cwricwlwm i Gymru yn hyrwyddo ieithoedd. Hyd heddiw, rwy’n dal i gofio ei gwersi – treuliodd un wers yn coginio bwyd Almaeneg o ryseitiau wedi’u hysgrifennu’n gyfan gwbl yn Almaeneg! Dymunaf ysbrydoli eraill fel hyn, i ddeall nad yw ieithoedd yn gyfyngedig i’r ystafell ddosbarth nac ychwaith i restrau geirfa, ond yn hytrach eu bod ym mhobman a bod modd eu teilwra’n llwyr i’ch diddordebau a’ch hobïau eich hun.

Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at fanteisio ar bopeth rydw i wedi ei ddysgu yn ystod y cyfnod mentora a fy mhrofiad gwaith er mwyn cefnogi ein hysgolion, dysgwyr a’n mentoriaid yn y flwyddyn ysgol newydd hon. Rydw i’n gobeithio helpu dysgwyr i ddod o hyd i’r gwerth a’r cyfoeth ychwanegol mewn bywyd a ddaw o ddysgu ieithoedd a’u helpu i fwynhau’r broses o ddysgu, yn hytrach na chanolbwyntio ar ruglder. Mae ieithoedd wedi cael effaith mor gadarnhaol a dwys ar fy mywyd, a gobeithiaf yn fy rôl gyda’r prosiect y gallaf ysbrydoli eraill!

Dilynwch @bethlm2066 ar Twitter.


Mae Dysgu Ieithoedd yn Agor Drysau i Fydoedd Eraill: Mae’r Cof yn Gweithredu drwy Dechnolegau Digidol

admin

Awdures: Lucy Jenkins
Cyhoeddwyd: 10ed Ebrill 2019

Crynodeb o’r ymchwil: Deall perthnasedd Digi-Ieithoedd a methodolegau mentora a weithredir gan Mentora ITM yng Nghymru ar gyfer cymunedau ieithoedd ehangach ac, yn anad dim, mewn gwledydd partner Ewropeaidd.

Cyllidwr: AHRC Languages Acts and Worldmaking – Tachwedd 2018

Crynodeb o’r deilliannau:

  1. Cyflwyno prosiectau allgymorth yn y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol (APPG) ar gyfer Ieithoedd Modern ym mis Hydref 2018. Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys mentoriaid, mentoreion blaenorol ac athrawon a oedd yn rhan o’r prosiect ledled Cymru.
  2. Cyfarfodydd â chydweithwyr Ewropeaidd yng Nghanolfan Addysg Uwch Cymru (WHEB) ym mis Tachwedd 2018, a arweiniodd at bartneriaeth rhwng Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Ranbarthol Castilla y León. Arweiniodd hyn at recriwtio a hyfforddi wyth myfyriwr israddedig blwyddyn olaf i fentora yn Sbaen fel rhan o fodiwl blwyddyn olaf, y Modiwl Addysgu Myfyrwyr. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
  3. Gwahoddiad i fynychu digwyddiad dathlu Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru ym Mrwsel (Mawrth 2019) gyda Phrif Weinidog Cymru. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o brosiect Mentora ITM, Prosiect Mentora Ffiseg, ynghyd â myfyrwyr a oedd ynghlwm wrth Brosiectau Castilla y León a Language Horizons. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

 Dilynwch @2210Lucy ar ei chyfrif Twitter.


Gwerthuso Effeithiolrwydd E-fentora fel Adnodd Ieithoedd Digidol ar gyfer Dysgu Ieithoedd Tramor yng Nghymru

admin

Awdures: Lucy Jenkins
Cyhoeddwyd: 27ain Ionawr 2019

Crynodeb o’r ymchwil: Gwerthusiad o Digi-Ieithoedd, profiad ar-lein sy’n annog ei ddefnyddwyr, dysgwyr Blwyddyn 8 neu 9, i ymgysylltu â chwestiynau sy’n herio canfyddiadau un iaith ac un ddiwylliant. Mae’r profiad hwn yn defnyddio dull mentora cyfunol, fel gweithgaredd ar-lein ac wyneb yn wyneb, a chafodd ei ddatblygu gan Mentora ITM yn 2017.

Funder Cyllidwr: Menter Ymchwil Byd Agored yr AHRC-Multilingualism: Empowering Individuals, Transforming Societies (MEITS)– Ionawr 2018

Crynodeb o’r deilliannau:

  1. Ffilm tair munud ar gyfer amgueddfa dros dro OWRI, a lansiwyd ar ddiwedd 2019. Cliciwch yma i weld.
  2. Adroddiad polisi gan Gorrara, Jenkins a Mosley: ‘Modern Languages and Mentoring:  Supporting Digital Learning across Language Communities in Wales’. Cyhoeddwyd hwn ar wefan MEITS ac fe’i cynigiwyd i Lywodraeth Cymru. Cliciwch yma i weld.
  3. Papur polisi gan Gorrara, Jenkins a Mosley: ‘Modern languages and mentoring: Lessons from digital learning in Wales’, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Languages, Society and Policy. Cliciwch yma i weld.
  4. Gweithdy ar gyfer rhanddeiliaid ynglŷn â deilliannau cylch cyntaf Digi-Ieithoedd ym mis Mai 2018 gyda Llywodraeth Cymru a’r Adran Addysg (Lloegr) yn bresennol.  Arweiniodd hyn at drafodaethau ynghylch sut y gallai’r Adran Addysg geisio ariannu prosiect tebyg yn Lloegr i gefnogi eu huchelgais i gael 75% o fyfyrwyr yn astudio ITM ar gyfer TGAU erbyn 2022 a 90% erbyn 2025. Yn ddiweddarach, enillodd Mentora ITM gontract gwerth £100,000 i dreialu’r cynllun Language Horizons ym mis Tachwedd 2018, cyn ehangu’r rhaglen yn 2019-2020. Cliciwch yma i weld.

 

Dilynwch @2210Lucy ar ei chyfrif Twitter.


Sbrint Ysgrifennu Ieithoedd Digidol

admin

Awdures: Lucy Jenkins
Cyhoeddwyd: 13eg Awst 2019.

Crynodeb o’r ymchwil: Mae’r sbrint ysgrifennu tiwtorial Ieithoedd Modern Digidol yn ddigwyddiad ffisegol a rhithwir sydd wedi’i gynllunio i greu amrywiaeth o adnoddau addysgol agored sy’n dangos y defnydd beirniadol a chymhwysol o offer a dulliau digidol ar gyfer athrawon, dysgwyr ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn diwylliannau ac ieithoedd modern. Arweinir y fenter hon gan y llinyn ‘Digital Mediations’ o’r brosiect Language Acts and Worldmaking, sy’n archwilio rhyngweithiadau a thensiynau rhwng diwylliant digidol ac ymchwil Ieithoedd Modern (IM). Cliciwch yma am ragor o wybodaeth

Cyllidwr: Menter Ymchwil Byd Agored yr AHRC Multilingualism: Empowering Individuals,  Transforming Societies (MEITS) – Gorffennaf 2019

Crynodeb o’r deilliannau:

  1. Jenkins, L. 2020. Rhagair. ‘Special Collection Critical Digital Pedagogies in Modern Languages – a Tutorial’. Modern Languages Open. Cliciwch yma i’w weld.

 

Dilynwch @2210Lucy ar ei chyfrif Twitter.


Ieithoedd Corfforol: Darlunio eich Hunan Amlieithog

admin

Awdures: Lucy Jenkins
Cyhoeddwyd: 5ed Rhagfyr 2019

Crynodeb o’r ymchwil: Roedd y digwyddiad yma wedi adeiladu ar waith prosiect Mentora ITM er mwyn archwilio thema’r hunan amlieithog. Roedd yn cynnwys gweithdy ar gyfer disgyblion a oedd yn cynnwys gweithgareddau oedd yn canolbwyntio ar archwilio’r berthynas rhwng hunaniaeth ac iaith.Hefyd, defnyddiwyd dulliau ymchwil creadigol ar gyfer ymchwilio i sut mae disgyblion yn ystyried eu hunain amlieithog. Daeth y digwyddiad i ben gyda thrafodaeth bord gron yn cynnwys athrawon sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect ers dwy flynedd neu fwy er mwyn archwilio’r effaith ehangach y mae’r prosiect wedi’i chael ar gorff a diwylliant yr ysgol.

Cyllidwr: Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol – Mehefin 2019

Crynodeb o’r deilliannau:

  1. Gweithdy gydag Ysgol Uwchradd Willows. Mae canfyddiadau’r gweithdy hwn ynglŷn â sut mae disgyblion yn dychmygu eu hunain fel ieithyddion wedi cael eu bwydo i mewn i erthygl BERA (British Educational Research Association) gan Gorrara, Jenkins, Jepson, a Machin 2020. ‘Multilingual perspectives: preparing for language learning in the new curriculum for Wales’, The Curriculum Journal, rhifyn arbennig, ‘Re-educating the nation: the development of the new curriculum in Wales’ (Ebrill 2020). Cliciwch yma i’w weld.
  2. Gweithdy gydag athrawon o ysgolion uwchradd sydd wedi ymgysylltu â Mentora ITM am ddwy flynedd neu fwy. Defnyddiwyd canlyniadau’r gweithdy hwn fel tystiolaeth ar gyfer y gwerthusiad allanol a gynhaliwyd yn 2019, er mwyn gwerthuso effaith y prosiect ar ddiwylliannau ehangach ysgolion a dulliau o ymdrin ag ieithoedd, pan fydd ysgol wedi cymryd rhan dros gyfnod estynedig o amser.

Dilynwch @2210Lucy ar ei chyfrif Twitter.