Dyma Greta!

Helo! Fy enw i yw Greta (hi), myfyriwr ail flwyddyn yn astudio Almaeneg ac Ieithyddiaeth yn Rhydychen, a dwi’n dod o Gaerdydd yn wreiddiol.

Yn aml, dyw pobl ddim yn sicr beth yn union ma’ Ieithyddiaeth yn golygu. Mae e’n wyddoniaeth, sy’n ffocysu ar sut ma’ ieithoedd yn gweithio. Mae’n cynnwys sut mae sain yn cael ei gynhyrchu a sut mae’n teithio, sut mae iaith yn gweithio yn yr ymennydd (cynhyrchu a phrosesu), strwythurau gramadegol gwahanol ieithoedd (geiriau a brawddegau) a llawer mwy! Dwi’n dwlu arno fe achos mae’n rhoi’r cyfle i astudio ieithoedd o *safbwynt gwyddonol, sydd mor wahanol i sut mae pobl yn aml yn meddwl am ieithoedd, h.y. o safbwynt *dynoliaeth.

Nôl yn yr ysgol, ro’n i wastad yn gweld astudio ieithoedd o fewn stafell ddosbarth, gyda rhestrau o eiriau ar bapur neu ar sgrin, yn eitha diflas i fod yn onest. Dwi’n meddwl bod hi’n drueni mawr fod rhywbeth mor gyffrous â dysgu iaith a diwylliant newydd yn gallu cael ei gyfyngu i restrau ar bapur! Mae’n gallu bod cymaint mwy cyffrous na hyn, a dwi’n gwybod bod cymaint o wahaniaeth agwedd tuag at ieithoedd yn gallu dibynnu ar yr athro, ac ar ddulliau* dysgu’r athro. Nes i weld ochr arall at ieithoedd wrth ddechrau dysgu tipyn bach o Almaeneg yn *annibynnol. Ro’n i’n mynd i fynd draw i’r Almaen yn yr haf, i gwrdd â fy nghefndryd am y tro cyntaf, ac felly nes i benderfynu dysgu tipyn bach o Almaeneg er mwyn gallu siarad gyda nhw trwy gyfrwng eu mamiaith*.

Dechreuodd fy nhaith ar fy mhenblwydd, pan ges i ddisg dysgu Almaeneg (ap Rocket Languages). Am 20 munud bob bore wrth i fi baratoi i fynd i’r ysgol, yn lle gwrando ar gerddoriaeth, nes i wrando ar y ‘gwersi’ ar yr app. Nes i ddysgu sut mae cael sgyrsiau syml, realistig, defnyddiol, ac roedd e’n gymaint mwy naturiol i ddysgu trwy wrando a siarad yn lle darllen ac ysgrifennu. Ro’n i’n gwrando weithiau ar y bws ac wrth gerdded- rhaid bo fi di edrych bach yn od yn siarad yn uchel o fy hun yn dweud pethau fel ‘Können Sie mir ein Restaurant in der Nähe empfehlen?’ (Gallech chi awgrymu bwyty cyfagos i mi?)! Roedd e’n gymaint o hwyl dysgu yn y ffordd ryngweithiol* ac ysgafn yma, a nath e wir olygu fy mod i wedi dysgu’n gyflym. Rwy’n argymell* hwn yn fawr, wedi’r cyfan, ffurf lafar yw iaith naturiol. Roedd fy nghefndryd yn dwlu fy mod i wedi gwneud ymdrech, a ro’n ni gyd yn chwerthin wrth wrando ar rhai o’r gwersi doniol gyda’n gilydd. Y ffefryn oedd y wers gyda’r teitl ‘die Verlobung’ (y dyweddiad*)…

Swn i byth wedi disgwyl fy mod i nawr yn astudio Almaeneg yn y brifysgol, ond wnaeth fy nhaith dysgu ieithoedd byth ddod i ben. Roedd gallu siarad gyda fy nheulu trwy gyfrwng yr Almaeneg mor gyffrous, a hyd yn oed gallu archebu Strudel* mewn caffi yn fuddugoliaeth bach hefyd!

Nes i fwynhau dysgu Almaeneg gymaint, fy mod i wedi sylweddoli bod diddordeb gena i ddim dim ond yn yr iaith a diwylliant penodol yma, ond hefyd mewn sut mae iaith fel cysyniad ehangach yn gweithio. Dyma sut ddechreuodd fy niddordeb yn ieithyddiaeth. Dyw e ddim yn ffocysu ar unrhyw un iaith benodol, ond ieithoedd ar y cyfan. Wrth gwrs dyw hwn ddim yn rhywbeth sy’n cael ei gynnig yn yr ysgol, felly roedd rhaid i mi edrych mewn iddo fe cyn dechre fe yn y brifysgol. Dwi’n cofio rho’n i ddim cweit yn deall sut fydd e’n gweithio- sut mae modd astudio pob iaith yn y byd ar unwaith? Y peth anhygoel dwi wedi dysgu ers hyn yw bod ieithoedd dynol i gyd yn hynod o debyg.

Roedd hwn yn ffaith annisgwyl iawn i mi- dwi’n cofio wastad clywed sut mae ieithoedd, a diwylliant, yn wahanol ac amrywiol ar draws y byd. Ond y gwir yw bod llawer mwy yn gyffredin gan holl ieithoedd a diwylliannau’r byd na beth sy’n wahanol. Yn nhermau sain, dim ond hyn a hyn o seiniau posibl mae’r geg yn gallu cynhyrchu, ac maen nhw’n cael eu cynhyrchu’r un ffordd o amgylch y byd. Mae hyd yn oed strwythurau gramadegol yn dilyn rheolau penodol, wrth fod yn hierarchaidd*. Wrth deithio ar draws y byd, rydym ni’n aml yn dod ar draws arferion diwylliant* sydd ddim yn wahanol yn sylfaenol i’n rhai ni; cerddoriaeth, perfformiad, straeon, cerddi, coginio a bwyd, dathliadau cariad, adrodd hanes a llawer mwy. Er bod yr arferion penodol yn amrywio, mae’r cysyniadau sylfaenol yn debyg iawn. Mae cael hunaniaeth a diwylliant cyfoethog yn beth dynol, sy’n perthyn i ni gyd. I mi, mae’n hynod gyffrous i ddysgu mwy o ieithoedd wrth wneud cysylltiadau a chydnabod y tebygrwydd rhyngddynt. Mae’r modd i wneud cysylltiadau rhwng bywydau sy’n ymddangos, ar y cychwyn, i fod mor wahanol i’n rhai ni, ar ochr arall y byd, yn beth hollol anhygoel!

Dyma lun o daith i Siapan, pan nes i allu profi diwylliant newydd a dod i nabod ffrindiau oes.

Mae dysgu am ieithoedd wedi trawsnewid y ffordd dwi’n gweld y byd o’m cwmpas, a’r ffordd dwi’n meddwl; dyw e bendant ddim yn rhywbeth sydd wedi’i gyfyngu i ystafell ddosbarth neu i draethawd. Mae wedi golygu fy mod i’n gallu ehangu fy meddwl i ddeall gwahanol strwythurau a chysyniadau, diwylliannau a safbwyntiau. Mae’n daith barhaus, gan fod wastad mwy i’w ddysgu, am Almaeneg, am ieithoedd eraill dwi’n dysgu fel Japaneg a Groeg Hynafol, hyd yn oed am fy mamiaith, y Gymraeg! Dyma lun o daith i Siapan, pan nes i allu profi diwylliant newydd a dod i nabod ffrindiau oes. Taith gyffrous a lliwgar yw dysgu iaith (sydd weithia’n daith lythrennol), sydd wedi agor nid yn unig y ffordd dwi’n meddwl, ond hefyd drysau i fy nyfodol.

Dwi wedi blino o’r cysyniad rhwystredig bod iaith dim ond yn arwain at swydd fel athro neu fel cyfieithydd. Er bod y rhain yn yrfaoedd gwych i’w cael, mae’n hollol anghywir mai dyma’r unig yrfaoedd sy’n dilyn astudiaeth o ieithoedd- mae pob math o gyfleoedd eang ac amrywiol i’w cael. Mae ieithoedd yn ganolog ac yn berthnasol i wleidyddiaeth, busnes, iechyd, technoleg, y gyfraith, athroniaeth, newid hinsawdd a llawer mwy. Yn y dyfodol, dwi’n edrych ymlaen at weithio ar ymchwil ieithyddol yn natblygiad AI. Mae hwn yn faes enfawr sy’n tyfu, ac mae iaith yn chwarae rôl fawr ynddi. Y rheswm dros yr holl amrywiaeth eang yma o beth sy’n bosibl gwneud gydag ieithoedd yw oherwydd bod ieithoedd yn cwmpasu popeth sy’n ein gwneud ni’n ddynol; ein ffordd o feddwl a chyfathrebu, a’n hunaniaeth. Mae dysgu am hyn yn daith na fydd byth yn dod i ben!

  • safbwynt – y ffordd mae person yn edrych ar sefyllfa
  • dynoliaeth – dysgu am ddiwylliant dynol fel llenyddiaeth, hanes, celf, cerddoriaeth ac athroniaeth
  • dull – y ffordd o wneud rhywbeth
  • annibynnol – ar fy mhen fy hun
  • mamiaith – yr iaith rydych chi’n tyfu i fyny yn ei siarad o blentyndod
  • ryngweithiol – cyfathrebu rhwng pobl neu lif gwybodaeth rhwng dyfais a pherson
  • argymell – awgrymu
  • dyweddiad – cytundeb i briodi
  • Strudel – pwdin wedi’i wneud o grwst tenau wedi’i lenwi â ffrwythau
  • hierarchaidd – pobl/pethau wedi’u trefnu mewn trefn yn seiliedig ar eu pwysigrwydd
  • arferion diwylliant – ymddygiadau neu werthoedd a rennir o fewn cymuned


Dyma Non!

About me

Helo, Non ydw i, shwmae!

Non ydw i, dwi’n fyfyrwraig 30 oed o Gaerdydd. Pan orffennais fy ngradd israddedig mewn Seicoleg Arbrofol flynyddoedd maith yn ôl, ro’n i’n eithaf sicr fy mod i wedi cael digon ar astudio, er ro’n i dal i fod yn chwilfrydig ac yn awyddus i ddysgu pethau newydd. Yn ffodus, nid dyna oedd diwedd y siwrne dysgu, ac ers hynny dw i wedi ennill gradd meistr mewn Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol, Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu ar y Pryd, a sawl *tystysgrif datblygiad proffesiynol arall! Mae pob un o’r cyrsiau dw i wedi’u hastudio wedi *cyfoethogi fy mywyd, ac dw i wedi datblygu fy sgiliau, gwybodaeth, profiad a hyder ar hyd y daith. Dw i hefyd wedi gallu manteisio ar gyfleoedd efallai na fyddwn i wedi’u cael fel arall. Mae hyn yn dangos fod hi’n peth da i fod yn anghywir weithiau!

Ar hyn o bryd, dw i’n astudio fy ngradd PhD sy’n ymchwilio i’r ffyrdd y mae *cyfieithwyr ar y pryd yn y llysoedd yn gwneud newidiadau wrth *gyfieithu ar y pryd rhwng dwy iaith, a sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar farn y *rheithgor am y diffynnydd*. Prin yw’n bosib cyfieithu gair wrth air mewn dwy iaith wahanol! Hefyd, mae cyfieithwyr ar y pryd yn gweithio yn y fan a’r lle, gan siarad ar goedd, heb ffordd hawdd o ‘olygu’r’ cyfieithiad, felly mae newidiadau’n gyffredin iawn! Dw i’n meddwl bod y newidiadau sy’n digwydd wrth gyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn hynod o ddiddorol, yn o gystal â’r perthynas rhwng iaith, diwylliant, pŵer, a *natur ryngbersonol y cyfieithydd ar y pryd, sy’n aml yn cael eu hanwybyddu. Dw i wir yn  gobeithio y bydd fy ymchwil bresennol yn cael effaith byd go iawn ac yn helpu pobl i ddeall y ffordd orau i gefnogi cyfieithwyr ar y pryd sy’n gweithio yn y llys.

Yn ogystal â fod yn fyfyrwraig, dw i hefyd yn fam i ddau o blant arbennig, ac yn wraig i ŵr gwych. Dw i’n canu mewn band ac mae gen i fusnes bach yn gwerthu cardiau cyfarch gyda lluniau o foch a chŵn arnyn nhw!  Dw i hefyd yn nofwraig ac yn rhedwraig frwd (neu obsesiynol meddai rhai!) ac yn mwynhau cystadlu mewn rasys, yn enwedig rasys 10km, sef fy hoff bellter. Dw i hyd yn oed yn rhedeg mewn gwisg ffansi weithiau! Moch yw fy hoff anifeiliaid, ac un ffaith ddifyr sy’n cysylltu dau o fy hoff bethau – rhedeg a moch – yw bod moch yn gallu rhedeg milltir mewn 6 munud (felly mae rhoi enw o fod yn ddiog i fochyn yn hollol annheg!). Ar ddiwrnod da iawn, iawn, gyda thrac fflat, tywydd teg, a digon o gwsg y noson cynt, galla i redeg cystal â’r mochyn hefyd!

Ieithoedd a fi: Cymraeg

Dysgais Gymraeg ochr yn ochr â Saesneg gartref, ond wnes i ddim wir gwerthfawrogi’r ffaith ro’n i’n *ddwyieithog nes i fi symud i ffwrdd i’r brifysgol. Fe es i i ysgol gynradd ac uwchradd Gymraeg, lle ro’n i’n haelod o’r Urdd, ac yn mwynhau mynd ar deithiau preswyl i Lan-llyn a Llangrannog, a chystadlu mewn Eisteddfodau. Dysgon ni ddawnsio gwerin mewn gwersi addysg gorfforol yn yr ysgol gynradd, a ro’n i’n hoff iawn o dwmpath dawns.

Dysgon ni am y Mabinogi; a chwedlau a thraddodiadau Cymru fel y Fari Lwyd. Ro’n ni hefyd wedi dysgu llawer am hanes Cymru, a sut cafodd ein hiaith genedlaethol ei thrin fel *niwsans a rhywbeth y dylid cael gwared arni. Ro’n i wedi synnu wrth ddysgu am hanes y ‘Welsh Not’, a phobl yn newid cyfenwau Cymraeg, fel ‘ap Rhys’ i ‘Price’ er mwyn creu fersiynau Saesneg o’u cyfenwau oedd yn fwy ‘derbyniol’. Mae’n bosibl mai’r profiadau cynnar hyn a daniodd fy niddordeb fel oedolyn yn y berthynas rhwng diwylliant, iaith a phŵer.

Doedd symud o Gaerdydd i Fryste i fynd i’r brifysgol ddim yn sioc ddiwylliannol enfawr, ond fe agorodd fy llygaid i rai pethau ro’n i wedi’u cymryd yn ganiataol, fel arwyddion dwyieithog a phresgripsiwn meddygol am ddim! Roedd gen i grŵp o ffrindiau rhyngwladol a *rhyngddiwylliannol iawn, ond sylwais i y byddai rhai pobl yn dweud pethau negyddol am Gymru a’r Gymraeg, ac ro’n i’n siŵr na fydden nhw’n dweud yr un peth am ieithoedd eraill. Roedd hyn yn fy ngwylltio. Rwy’n credu i fi brofi’r *cliché ‘na o beidio gwerthfawrogi’r hyn sydd gennych chi nes ei fod wedi diflannu – pan fyddwn i gartref byddwn i’n gallu siarad Cymraeg neu Saesneg, ac roeddwn i’n gweld eisiau sgyrsiau Cymraeg.

Sylwais hefyd ar fwy o ragfarn* wrth-Gymraeg yn fy hen weithle, gyda cydweithwyr yn dweud bod cyfieithu dogfennau i’r Gymraeg yn ‘wastraff amser, gan fod pawb yn deall Saesneg felly dylai’r cyfan fod yn Saesneg’. Wrth gwrs, mae hyn yn anwybyddu’r bobl niferus sy’n siarad Cymraeg gartref, yn y gwaith, ac yn eu cylchoedd cymdeithasol. Heb sôn am unrhyw un sydd, yn syml, yn well ganddyn nhw ddarllen dogfen yn Gymraeg yn lle yn Saesneg! Gwnaeth wynebu agweddau gwrth-Gymraeg wneud i mi deimlo’n agosach ac yn fwy amddiffynnol o fy hunaniaeth fel siaradwr Cymraeg. Weithiau mae angen rhywbeth i wrthryfela* yn ei erbyn mewn bywyd!

Yn fy ngweithleoedd cyntaf ar ôl y brifysgol, byddai pobl yn aml yn gofyn i fi gyfieithu pethau syml, a buan y sylweddolais i fy mod i wir yn mwynhau gwneud. Ro’n i’n ei fwynhau cymaint nes mai swydd gyfieithu oedd fy swydd ddiwethaf. Yna, cefais i gynnig *cyfle wedi’i ariannu i astudio gradd meistr, ac yn ystod y radd honno *rhoddais gynnig ar gyfieithu ar y pryd, ac ro’n i wrth fy modd! Roedd hi’n anodd gweithio’n llawn-amser ac astudio am fy ngradd meistr yn rhan-amser, ond roedd yn werth chweil – rwy’n credu mai’r rhan orau oedd dod â fy mab, oedd yn chwe wythnos oed ar y pryd, i seminar gyda fi!

Mae fy mab a fy merch yn mynd i ysgolion Cymraeg, ac rwy’n falch iawn y byddan nhw hefyd yn tyfu i fyny yn ddwyieithog. Y tu allan i’r ysgol maen nhw hefyd yn cael eu *trochi yn niwylliant Cymru; rydyn ni’n darllen llyfrau Cymraeg a Saesneg gartref, yn gwylio Cyw ar y teledu, ac yn mwynhau mynd i Tafwyl ac i’r Egin. Mae fy ngŵr yn dod o Newcastle, a dim ond Saesneg roedd e’n ei siarad cyn iddo gwrdd â fi, ond mae e bellach yn mwynhau gwylio Pobol y Cwm a Rownd a Rownd gyda’r is-deitlau, ac mae’n gwybod rhai geiriau Cymraeg pwysig fel cwrw!

Ieithoedd a fi: TGAU Ffrangeg

Dewisais astudio Ffrangeg fel TGAU, er gwaetha’r holl jôcs am fy enw… roedd e’n ddoniol y tro cyntaf i rywun grybwyll y peth, wir! Mwynheais ddysgu iaith newydd, ac ro’n i’n ddigon ffodus o gael athro creadigol iawn a oedd yn ein hannog i ganu caneuon i’n helpu i ddysgu gwahanol bethau fel y wyddor.

Un ffordd greadigol a ddefnyddiais i ddysgu Ffrangeg oedd gwylio gemau Cynghrair y Pencampwyr ar sianeli teledu Ffrainc er mwyn codi geiriau o’r sylwebaeth! Roedd yn ffordd dda o ddod i arfer â gwahanol acenion, ac roedd yn hawdd ei ddilyn oherwydd ro’n i’n gallu gweld beth oedd yn digwydd ar yr un pryd. Ro’n i hefyd yn arfer dweud wrth fy mam bod gwylio pêl-droed yn ‘adolygu’! Er fy mod i’n jocian am y peth, roedd hyn yn beth defnyddiol a hwyliog i’w wneud ochr yn ochr â dulliau adolygu mwy traddodiadol.

Ystyriais astudio Ffrangeg ar gyfer lefel Safon Uwch, a weithiau rydw i’n difaru na wnes i, gan fy mod i wedi anghofio llawer o’r hyn ddysgais i ar gyfer lefel TGAU. Serch hynny, dewisais astudio pum pwnc Safon Uwch bryd hynny, a doedd dim lle i un arall!

Ro’n i’n meddwl fy mod i wedi anghofio fy Ffrangeg i gyd, ond ces i fy synnu ar yr ochr orau pan es i i’r brifysgol ac roedd un o fy nghyd-letywyr yn dod o Foroco. Arabeg oedd ei iaith gyntaf, Ffrangeg oedd ei ail iaith, a Saesneg oedd ei drydedd iaith, ac er roedd e’n hapus i siarad Saesneg, roedd e’n blino yn ei siarad drwy’r dydd. Roedd e’n arfer dod â ffrindiau oedd yn siarad Ffrangeg draw i’n tŷ, ac ro’n i bron iawn yn gallu deall popeth roedden nhw’n ei ddweud, ac ro’n nhw’n gallu deall llawer mwy o Saesneg nag oedden nhw’n gallu ei siarad. Roedd hyn yn golygu oherwydd y ddealltwriaeth ro’n i wedi’i ddatblygu wrth astudio TGAU Ffrangeg, ac er fy mod i wedi colli fy ngallu i siarad yn gyfan gwbl bron (neu’r hyder i siarad efallai), roedd modd i fi dreulio amser gyda’r grŵp yma o fyfyrwyr o Ffrainc a Gogledd Affrica yn ein cegin, a mwynhau cwmni ein gilydd er gwaetha’r hyn a allai gael ei ystyried yn *rwystr iaith.

Fy mywyd fel myfyriwr & fi yn y dyfodol

Mae fy mywyd fel myfyrwraig ychydig yn wahanol yn yr ystyr fy mod i’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ond yn dysgu o bell, gan fy mod i’n byw yng Nghaerdydd gyda fy nheulu. Yn gyffredinol, dw i’n gweithio gartref, ac mae’r rhan fwyaf o fy nysgu yn *anghydamserol, sy’n golygu y galla i drefnu fy oriau fy hun o gwmpas fy oriau ysgol, swydd fy ngŵr, a fy anghenion fy hun i redeg a nofio mor aml â phosibl. Mae hyn yn *fraint enfawr, ond ar yr un pryd mae’n rhywbeth y dylid ei drin â llawer o ofal; mae’n cymryd llawer o *ddisgyblaeth i weithio pan allwch wneud eich gwaith ar unrhyw adeg. Hefyd, mae gweithio o gartref yn golygu bod angen i chi gael ffiniau clir er mwyn osgoi meddwl am waith bob amser o’r dydd.

Ar ôl i fi orffen fy ngradd PhD a chymryd y teitl Dr Non, dw i’n gobeithio dod o hyd i swydd o fewn maes ymchwil; yn ddelfrydol fel aelod academaidd o staff mewn brifysgol. Hoffwn hefyd gadw moch fel anifeiliaid anwes!


Cerdd Iaith y British Council – Iaith Cerddoriaeth

Dyma’r ail mewn cyfres o 3 blog am prosiect Cerdd Iaith! Mae’n bwysig nodi bod y British Council yn awyddus iawn bod pobl yn dysgu ieithoedd rhyngwladol. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ieithoedd wrth feithrin cyfeillgarwch ac empathi rhwng diwylliannau ac yn credu bod datblygu gallu pobl ifanc i siarad a deall ieithoedd eraill yn hollbwysig i gyflawni hynny. Gwyddom hefyd bod cynnydd mewn ieithoedd rhyngwladol yn gwella ymgysylltiad ac ymddiriedaeth ac yn arwain at gynnydd mewn masnach rhwng, ac o fewn, cymdeithasau.

Ac felly, gyda chyflwyniad y cwricwlwm newydd yng Nghymru, sy’n ceisio meithrin chwilfrydedd a brwdfrydedd ymysg pobl ifanc, ein bwriad ni yw gosod seiliau cadarn i ennyn diddordeb gydol oes mewn ieithoedd Cymru a’r byd. Felly, credwn mai nawr yw’r amser delfrydol i greu gweithgareddau Cerdd Iaith newydd a’u cyflwyno i gymaint o ysgolion yng Nghymru â phosibl.

Bydd nifer ohonoch sy’n darllen y blog yma’n gyfarwydd â phedwar sgil sylfaenol dysgu iaith sef darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando! Mae Cerdd Iaith o’r farn y daw cymhelliant dysgwr i ddarllen dim ond ar ôl iddo feistroli sgiliau darllen a siarad. Mae Cerdd Iaith yn targedu dysgwyr ysgolion cynradd ym mlynyddoedd 5 a 6, fel bod dysgwyr yn mynd i’r ysgol uwchradd gydag agwedd gadarnhaol a hyderus at ddysgu iaith newydd.

Mae’r British Council yn cynnig dull newydd ac archwaeth am ddysgu ieithoedd rhyngwladol. Mae’n cefnogi amcanion y cwricwlwm newydd ac yn llunio adnoddau sydd wedi’u selio ar greadigrwydd. Nod Cerdd Iaith yw annog dysgwyr i fod yn holwyr annibynnol, feddylwyr creadigol a dysgwyr myfyriol, yn ogystal â’u helpu i ddatblygu sgiliau i fod yn gyfranogwyr ac yn weithwyr tîm effeithiol – Ydyn ni wedi dal eich sylw eto?!

Cafodd Comisiwn Durham ar Greadigrwydd ac Addysg ei gynnull i archwilio sut y gall ein system addysg a’n system ddysgu ehangach gynyddu cyfleodd dysgwyr i fod yn greadigol.. Dechreuodd y comisiwn drwy ofyn sut mae creadigrwydd yn cael ei brofi a’i werthfawrogi yn y byd:

“Mae gan greadigrwydd, wrth gwrs, lawer o enwau. Gellir ei alw’n reddf, yn ymholiad neu’n fynegiant. Ym maes busnes, gellir ei ddisgrifio fel arloesedd, dyfeisgarwch neu entrepreneuriaeth. Ym mhob agwedd ar fywyd, o’r gwyddorau a’r dyniaethau i’r celfyddydau, ystyrir creadigrwydd fel y gallu i feddwl yn ochrol a chynnig atebion creadigol i broblemau, i weithio ar draws disgyblaethau neu i fwynhau chwarae adeiladol’.

Felly, sut mae’r datganiad uchod yn berthnasol i ddysgu ieithoedd yn yr ystafell ddosbarth, ac i Cerdd Iaith yn benodol? Dewch i ni ystyried un enghraifft, mae Cerdd Iaith yn cynnig dysgu Sbaeneg a Chymraeg yng nghyd-destun teithio i Batagonia. Mae gofyn i ddysgwyr feddwl am y bobl Gymreig gyntaf a laniodd ym Mhatagonia ar long y Mimosa. Mae’r athro’n gofyn iddynt ddychmygu sut y bydden nhw wedi teimlo a beth y gallent fod wedi’i weld, o bosibl?  Wedyn maen nhw’n gofyn i’r dysgwyr creu llun llonydd o rywbeth ar y llong.

Mae’r ymarferion yn annog dysgwyr i ddefnyddio geirfa a ddysgwyd mewn ymarfer blaenorol gan archwilio diwylliant a hanes Cymru hefyd. Maen nhw’n siarad ac yn clywed Cymraeg a Sbaeneg, wrth fwynhau eu hunain a defnyddio eu dychymyg. Mae gweithgaredd arall yn gofyn i ddysgwyr gyflwyno eu hunain, un ar y tro, gan ddweud pa bethau bydden nhw wedi rhoi yn eu bagiau. Wedyn, mae gofyn iddyn nhw gofio ac ailadrodd yr holl bethau sydd eisoes wedi’u henwi – yn y drefn gywir – cyn ychwanegu eu heitem nhw i’r rhestr.

Byddai modd ychwanegu gweithred neu ystum at y gair, a chael pawb arall i’w ailadrodd. Gêm gof yw hon gyda chyd-destun ehangach, un sy’n defnyddio iaith mewn senario bywyd go iawn. an fyddwn ni’n gosod rheolau i ddysgwyr, fel y rhai ynglŷn â chwarae gêm, yn aml mae’n haws iddyn nhw ddefnyddio eu dychymyg mewn ffordd greadigoae’r gêm yn gofyn iddyn nhw ddefnyddio geiriau yn y stori maen nhw eisoes wedi’u dysgu. Mae hynny’n gwneud y dasg yn haws ac yn annog lefel ddyfnach o ddysgu.

Bydd fy mlog nesaf yn edrych ar ragor o agweddau ar yr adnodd Cerdd Iaith, felly cadwch lygaid barcud allan am flog nesaf y gyfres.


Dyma... Poppy!

Shw’mae bawb! Cyfarthion gen i Poppy’r ci, yr ail aelod o bartneriaeth gyd-weithio, Mentora ITM. Fi yw chwaer iau ac, rwy’n hoffi meddwl, pertach Ellie – wel mae gen i lai o’r cwrls-pŵdl. Felly rwy’n cael llai o frigau a mwd yn sownd yn fy nghôt o leiaf! Os yw Ellie yn meddwl ei bod hi’n cael yr holl sylw ar gyfer ymgyrch cyfryngau cymdeithasol Mentora ITM, yna gwell iddi feddwl eto… dwi ddim yn cael fy ngalw’n Poppalicious am ddim!

Rwy’n ddigon ffodus i fod yn gyd-weithiwr ac yn ffrind mynwesol i Becky Beckley, a does dim yn well gen i na galwad Teams am 9am – os yw’n dechrau hebddo i, rwy’n dechrau dioddef o FOMO difrifol. Mae nghartref yn un swnllyd, gyda’r bechgyn Beckley yn fy nghadw ar flaenau fy mhawennau, maen nhw’n hoffi chwarae ffrisbi gyda mi a chuddio’r ysgewyllen (yr anrheg Nadolig sy’n dal i roi…). Maen nhw hefyd yn hoff o wneud y conga gyda mi sy’n olygfa ddiddorol… efallai y gwna’i rannu llun i chi ei fwynhau ond fe adawa i i’r disgwyliadau dyfu’n gyntaf!

Pan mae Becky wrthi’n gweithio’n galed gartref wrth y ddesg yn y gegin rydw i naill ai’n hoffi cysgu am ambell awr go dda neu gael hwyl yn yr ardd gefn, mae cymaint o adar a gwiwerod i fynd ar eu holau, roeddwn i hyd yn oed yn ddigon ffodus i ddod o hyd i lygoden fawr farw unwaith… wps efallai y byddai’n well gan Becky i mi beidio â sôn am hynny!

Rwy’n aml yn ansicr a ydw i eisiau bod y tu allan neu’r tu mewn ac rwy’n credu ei bod hi’n deg dweud bod Becky weithiau’n gwylltio dipyn bach, gan fy mod yn aml yn torri ar ei thraws trwy daro fy mhawennau ar y drws i fynd allan, neu ddod yn ôl i mewn.

Ei chas beth yw pan fyddai’n taro fy mhawennau ar y drws i ddod yn ôl i mewn ac yna rhedeg i ffwrdd pan fydd hi’n dod at y drws (ciw chwerthin direidus…). Tybed beth sydd waethaf ganddi, y ffaith fy mod i wedi tarfu arni a bod yn rhaid iddi gerdded draw i agor y drws, neu’r ffaith ei bod wedi gorfod agor y drws i mi ac o ganlyniad bod yr ychydig wres sydd yn y tŷ mewn argyfwng cost byw, wedi dianc drwy’r drws (ciw wyneb euog…).

Beth bynnag, fe wnaeth hyn i gyd i mi feddwl am beth fyddech chi’n galw’r ‘gêm’ hon – y curo ar y drws (y taro gyda’r pawennau – neu hyd yn oed y crafu yn fy achos i ar ddiwrnod drwg) a rhedeg i ffwrdd. Lle cafodd Becky ei magu yn Ne Cymru, roedden nhw’n ei alw’n ‘cherry knocking’, ond rwy’n credu bod ganddo lawer o enwau gwahanol yn dibynnu ar yr ardal lle rydych chi’n byw (oes unrhyw un wedi clywed am Knock, Knock, Ginger/Ding Dong Ditch neu Nicky Nicky Nine Doors?). Mae Becky yn dweud wrtha i fy mod i’n lwcus nad ydw i’n fod dynol oherwydd pe bawn i’n berson o gig a gwaed, byddwn i’n torri’r gyfraith gan fod cherry knocking yn anghyfreithlon o dan gyfraith 1839… o yndi, mae bywyd ci yn fywyd da!

Byddwn wrth fy modd yn clywed eich barn ar hyn felly gadewch i mi wybod beth rydych chi’n galw hyn, ar Twitter/Instagram – ymunwch â mi yno!

Dysgwch rywbeth newydd heddiw, edrychwch ar hyn Knock, Knock, Ginger: The History of the Ding-Dong-Ditch Prank – Professional Moron


Grŵp Ffocws Mentora ITM

Mis diwethaf daeth tîm Mentora ITM â rhai o’n mentoriaid anhygoel at ei gilydd i drafod eu profiadau gyda’r prosiect. Roedd yn fore gwirioneddol ysbrydoledig a mae’r tîm bellach llawn egni, syniadau a brwdfrydedd wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Roedd ein mentoriaid wedi creu argraff fawr arnom (fel maen nhw bob tro!) gan rannu eu syniadau gwych gyda ni. Mae wedi bod yn bleser i weithio gyda grŵp o fentoriaid mor amrywiol eleni, ac felly roedd tîm Mentora ITM yn awyddus iawn i dynnu sylw at yr ystod eang o brofiadau a safbwyntiau’r grŵp gwych yma! Mae ein mentoriaid yn fodelau rôl i ddysgwyr yn ein hysgolion, ond teimlwn yn gryf bod eu profiadau bywyd a’u teithiau personol amrywiol hefyd yn debygol iawn o ysbrydoli’r gymuned ehangach.

Felly, pa ffordd well o ddangos gwerth ein prosiect a’i genhadaeth i godi ymwybyddiaeth ddiwylliannol na dathlu ein mentoriaid a’u straeon amrywiol. Pa bynnag hil, rhyw, rhywioldeb, crefydd, neu gymuned yr ydych yn perthyn iddi – mae Mentora ITM yn eich croesawu a’ch dathlu CHI!

Roedd y Grŵp Ffocws yn gyfle perffaith i’n mentoriaid fyfyrio ar eu taith fentora, yr uchafbwyntiau ac isafbwyntiau. Dyma rhai o’r syniadau allweddol roedd y mentoriaid wedi rhannu â ni:

“Mae’n anhygoel cael cymuned sy’n deall pwysigrwydd a harddwch ieithoedd ac yn lledaenu’r neges hon. Mae fel cynnau cannwyll mewn tywyllwch, goleuo meddyliau…”

– Basma, Prifysgol Abertawe

“Dw i wedi sylweddoli pa mor bwysig yw hi i fod yn fodel rôl i’r dysgwyr sy’n cael eu mentora ac annog brwdfrydedd dros ieithoedd. Bydden i wedi elwa’n aruthrol o hyn.”

– Elliott, Prifysgol Caerdydd

“Gyda’r naratif negyddol presennol ynghylch hawliau traws, mae wir yn hyfryd i fod yn rhan o gymuned sydd nid yn unig yn parchu fy hunaniaeth ond sy’n fy annog i sefyll i fyny dros fy hun, defnyddio fy enw, defnyddio fy rhagenwau, ac i ddathlu pwy ydw i yn y byd gwaith.”

– Jules, Prifysgol Abertawe

“Mae’r mentoriaid yn gwbl gynrychioladol o amrywiaeth. Mae’r ffordd y mae’r sesiynau wedi’u cynllunio yn hybu cyfnewid diwylliannol.”

– Dom, Prifysgol Caerdydd

“Dw i wedi bod yn argymell hyn i fyfyrwyr rhyngwladol eraill. Mae’n brofiad sy’n agoriad llygad, nid dim ond y mentora ei hun a chael gweld sut mae tîm y prosiect yn gweithio, ond hefyd cael gwell dealltwriaeth o sut gallwn ddefnyddio ein straeon personol i hybu cyfathrebu a chysylltiadau rhyngddiwylliannol.”

– Zhen Ni, Prifysgol Caerdydd

Mae’r ffordd y mae’r prosiect yn dod â mentoriaid at ei gilydd i ddathlu pwy ydyn nhw fel unigolion, yn un o’r pethau mwyaf rhyfeddol am Fentora ITM. Rydyn ni’n hynod falch o’n mentoriaid ac maent yn rhoi gobaith i ni wrth iddynt rannu eu straeon gyda dysgwyr ifanc ledled Cymru, gan efallai mai nhw fydd y modelau rôl y mae ein dysgwyr wedi bod yn chwilio amdanynt!

Roedd yn fraint fawr i’r tîm fod yn rhan o’r trafodaethau a’r myfyrio gwych yn ystod y Grŵp Ffocws, ac er efallai bod hyn yn swnio fel cliché, mae gweld ein myfyrwyr yn blodeuo yn eu rôl fel mentoriaid gwir wedi creu argraff fawr arnom. Roedd awydd y mentoriaid i ddangos parch at ei gilydd, i ddysgu oddi wrth ei gilydd, ond hefyd i wneud ei gorau glas i’w gilydd yn wirioneddol ysbrydoledig. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn o waelod ein calonnau, i bob un o’n mentoriaid am ymddiried ynom ni i adlewyrchu eich lleisiau.


Proffil Ysgol: Ysgol Gymunedol Tonyrefail

Lisa Humpries, Ysgol Gymunedol Tonyrefail

Cyfrwng: Saesneg

Lleoliad: Tonyrefail

Ieithoedd: Ffrangeg, Sbaeneg

Wrth edrych ar sut i godi proffil Ieithoedd Rhyngwladol ymhlith ein dysgwyr Blwyddyn 9, roedden ni’n teimlo ei bod yn bwysig canolbwyntio ar yr agweddau allweddol sy’n dylanwadu ar y mwyafrif o ddysgwyr wrth iddyn nhw benderfynu ar eu hopsiynau TGAU; faint maen nhw’n mwynhau eu gwersi, pa mor dda maen nhw’n meddwl eu bod yn perfformio yn y pwnc, a pha mor berthnasol maen nhw’n ystyried y pwnc. O ganlyniad, rydyn ni’n gweithredu’r strategaethau canlynol i wella agweddau dysgwyr yn y meysydd hollbwysig hyn.

Cyfarwyddyd Prosesu Dwys (E.P.I)— Fframwaith Dysgu Conti

Mae cyflwyno Cyfarwyddyd Prosesu Dwys yn yr adran wedi cael effaith sylweddol o ran gwella faint mae blwyddyn 9 yn mwynhau gwersi Ieithoedd rhyngwladol gan fod y dull yma o ddysgu yn helpu dysgwyr i deimlo eu bod yn cyflawni cymaint yn fwy erbyn diwedd bob gwers. Mae’r dull yn cynnig cymaint o weithgareddau gwahanol i ddysgwyr, sy’n arwain at lu o gyfleoedd i ddeall darnau o destun ac yna cynhyrchu darnau o destun eu hun, gyda’r patrymau targed a geirfa amledd uchel. Mae’r gwaith felly’n gosod sylfeini cadarn i ddysgwyr i ddefnyddio’r iaith yn hyderus ac yn gywir ac wir wedi helpu i fagu hyder. Mae’n dysgwyr ni bellach yn gallu gwerthfawrogi’r cynnydd y mae modd iddyn nhw ei wneud yn y pwnc. Yn benodol, mae’r elfen gystadleuol y mae nifer o’r gweithgareddau llafar yn ei chynnig, wedi bod yn llwyddiant mawr. Mae gemau dwyn brawddegau, llongau rhyfel, darllen meddyliau ac ati wedi annog ein dysgwyr i fod yn fwy brwdfrydig wrth gyfrannu ar lafar. Mae hyn wir wedi gwneud gwahaniaeth i ba mor hyderus mae’r dysgwyr yn teimlo wrth siarad yn yr iaith darged.

Cyfleoedd Ffrind Llythyru

Rydyn ni hefyd wedi bod yn ffodus i feithrin cysylltiad cryf ag ysgol ym Mharis dros y pum mlynedd diwethaf ac, o ganlyniad, mae dau o’n dosbarthiadau Blwyddyn 9 ni eleni wedi cael cyfle i gael ffrind llythyru Ffrangeg. Mae dysgwyr yn gweld hyn yn ffordd wych o ddefnyddio’r iaith maen nhw wedi’i dysgu mewn cyd destun bywyd go iawn ac maen nhw wrth eu boddau’n derbyn llythyr personol gan eu ffrindiau newydd. Mae’n dysgwyr ni yn ysgrifennu llythyrau yn yr iaith darged ac mae’r ysgol Ffrangeg yn ysgrifennu at ein dysgwyr ni yn Saesneg, felly mae’n gyfle gwych i ni adolygu holl waith y flwyddyn. Mae’r dysgwyr yn anfon llythyrau yn disgrifio eu teulu, ysgol, hobïau ac ati, felly unwaith eto, mae hyn wedi golygu bod dysgwyr yn gwerthfawrogi pwysigrwydd a phwrpas yr iaith maen nhw wedi’i dysgu ac yn gallu mwynhau creu cysylltiad â phobl na fydden nhw fel arfer yn cael y cyfle i gysylltu â nhw. Mae cymaint o resymau gwych dros ddysgu iaith, ond rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno bod hwn yn bendant yn un ohonyn nhw!

Dysgwyr yn arwain y dysgu

Eleni rydyn ni’n ailgyflwyno rhywbeth sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol, sef prosiect grŵp annibynnol Blwyddyn 9 sy’n rhoi’r cyfle i ddysgwyr gynllunio gwers Ffrangeg eu hunain i ddysgwyr newydd i’r iaith. Mae gofyn iddyn nhw gynllunio gwers 30 munud ar bwnc, megis cyfarchion, rhifau, lliwiau er enghraifft  sy’n cynnwys tasg agoriadol, tri phrif weithgaredd ac yna gweithgaredd sy’n atgyfnerthu dealltwriaeth y dysgwyr. Wedyn, mae dysgwyr yn cyflwyno’u syniadau i weddill y dosbarth ac mae pob athro yn dewis grŵp buddugol a fydd wedyn yn cyflwyno’r wers i’n grwpiau blwyddyn iau ym mlwyddyn 3 a 4. Gan ein bod ni’n ysgol pob oed, rydyn ni’n gallu manteisio ar y cyfle i gyflwyno sesiynau Blas ar Ieithoedd Rhyngwladol i’n grwpiau iau, yn ogystal â’u cyflwyno i fodelau rôl ifanc sy’n hyrwyddo dysgu ieithoedd. Mae pob dosbarth Blwyddyn 9 wedi ymateb yn gadarnhaol i’r prosiect hwn ac mae’n atgyfnerthu pwrpas eu hastudiaethau ieithyddol ymhellach. Yn y pendraw, does dim gwell ffordd o ddysgu nag addysgu ac mae’r prosiect hwn wedi’n helpu ni i hybu hyder dysgwyr Blwyddyn 9.

Mentora ITM

Mae cynllun Mentora ITM Brifysgol Caerdydd hefyd wedi bod yn gymorth enfawr i ni o ran cynyddu’r niferoedd sy’n dewis astudio ieithoedd rhyngwladol ar gyfer TGAU. Mae’r prosiect yn hyfforddi myfyrwyr prifysgol i gyflwyno sesiynau diwylliannol i ddysgwyr,ae’r sesiynau yma wedi helpu ysbrydoli a gwella cymhelliant ein dysgwyr i barhau â’u taith iaith gan eu bod yn tynnu sylw at yr holl fanteision o ddysgu iaith. Mae’r holl ddysgwyr sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hwn wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ddysgu mwy am ieithoedd yn gyffredinol ac mae wedi agor eu llygaid i ddiwylliannau a safbwyntiau eraill yn ogystal ag ehangu eu gorwelion a chodi dyheadau am eu dyfodol eu hunain. Yn ogystal â hynny, mae dysgwyr wir wedi mwynhau dysgu rhagor am bynciau a themâu na fydden nhw fel arfer yn cael y cyfle i drafod yn ein gwersi Ieithoedd Rhyngwladol arferol. Mae’r sesiynau hefyd wedi caniatáu cyfle i ddysgwyr i siarad â model rôl sy’n gallu eu hysbrydoli trwy drafod yr holl gyfleoedd anhygoel sy’n dod o ddysgu iaith. Fel ysgol rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y cynllun arbennig yma gan ei fod yn ein helpu i atgyfnerthu’r negeseuon rydyn ni’n ymgorffori’n ddyddiol yn ein gwersi.

Sgyrsiau Gyrfa

Yn olaf, rydyn ni wedi manteisio eleni ar nifer o’r cyfleoedd mae Prifysgol Caerdydd a Chonsortiwm Canolbarth y De wedi eu cynnig sydd wedi galluogi ein dysgwyr i siarad â phobl y tu allan i’r ysgol ynghylch eu dewisiadau TGAU. Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn i groesawu Prifysgol Caerdydd i’r ysgol i gyflwyno gweithdy ieithoedd yn trafod manteision dysgu ieithoedd. Roedd ein dysgwyr hefyd wedi mwynhau cymryd rhan mewn digwyddiad allgymorth Cymraeg y Cyngor Prydeinig. Roedd y ddau ddigwyddiad hyn wedi helpu’n dysgwyr ni i ddeall pa fathau o yrfaoedd a chyfleoedd sydd ar gael i bobl sydd gyda chymhwyster iaith. Daliodd yr enghreifftiau o fywyd go iawn y ddau gyflwyniad sylw’r dysgwyr ac fe gawson nhw eu hysbrydoli gan lwyddiannau anhygoel pobl a ddechreuodd eu taith iaith yn union fel nhw ym Mlwyddyn 7, pobl gallai’r dysgwyr uniaethu â nhw, sydd bellach wedi teithio’r byd ac wedi mwynhau cymaint o brofiadau bendigedig diolch i’w sgiliau iaith.

Rydyn ni nawr yn awyddus i gyflwyno cynllun Llysgenhadon Iaith (PLAs) i’n dysgwyr mewn partneriaeth âLlwybrau at Ieithoedd Cymru. Ein gobaith yw y bydd y llysgenhadon iaith yn fodelau rôl i’w cyfoedion a fydd yn helpu i godi proffil ein hadran, er mwyn hybu ieithoedd rhyngwladol ymhellach yn ein hysgol ni. 

Mae’r holl strategaethau hyn yn sicrhau bod dysgwyr Ysgol Gymunedol Tonyrefail yn derbyn digon o gyfleoedd i feithrin cariad at ddysgu ieithoedd. Bydd yr ieithoedd maen nhw’n eu deall yn darparu cyfleoedd i gyfoethogi eu bywydau yn y byd ehangach.

Y llynedd, llwyddon ni i gael un o’n grwpiau TGAU mwyaf erioed trwy weithredu dim ond ychydig o’r strategaethau uchod ac felly rydyn ni’n gobeithio y bydd ein niferoedd yn parhau i godi bob blwyddyn yn y dyfodol.


Ieithoedd, dulliau theatr yn yr ystafell ddosbarth a phrosiect Cerdd Iaith!

Rebecca Gould ydw i, Pennaeth Celfyddydau y Cyngor Prydeinig yng Nghymru. Cyn ymuno â’r Cyngor Prydeinig, roeddwn i’n gyfarwyddwr theatr ac yn ystod y cyfnod hwn bûm yn gweithio am ddeng mlynedd i’r Royal Shakespeare Company. Treuliais i  lawer o fy amser yn ystod y cyfnod yma’n ennyn brwdfrydedd athrawon a myfyrwyr ar draws y DU, am iaith ein dramodydd Shakespeare, ei fydoedd niferus a pha mor berthnasol yw ei waith hyd heddiw.

Yn fy swydd, dysgais mai’r ffordd orau i fagu dealltwriaeth a mwynhad myfyrwyr o’r dramâu, ac yn arbennig o’r iaith, oedd i ddefnyddio dulliau dysgu ‘theatr byw’ egnïol. Roedd y gweithdai roeddwn i’n eu cyflwyno’n annog pobl ifanc i siarad ar goedd, waeth beth oedd safon eu Saesneg (Nid Saesneg oedd iaith gyntaf llawer o’r myfyrwyr). Bwriad y gweithdai oedd annog dysgwyr i cnoi cil dros eiriau Shakespeare, ac ystyried sut roedden nhw’n swnio yn eu lleisiau eu hunain, gan roi’r cyfle iddynt ymgorffori’r geiriau. Gofynnais i ddysgwyr ddefnyddio’u dychymyg ac i roi eu hunain yn esgidiau’r cymeriadau roedden nhw’n eu creu. Roedd hyn yn arfer magu rhyw ymdeimlad o berchnogaeth o iaith Shakespeare ymhlith y myfyrwyr, rhywbeth i’w mwynhau a’i rhannu.

A dyma lle mae’r adnodd Cerdd Iaith yn ennill ei blwyf! Mae Cerdd Iaith yn adnodd gan y Cyngor Prydeinig sy’n helpu athrawon cynradd i ddysgu ieithoedd. Mae Cerdd Iaith, sy’n golygu Iaith Gerddoriaeth, yn adnodd addysgu ar-lein rhad ac am ddim sy’n cynnig llwyth o weithgareddau a chaneuon gwreiddiol i’w defnyddio mewn gwersi iaith cynradd. Mae’r Cyngor Prydeinig yng Nghymru hefyd yn cynnal rhaglen hyfforddi athrawon, rhithwir neu wyneb yn wyneb, sy’n esbonio’r adnoddau ar-lein. Mae’r adnodd cyfan wedi’i ddatblygu gan ieithyddion, cerddorion, ac athrawon drama, sydd wedi cydweithio’n agos ag athrawon ysgolion cynradd yng Nghymru. Nod yr adnodd yw meithrin a gwella sgiliau athrawon cynradd i gyflwyno Maes Dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’r Cwricwlwm newydd i Gymru’n llwyddiannus.

Mae Cerdd Iaith eisoes yn helpu dysgwyr ysgol gynradd a’u hathrawon i ddysgu Sbaeneg, Cymraeg ac Almaeneg (a bydd Ffrangeg yn cael ei gyflwyno yn y gwanwyn).

Yn y blog nesaf, bydda i’n esbonio pam, yn fy marn i, roedd hi mor bwysig creu adnodd newydd fel hwn!!


Dyma Ellie y cockapoo!

Coucou bawb, Ellie ydw i, cockapoo 2 oed a Chyd-weithwraig Swyddogol Cyfarwyddwraig Prosiect Mentora ITM, Lucy Jenkins. ‘Morwyn fach annwyl’ yw Lucy ond dw i ddim p’un a yw hi’n hoffi’r teitl ‘na;  bydd hi siŵr o fod yn flin fy mod i wedi dweud hynny, ond dyna ni. Mae gen i bethau pwysicach i’w rhannu â chi sef fy mreuddwyd mawr o fod yn seren cyfryngau cymdeithasol Mentora ITM! Weithiau mae pobl yn anghofio bod cŵn yn siarad ieithoedd hefyd ac mae ishe i bawb wybod, on’d oes?

Ond gad imi gyflwyno fy hun yn gyntaf. Hi/hithau yw fy rhagenwau a dw i’n gi maint canolig gyda gwallt cyrliog gwyn (yn dibynnu ar ba mor fwdlyd oedd y daith gerdded). Dw i bellach yn fy arddegau felly dw i’n hoffi cysgu llawer. Mae fy nheulu weithiau’n fy ngalw i’n ddiog, sy’n annheg dw i’n meddwl. Nag y’n nhw wedi darllen yr ymchwil sy’n dangos bod angen mwy o gwsg ar bobl ifanc yn eu harddegau?! Dw i’n mynd i gynnwys dolen i’r ymchwil ddiddorol hon ar ddiwedd fy mlog ar gyfer unrhyw un sydd ddim yn fy nghredu! Fy hoff bethau i’w gwneud heblaw cysgu wrth gwrs, yw mynd i’r traeth, chwarae gyda fy mhêl tenis ac yfed dŵr o’r pyllau glan môr- dw i’n gwybod bo hynny’n ddrwg i fi, ond mae e mor flasus! Dw i hefyd yn hoff iawn, iawn o fwyd.

Nawr te, dyna ddigon o glebran, be’ dw i wir eisiau trafod â chi heddiw yw’r holl enwau mae fy nheulu’n fy ngalw i – ‘Ellie Weli’, ‘Eleanor Wellington’, ‘y Gwir Anrhydeddus Fonesig Eleanor Wellington’, ‘Ellie Weli Bŵts’ ac ‘Ellie Ddrwg’. Maen nhw’n mynnu defnyddio nhw i gyd, felly dw  i wedi bod yn pendroni pam yn y byd mae angen cymaint o enwau gwahanol arna i….

Pan maen nhw’n hapus gyda fi maen nhw’n fy ngalw i’n Ellie Weli Bŵts, ond pan maen nhw’n grac dw i’n Ellie Ddrwg. Maen nhw’n meddwl bo fi ddim yn deall y gwahaniaeth ond dw i’n deall yn iawn oherwydd maen nhw’n defnyddio llais blin i ddweud ‘Ellie Ddrwg’, ond maen nhw’n dweud ‘Ellie Weli Bŵts’ gyda gwên a llygaid mawr hapus.

Yna, dechreuais i feddwl eu bod nhw’n defnyddio llawer o eiriau gwahanol (a dim ond ambell un dw i ‘di nodi yma) i gyfeirio ata i — ond sut mae’n bosib cael cymaint o enwau gwahanol i gi bach fel fi? Ydych chi erioed wedi meddwl am y nifer o wahanol enwau rydych chi’n galw’ch anifeiliaid anwes? Neu efallai eich ffrindiau? Neu frodyr a chwiorydd? Neu fodrybedd neu gefndryd? Ydych chi erioed wedi ystyried pam ry’ch chi’n ‘neud e, neu beth mae’n awgrymu am eich teimladau tuag at rywbeth/rywun?

Gad inni ddefnyddio’r gair ‘ci’ fel enghraifft: ci, cenau bach, bow-wow, helgi, mwngrel, fflwff…yr un ‘peth’ ac eto i gyd, cymaint o eiriau gwahanol. Mae iaith yn hollbwysig. Pa ddelwedd sy’n dod i’r meddwl pan dw i’n dweud bow-wow? A yw’r ddelwedd yn newid os dw i’n dweud ‘helgi’ yn lle? Pam?

Dyna ni am y tro, ond dw i am i chi feddwl am yr hyn ry’n ni wedi’i drafod heddiw a rhannu’r enwau ry’ch chi’n galw’ch anifeiliaid anwes neu’ch anwyliaid drosodd ar Twitter/Instagram — ymunwch â fi yno!

Hwyl am y tro!

Ellie Weli Bŵts


Hanes ddiddorol y dywediad ‘Don’t get caught red-handed!’

Dw i’n gwybod bod “caught red-handed” yn golygu ‘cael eich dal yn gwneud rhywbeth drwg’, h.y. torri’r gyfraith, ond doedd gen i ddim clem o ble daeth y dywediad yma. Felly, penderfynais i wneud ychydig o ymchwil!

Fel mae’n digwydd, rydyn ni wedi bod yn defnyddio’r dywediad* yma ers canrifoedd! Cafodd “red-handed” ei ddefnyddio gyntaf yn yr Alban ym 1432, yn Neddfau Seneddol* Brenin Iago’r cyntaf. Byddai’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn achosion llys* i ddisgrifio troseddwyr a oedd yn cael eu dal â gwaed ar eu dwylo ar ôl lladd rhywun! Efallai na ddylai tarddiad erchyll* y dywediad hwn fy synnu – wedi’r cyfan, pa reswm arall byddai dwylo rhywun yn goch? (heblaw bod rhywun wedi bod yn torri betys wrth gwrs)

Dw i’n teimlo fy mod i’n treulio hanner fy mywyd ar drenau’n ddiweddar, ond dydy hynny ddim yn beth drwg. Wrth aros am drenau, yn enwedig pan maen nhw’n hwyr, bob hyn a hyn, bydd rhywbeth yn dal fy sylw ac yn rhoi ‘blogsbrydoliaeth’ i mi. Mae heddiw yn un o’r dyddiau hynny.  Rhwng y platfformau mae arwydd Saesneg yn ein rhybuddio ni rhag teithio heb docyn. Mae’r arwydd yma wedi dal fy sylw. Mae’n dweud ‘Don’t get caught red-handed!’.

Fodd bynnag, dim ond ym 1819 y cafodd y dywediad “red-handed” ei fathu*, a hynny gan yr hanesydd* a’r nofelydd o’r Alban, Syr Walter Scott, yn ei lyfr Ivanhoe. Gan fod llawer o bobl yn darllen llyfrau Scott, daeth y dywediad “red-handed” yn gyffredin, ac mae’n debyg mai dyna pam rydyn ni’n dal i’w ddefnyddio heddiw.

Felly, oes unrhyw ddywediadau tebyg mewn ieithoedd eraill? Yn Eidaleg, efallai y byddwch chi’n dweud bod rhywun wedi’i ddal “con le mani nel sacco” – ystyr hynny yw ‘â’i ddwylo yn y bag’. Fel y rydych wedi dyfalu efallai, mae’r dywediad yn cyfeirio at ddwyn rhywbeth, sydd ychydig yn llai difrifol na lladd rhywun!

Efallai eich bod chi wedi clywed dywediad tebyg ymysg Americanwyr, sef cael eich dal “with your hands in the cookie jar”. Fodd bynnag, mae’r fersiwn Americanaidd fel arfer yn cyfeirio at ddwyn oddi wrth eich cyflogwr*.

Mae’r fersiynau Portiwgaleg o “red-handed”, sef “com a boca na botija” a “com a boca na torneira”, sy’n golygu ‘â’ch ceg ar y botel’ neu ‘â’ch ceg wrth y tap’, yn debygol o gyfeirio at gael eich dal yn yfed gwin sydd wedi’i ddwyn. Fodd bynnag, roedd y dywediadau yma fel arfer yn cael eu defnyddio yng nghwmni ffrindiau a’r teulu yn hytrach na chael eu nodi mewn dogfennau swyddogol. Felly, does neb yn gwybod pryd cafodd y dywediadau eu defnyddio gyntaf nac o ble daethon nhw’n wreiddiol.

Nid yw’n syndod nad oeddwn i’n gallu dod o hyd i ddywediadau tebyg mewn ieithoedd eraill sydd â chefndir yr un mor gwaedlyd â’r dywediad Saesneg (neu yn hytrach, Albanaidd) “red-handed”. Tybed a feddyliodd y cwmnïau trenau am hanes y dywediad wrth ddylunio’r arwydd …

Oes gyda chi unrhyw beth i’w ychwanegu? Cysylltwch â mi i roi gwybod sut mae dweud “red-handed” mewn unrhyw ieithoedd eraill rydych chi’n eu siarad!

Geiriau

*dywediad = datganiad sydd yn aml ag ystyr gwahanol i’r ystyr syml mae’r geiriau’n awgrymi

*Deddfau Seneddol = dogfen lle mae cyfreithiau’n cael eu hysgrifennu

*achosion llys = cwympo mas rhwng 2 person/pobl wahanol sy’n cael ei datrys mewn llys

*erchyll = ofnadwy

*bathu = defnydd cyntaf o rywbeth

*hanesydd = person sy’n astudio/ysgrifennu ynghylch digwyddiadau yn y gorffennol

*cyflogwr = y person neu’r sefydliad y mae person yn gweithio iddo


Proffil Ysgol: Ysgol Gyfun Cefn Saeson

Ysgol Gyfun Cefn Saeson, Rebecca Steele

Cyfrwng: Saesneg

Lleoliad: Castell-nedd

Ieithoedd: Ffrangeg, Sbaeneg

Helo bawb,

Onid yw pethau wedi newid! Mae dysgu iaith yn edrych mor wahanol mewn ysgolion y dyddiau hyn o gymharu â phan oeddwn yn yr ysgol. Nid geiriau a gramadeg yn unig sy’n bwysig bellach (er eu bod yn dal yn bwysig iawn!), mae’n ymwneud â dod yn fwy cydnaws â byd rhyfeddol diwylliant ac amlieithrwydd y dyddiau hyn, sy’n gwneud synnwyr perffaith gan ein bod wedi’n cysylltu mor agos â phobl ar draws y byd nawr!

Mae ein hadran yn ymfalchïo mewn hyrwyddo amlieithrwydd yn ein hysgol. Mae llawer o’n dysgwyr yn siarad neu’n dysgu llawer o ieithoedd ac rydym wrth ein bodd yn eu clywed yn siarad am yr ieithoedd y maent yn eu defnyddio. Mae’r Cwricwlwm i Gymru newydd yn caniatáu i ni fanteisio ar hyn a helpu ein dysgwyr i weld iaith fel rhan o’u hunaniaeth. Mae bob amser yn adeg hudolus pan fydd dysgwr yn gallu cysylltu’r iaith sy’n cael ei dysgu ac iaith y mae eisoes yn ei gwybod, trwy gytras er enghraifft. Rwy’n cofio gosod darn o waith clawr (diolch tymor ffliw!) i fy nysgwyr lenwi map dosbarth o sut y gallent ‘gysylltu’ â gwledydd eraill (e.e. a ydynt yn siarad eu hiaith, a oes ganddynt berthnasau oddi yno, a oes ganddynt hoff fwyd oddi yno, ac ati). Pan ddeuthum yn ôl cefais fy synnu o weld faint o ddysgwyr oedd yn gallu cysylltu â gwledydd eraill, doeddwn i ddim yn gallu gweld unrhyw fapiau gwag yn unman! Roedd hyn yn gymaint o syndod i mi ag yr oedd iddyn nhw! Mae ein hadran hefyd yn cynnig clwb iaith Eidaleg allgyrsiol, sy’n boblogaidd iawn gyda dysgwyr, ac maent wedi gallu gweld tebygrwydd rhwng yr ieithoedd a addysgir yma yn ein hysgol ac Eidaleg. Mae athro arall yn ein hysgol ni wedi lansio clwb diwylliant Japaneeg hefyd, sy’n boblogaidd iawn. Mae’r mentrau hyn yn gwneud y dysgwyr mor gyffrous am iaith a diwylliant, cymaint fel fy mod wedi cael dysgwyr yn gofyn i mi gynnal clybiau eraill ar gyfer pob math o ieithoedd (dyma fi’n dod Duolingo!)

Peth arall rydw i’n ei garu am y cwricwlwm newydd yw’r cyfle y mae’n ei roi i ni gamu y tu allan i’n swigod pwnc a meddwl mewn cyd-destun ehangach. Rydw i wedi bod yn paratoi ein llyfryn newydd ar gyfer ein carfan blwyddyn 7 ac yn meddwl am y cyfleoedd y gallwn i eu rhoi i ddatblygu’r pedwar pwrpas. Bydd dysgwyr yn edrych ar gasau pensiliau a lliwiau ac, i ddechrau, roeddwn i’n methu deg â meddwl sut y gallwn i gyflwyno hyn mewn ffordd i ddatblygu dysgwyr moesegol, iach, uchelgeisiol a chreadigol. Yn ffodus, deuthum ar draws elusen wych sy’n gwneud bagiau ysgol ar gyfer dysgwyr mewn angen y tu allan i’r DU. Ers hynny, rydw i wedi bod yn gweithio ar ddefnyddio hwn ar gyfer y pwnc newydd, gan ganiatáu i ddysgwyr ddylunio eu bag ysgol ‘perffaith’, fel y gallwn greu rhestr o eitemau i’w hanfon at yr elusen. Diolch i’r Cwricwlwm i Gymru y gallwn nawr weithio gydag asiantaethau allanol fel yr elusen wych hon ac rydym hefyd yn cael ein hannog i weithio gydag adrannau eraill. Rydw i wedi bod yn ystyried cael y dysgwyr i greu darn o gelf gan ddefnyddio geiriau ar gyfer lliwiau i ddarlunio delwedd – yna gellir edrych ymhellach ar y math yma o gelf yng ngwersi’r adran gelf. Alla i ddim aros i weld beth mae ein hegin Picassos yn ei gynnig!

A dyna’r cyfan gennyf fi!