Adnoddau Nadolig newydd

Gyda’r Nadolig ar y gorwel, rydym wedi manteisio ar y cyfle i greu adnodd hwyl y gellir ei ddefnyddio gyda dysgwyr cynradd CA2 a dysgwyr uwchradd CA3 er mwyn galluogi iddynt ddysgu am y Nadolig ar draws y byd. Mae’r adnodd yn archwilio ystod eang o ieithoedd a chysyniadau gwahanol, o sut i ddweud Nadolig Llawen yn Hawäii, i archwilio traddodiadau Nadolig Cymreig fel y Fari Lwyd, i fod yn greadigol yn y gegin i greu Bûche de Noël blasus.

Mae’r adnoddau’n cwmpasu ystod eang o wahanol ddiwylliannau ac ieithoedd, ond hefyd yn cynnig cyfleoedd i ehangu dealltwriaeth ieithyddol dysgwyr yn y Gymraeg, Sbaeneg, Ffrangeg neu Almaeneg. Ar gyfer athrawon cynradd nad ydynt yn arbenigwyr ieithoedd rhyngwladol, mae nodiadau manwl a ffeiliau sain wedi’u cynnwys, ac ar gyfer athrawon uwchradd, mae’r adnoddau’n cynnig cyfle i ymchwilio i amrywiaeth o wahanol gysyniadau a strwythurau iaith.

Mae’r adnodd hwn yn rhan o gyfres sy’n cael ei datblygu gan dîm Mentora ITM, gyda’r nod o gefnogi ein cymuned wych o athrawon wrth i ni wreiddio amlieithrwydd yn ein dosbarthiadau iaith.

Cadwch eich llygaid ar agor am ragor o adnoddau’n cael eu lansio dros y misoedd nesaf a fydd yn cynnwys ystod eang o wahanol bethau, gan gynnwys Lego ac Alebrijes – ydyn ni wedi dal eich sylw?!

Dolenni


Dyma... Beth!

Beth yw dy rôl?

Dw i hefyd yn Gydlynydd Prosiect ac Addysg gyda Mentora ITM. Fe wnes i ymuno â’r tîm ym mis Medi 2022 ar ôl bod yn fentor gyda’r prosiect am 2 flynedd a chwblhau profiad gwaith gyda Mentora ITM yn ystod yr haf ar ôl graddio!

Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun!

Ces i fy ngeni a fy magu ym Mryste, yn agos i’r ffin rhwng Lloegr a Chymru. Mae  mam yn dod yn wreiddiol o Gaerdydd, ac er na ches i’r cyfle i ddysgu Cymraeg pan ro’n i’n ifanc, fe wnes i dreulio lot o benwythnosau a gwyliau ysgol yng Nghymru, felly dw i ‘di magu perthynas cryf â Chymru ers tro!

Er nad ydy fy nheulu yn siarad ieithoedd eraill, fe wnes i benderfynu astudio Ffrangeg ac Almaeneg ar gyfer TGAU. Pan ro’n i yn yr ysgol uwchradd, roedd rhaid i bawb astudio iaith ryngwladol ar gyfer TGAU. Dw i’n cofio clywed sawl un yn cwyno bod y dosbarthiadau iaith yn ‘ddiflas’, neu am y ffaith nad oeddent yn gallu astudio unrhyw un o’r ieithoedd oedd yn eu diddori a hefyd fod cynnwys y gwersi yn amherthnasol. Ro’n i bendant yn cytuno gyda’r pwynt olaf ‘ma, oherwydd ro’n i eisiau cysylltu dysgu ieithoedd gyda fy niddordebau fy hun, yn hytrach na gorfod dilyn pynciau penodol a oedd wedi cael ei bennu i mi gan y cwricwlwm. Ro’n i’n ffodus iawn oherwydd roedd fy athro Almaeneg ar y pryd wedi cynllunio gwersi mwy agored a ddiddorol, a oedd yn mynd y tu hwnt i ffiniau’r cwricwlwm- fy hoff dasg oedd gorfod dod o hyd i rysáit Almaeneg, er mwyn ei baratoi a’i fwyta yn ystod ein gwers iaith. Mae Apfelstrudel yn dal i fod yn un o fy hoff brydau hyd heddiw!

Fe wnes i astudio Ffrangeg ar gyfer Lefel-A cyn mynd ymlaen i astudio Ffrangeg a Sbaeneg yn y brifysgol. Dw i nawr yn cychwyn dysgu Almaeneg eto, yn ogystal â gwireddu fy mreuddwyd i ddysgu Cymraeg! Ar wahân i ddysgu ieithoedd eraill yn fy amser rhydd (byddwch chi fel arfer yn fy nal yn dysgu mwy nag un ar y tro!), dw i hefyd yn caru ioga 🧘🏻‍♀️, celf a chrefft 🧶, llyfrau 📚, planhigion 🌱, te a choffi☕️, cathod 🐱a chŵn 🐶 (mae’n amhosib dewis ffefryn!)

Beth yw dy hoff beth di am y prosiect?

Gan fy mod i wedi cael y cyfle i fod yn fentor a hefyd yn aelod o dîm Mentora ITM, dw i wrth fy modd yn gweld yr effaith gadarnhaol mae’r prosiect yn ei gael, nid yn unig ar y nifer o ddysgwyr sy’n dewis astudio Ieithoedd Rhyngwladol ar gyfer TGAU, ond hefyd ar hunan hyder, cymhelliant a brwdfrydedd y dysgwyr dros ieithoedd (i enwi ond ambell reswm!). Mae’r prosiect (a’r mentoriaid gwych sydd wrth wraidd y prosiect) yn helpu i agor llygaid dysgwyr ac ehangu eu gorwelion i’r gwahanol ffyrdd y mae ieithoedd yn ffurfio rhan o’u hunaniaeth a’u bywyd bob dydd, a’r gwahanol ffyrdd y gallent ddysgu ieithoedd (a chael budd aruthrol ohonynt!) efallai nad ydynt erioed wedi ystyried o’r blaen. Mae’n brosiect arbennig iawn!

Dw i’n credu bod pawb yn haeddu’r cyfle i ddysgu iaith yn y ffordd drawsnewidiol, gyffrous ac ysbrydoledig hon, sef nod ac amcan Mentora ITM (a’r Cwricwlwm i Gymru!) – i gynorthwyo dysgwyr i archwilio POB iaith a diwylliant mewn amrywiaeth o ffyrdd sydd wedi’u teilwra i ddiddordebau’r dysgwyr eu hunain. Hefyd, mae’n helpu meithrin sgiliau hanfodol, trosglwyddadwy ein dysgwyr, wrth bersonoli’r daith dysgu iaith mewn ffordd sy’n dod â llawenydd mawr iddynt. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd cyfathrebu a chreu cysylltiadau ag eraill yn hytrach na chanolbwyntio ar ruglder yn unig, a phob dydd ry’n ni’n ddigon ffodus i weld yr effaith hynod gadarnhaol y mae’r prosiect yn ei gael!


Dyma... Siân!

Beth yw dy rôl?

Fi yw Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Mentora ITM, sy’n golygu dw i’n gyfrifol am reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y prosiect yn ogystal â datblygu adnoddau marchnata ochr yn ochr â Becky. Dw i’n cael hyrwyddo’r prosiect a rhannu newyddion am yr holl waith gwych rydyn ni’n eu gwneud a’r bobl arbennig rydyn ni’n ffodus iawn i weithio gyda! Ymunais â’r prosiect ym mis Medi 2022 ar ôl gadael rôl arall o fewn y brifysgol, a cyn hynny r’on i’n newyddiadures i WalesOnline.

Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun!

Ces i fy ngeni a magu yn Abertyleri, yn y Cymoedd, ac fe es i i  ysgol gynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg. Ro’n i bob amser yn teimlo’n eithaf dryslyd ynghylch fy hunaniaeth pan ro’n i’n tyfu i fyny; mae fy nhad yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf o orllewin Cymru, ond ces i fy magu mewn ardal Saesnigaidd, ac felly fe wnes i dyfu fyny yn siarad ‘Wenglish’. Fe wnes i astudio Ffrangeg TGAU a Lefel-A Cymraeg, ond ro’n i wir eisiau astudio Almaeneg a ro’n i’n benderfynol o’i ddysgu rhywsut, felly pan es i i’r brifysgol yn St Andrews fe wnes i gychwyn dysgu Almaeneg ochr yn ochr â fy nghwrs Hanes Modern.

Fe wnes i dreulio lawer o amser yn yr Almaen wrth astudio yn y brifysgol ac yn y pen draw fe wnes i bennu fyny yn gweithio am flwyddyn fel cynorthwyydd Saesneg yn Fienna, Awstria sef un o brofiadau gorau fy mywyd! Yn ogystal â’r diddordeb mawr sydd gen i mewn archwilio ieithoedd a diwylliannau eraill, dw i hefyd yn hoffi treulio fy amser rhydd yn codi pwysau, chwarae gemau fideo, tynnu lluniau gyda chamera, a mwytho unrhyw gathod dw i’n ddigon lwcus i ddod ar eu traws!

Beth yw dy hoff beth di am y prosiect?

Fy hoff beth am y prosiect yw’r ethos rydyn ni’n hybu, sef bod ieithoedd yn perthyn i bawb, eu bod yn rhan o fywyd bob dydd p’un a wyt ti’n ‘rhugl’ ai peidio, ac i gwestiynu’r syniad o ‘rhuglder’ fel nod y dysgwyr yn y lle cyntaf!
Mae clywed y gwahaniaeth mae’r prosiect yn ei gwneud i ddysgwyr, athrawon a’n mentoriaid o ran newid agweddau tuag at ieithoedd yn rhoi boddhad mawr i ni ac yn gwneud yr holl waith caled yn werth chweil.
Hefyd dw i’n meddwl bod ein mentoriaid yn wirioneddol ysbrydoledig, ac mae’n fraint gallu cefnogi nhw i ffynnu fel unigolion ac i’w helpu i ehangu gorwelion dysgwyr ledled Cymru.


Dyma... Lucy!

Beth yw dy rôl?

Dw i ‘di bod yn Gyfarwyddwraig Prosiect Mentora ITM ers 2017 ac wedi mwynhau pob eiliad! Dw i’n gweithio’n agos gyda’r holl dîm a dw i wrth fy modd yn datblygu ffyrdd newydd ac arloesol o gefnogi Ieithoedd Rhyngwladol ledled Cymru.

Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun!

Dw i wastad wedi byw yn Ne Cymru a dw i wrth fy modd yn byw mor agos at y môr ac yn ceisio mynd am dro yno gyda fy nghi bach Ellie mor aml â phosib. Fe es i i ysgol gynradd ac uwchradd cyfrwng Saesneg a ro’n i wir wedi mwynhau ysgol yn tyfu i fyny – dw i wastad wedi bod yn awyddus i ddysgu!

Fe wnes i astudio Gradd BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna gradd Meistr mewn Astudiaethau Ewropeaidd yno hefyd.

Beth yw dy hoff beth di am y prosiect?

Mae Prifysgol Caerdydd yn amlwg wedi cael trafferth cael gwared â fi oherwydd ar ôl cyfnod byr yn gweithio yn y sector elusennol fe ddes i’n ôl i arwain y prosiect yn 2017 a dw i erioed wedi edrych yn ôl! Mae gen i bob amser cwpan o goffi ☕ yn fy llaw (americano du os gweli di’n dda) a mae fy nghi 🐾 bach annwyl wastad yn agos (paid â rholio yn y baw llwynog  plîs Ellie!). Dw i hefyd yn fodryb i dri o arddegwyr (dydy ‘dw i ddim yn gwybod’ ddim yn bryd o fwyd, ceisiwch eto!). Dw i’n eiriolwraig angerddol dros amlieithrwydd ac yn credu bod pob plentyn yn haeddu’r cyfle i fwynhau’r manteision mae dysgu iaith yn gallu cynnig. Dw i hefyd yn eiriolwraig dros gynhwysiant a dw i’n credu’n gryf y dylai ymarfer cynhwysol fod wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb, ym mhobman, yn teimlo bod croeso iddynt yn ein cymuned.

Mae hynny’n cwestiwn anodd iawn i’w ateb! Os oes rhaid i mi ddewis un peth, byddwn i’n dweud y ffaith dw i’n gallu gweithio gyda thîm arbennig o bobl bob dydd! Pobl sydd wrth wraidd y prosiect yma a dyna pam mae fe mor wych – y tîm sy’n gweithio’n ddiflino i roi profiadau ffantastig i bawb, y myfyrwyr prifysgol sy’n newid meddyliau a safbwyntiau gyda’u sesiynau ysbrydoledig ac yn olaf, ond nid lleiaf, yr athrawon sydd wedi bod mor barod i groesawu’r syniad o fentora. Mae pob un person sy’n gweithio â ni yn dod â chymaint o lawenydd i fi (ac efallai gormod o e-byst…)


Dyma... Becky!

Beth yw dy rôl?

Dw i’n Rheolwraig Addysg a Chyfieithu am Mentora ITM a dw i wedi bod yn gweithio gyda Lucy a’r tîm ers dros 3 mlynedd erbyn hyn!

Fi sy’n gyfrifol am y mentora sy’n digwydd ar draws rhanbarth y GCA, yn ogystal â datblygu adnoddau dysgu amlieithog ac amlddiwylliannol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Dw i hefyd yn goruchwylio gweithgareddau marchnata, cyfathrebu a chyfieithu’r prosiect sy’n golygu fy mod yn gweithio’n agos iawn gyda fy nghydweithwyr hyfryd Laura a Lowri!

Dw i wir yn mwynhau pa mor amrywiol yw fy swydd o ddydd i ddydd!

Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun!

Fe wnes i gais i astudio Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd ond yn y diwedd fe wnes i benderfynu newid o Ffrangeg i Eidaleg, oherwydd ro’n i wastad wedi eisiau ei ddysgu ar ôl syrthio mewn cariad â’r iaith yn gwylio rhaglen Cymraeg am bêl-droed Eidalaidd gyda fy nhad pan ro’n i’n ifanc!

Yn dilyn hyn, fe wnes i gwblhau diploma ôl-raddedig mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd ym Mhrifysgol Caerfaddon. Cwblheais fy nghwrs TAR mewn ieithoedd yn UWIC (sef Met Caerdydd bellach) ac ar ôl cymhwyso, dechreuais ddysgu Sbaeneg mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg lle arhosais am dros 12 mlynedd cyn gadael i ymuno â’r prosiect yn 2020.

Dw i’n fam falch iawn i ddau fachgen ifanc â phan nad ydw i wrth ochr y cae yn eu cefnogi yn chwarae pêl-droed, dw i wrth fy modd yn gwneud ioga 🧘‍♀️ a choginio 🍝 neu’n cerdded fy nghi hyfryd Pops🐕!

Beth yw dy hoff beth di am y prosiect?

Fy hoff beth am y prosiect yw gweld ein mentoriaid gwych yn ysbrydoli dysgwyr ifanc i feddwl am ieithoedd mewn ffordd wahanol. Mae gan y mentoriaid cyfle i drafod cymaint o bynciau gwahanol gyda’r dysgwyr ac fel arfer maen nhw’n bynciau nad yw athrawon yn cael yr amser i archwilio o fewn gwersi.

Mae’n bwysig sylweddoli’r effaith trawiadol mae’r mentoriaid cyfoed agos ‘ma yn ei chael ar bobl ifanc, maen nhw wir yn ysbrydoledig ac yn codi dyheadau dysgwyr am y dyfodol.


Dyma... Glesni!

Beth yw dy rôl?

Beth yw dy rôl? Glesni ydw i ac rwyf wedi bod yn gweithio gyda Mentora ITM ers mis Medi 2019. Rheolwraig Gweithrediadau’r prosiect ydw i ond cyn hyn roeddwn yn Gydlynydd Prosiect. Rwy’n rheoli popeth i’w wneud ac ysgolion uwchradd a mentoriaid prifysgol ac wrth fy modd yn gweithio gyda nhw ill dau! 🙂 Dyw dim un diwrnod yr un peth – mae pob tro rhywbeth newydd i’w wneud, a dwi wrth fy modd gyda hyn!

Dyweda ychydig wrthym amdanat ti dy hun!

Rwy’n dod o Ogledd Cymru’n wreiddiol, gyda Chymraeg fel iaith gyntaf. Es i i ysgol gynradd ac ysgol uwchradd Gymraeg. Astudiais radd BA Hanes ag Almaeneg, ac wedyn gradd Meistr Hanes Hynafol yma yng Nghaerdydd, ac roeddwn hefyd yn fentor gyda’r prosiect am ddwy flynedd cyn i mi gychwyn gweithio yn fy rôl bresennol. Fy hoff bethau yw: ☕ (lot o goffi),🐶 (pob ci yn y byd) a 📚 (rwy’n berchen ar ormod o lyfrau) a dwi hefyd yn cic focsio yn fy amser sbâr 🥊. Ac wrth gwrs, rwyf wrth fy modd yn dysgu ieithoedd ac o hyd yn ceisio dysgu mwy nag un ar yr un pryd!

Mae ieithoedd wedi siapio fy hunaniaeth mewn ffyrdd na fyswn i erioed wedi meddwl am pan roeddwn i’n ifanc, ac wedi agor drysau i fyd o bosibiliadau. Roedd dewis dysgu Almaeneg am y tro cyntaf yn y brifysgol yn ddewis doeth, sydd wedi arwain at gymaint o brofiadau positif yn ogystal â rhoi hwb i fy hyder ar ôl treulio blwyddyn dramor. I ddeud y gwir, roeddwn i wedi mwynhau fy amser yn gweithio fel Cynorthwyydd Iaith gyda’r British Council yn Duisburg, yr Almaen gymaint, nad oeddwn eisiau dod adref! Ers hynny, dwi wedi cychwyn dysgu Arabeg, Lladin, a Pherseg – dwi wir yn mwynhau dysgu ieithoedd sydd ag wyddor sy’n wahanol i’r hyn rydyn ni’n ei ystyried yn wyddor ‘normal. Mae teulu fy nghariad yn dod o Iran yn wreiddiol hefyd, ac felly dwi wedi pigo fyny sawl gair yma ac acw ac yn ceisio fy ngorau glas i siarad cymaint o’r iaith ag y gallaf.

Beth yw dy hoff beth di am y prosiect?

Fy hoff beth i am y prosiect yw cael gweithio â chymaint o fyfyrwyr ysbrydoledig ledled Cymru. Fedrai’m meddwl am ddim byd gwell na dysgu o’r myfyrwyr rydyn ni’n gweithio gydag a chlywed mwy am eu profiadau nhw’n mentora neu’n rhedeg gweithdai yn yr ysgolion – mae’n codi’r galon!

Rydyn ni’n derbyn cymaint o adborth positif gan y myfyrwyr am eu sesiynau nhw, ac mae’n wych cael clywed hefyd pa mor bositif yw’r profiad yn sgil rhoi hwb i’w hyder nhw, neu wneud iddynt ail feddwl eu llwybr gyrfa.

Mae hefyd yn help fy mod yn gweithio gyda chydweithwyr ffantastig sy’n dod ag egni, creadigrwydd, a syniadau a phrofiadau mor amrywiol i’r prosiect!