Beth sydd gan byramidau'r Swistir i'w wneud ag ieithoedd?

Dw i’n eistedd ar y trên o Genefa i Basel, a dw i’n sylwi bo’r cyhoeddiadau bellach yn Almaeneg. Wyddoch chi fod gan y Swistir ddwy *iaith swyddogol – Ffrangeg ac Almaeneg? Mae’r ‘Röstigraben’ (Der Röstigraben yn Almaeneg neu’r Barrière de Rösti yn Ffrangeg) yn llinell *anweledig rhwng y Swistir Ffrangeg a’r Swistir Almaeneg. Ond nid dim ond yr ieithoedd sy’n wahanol, mae’r gwleidyddiaeth a’r traddodiadau’n wahanol hefyd. Wrth i’r trên deithio tuag at Basel, dw i’n edrych ymlaen at dreulio’r diwrnod yn siarad Almaeneg.

Mae’r daith i Basel wedi’i drefnu gan *Rhwydwaith Myfyrwyr Erasmus (ESN) sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr o Brifysgol Genefa. Pris y tocyn trên oedd 15 Ffranc y Swistir (£13.37) sy’n llawer rhatach na thaith drên arferol yn y Swistir! Dw i’n cyrraedd gorsaf Genefa am 6:40yb ar fore Sadwrn oer iawn ac yn gwneud dau ffrind newydd yn syth. Mae Laura sy’n dod o Wlad Belg a Soraya sy’n dod o’r Almaen, yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Genefa, ac rydyn ni’n treulio’r tair awr nesaf yn dod i adnabod ein gilydd ar y trên.

Ar ôl i ni gyrraedd gorsaf Basel, caiff lun grŵp ei dynnu ac yna i ffwrdd a ni i grwydro’r ddinas. Rydyn ni’n mynd syth i’r caffi agosaf am ddiod boeth cyn ymweld â Bider und Tanner, siop lyfrau annibynnol boblogaidd iawn sy’n baradwys i’r sawl sy’n hoffi darllen! Yn y siop mae dewis mawr iawn o lyfrau mewn gwahanol ieithoedd ac wrth ddarllen *broliant nofel Almaeneg, dw i’n clywed un o’r gwerthwyr llyfrau yn sgwrsio â chwsmer gan ddefnyddio Almaeneg y Swistir – mae’n braf clywed ei sain prydferth, er nad ydw i’n ei deall!

Yna, rydyn ni’n mynd i’r hen dref gyda’i golygfeydd trawiadol dros afon y Rhein i fwynhau pizza yn un o’r bwytai. Ar ôl cinio, rydyn ni’n treulio’n hamser ni’n siopa ar y stryd fawr a’r farchnad Nadolig traddodiadol. Yn y farchnad Almaeneg yma, rydyn ni’n dod ar draws  llawer o gytiau pren yn gwerthu pob math o bethau gan gynnwys Glühwein (gwin twym), Bratwurst (selsig wedi’i ffrio), cnau pob blas, dalwyr breuddwydion, gemwaith, a hyd yn oed danteithion i gŵn! Mae hwyl yr ŵyl i’w deimlo ym mhob man, ac mae’n amlwg bod pawb wir yn mwynhau’r rhyddid ar ôl blynyddoedd o gyfyngiadau symud Covid-19.

Un o fy *uchafbwyntiau personol o’r farchnad Nadolig oedd gweld y Weihnachtspyramide enfawr (pyramid Nadolig) gan ei fod yn fy atgoffa o f’annwyl nain Almaeneg. Rhoddodd hi byramid Nadolig bach yn anrheg i fy nhad un Nadolig, ac yn hwyrach fe ddaeth y pyramid i fi. Mae’n addurn Nadolig hyfryd, traddodiadol gyda darnau pren wedi’u llunio’n ofalus ar wahanol lefelau o garwsél. Mae gan bob lefel olygfa wahanol o stori’r geni. Mae’r fflamau o’r canhwyllau arbennig o gwmpas gwaelod y carwsél yn pweru’r *propelorau sy’n gwneud iddo droi.

Rydyn ni’n dychwelyd i’r orsaf gan adael y farchnad Nadolig ar ein hôl, mae diwrnod hir ac oer o grwydro dinas hardd Basel wedi dod i ben, ac mae’n amser dal y trên yn ôl i Genefa.

Geiriau:

*iaith swyddogol – ieithoedd sy’n cael eu cydnabod gan gyfraith gwlad

*anweledig – rhywbeth na allwch ei weld

*Rhwydwaith Myfyrwyr Erasmus – rhwydwaith myfyrwyr sy’n cefnogi teithiau cyfnewid i fyfyrwyr ledled y byd

* Ffranc y Swistir – dyma enw arian cyfred y Swistir

*broliant – y disgrifiad byr ar gen llyfr/DVD

*uchafbwynt – y darn gorau o rywbeth

*propelorau – dyfais gyda llafnau sy’n troelli i helpu symud pethau drwy ddŵr/aer


Beth sydd gan tegell i'w wneud ag ieithoedd?

Buongiorno a tutti!

Felly, dw i’n ôl yn y DU, ac wedi cael cyfle i feddwl nôl am fy nghyfnod yn yr Eidal. Heddiw bydda i’n yn sôn am un foment *gofiadwy iawn: dysgu Eidalwr 23 oed sut i droi tegell ymlaen!

Roeddwn i’n gwybod yn barod nad oedd y tegell yn eitem gyffredin mewn cartrefi Eidalaidd, ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor ryfedd yw’r syniad o degell i Eidalwyr.

Felly, pam ydyn ni’n defnyddio tegell ond dyw Eidalwyr ddim? Penderfynais wneud ychydig o ymchwil i ffeindio allan!

Daw’r gair ‘kettle’ o’r gair Hen Saesneg* ‘cetil’, a ddaeth o’r gair Lladin ‘catillus’, sy’n golygu ‘padell ddofn neu ddysgl ar gyfer coginio’ (OED, 2022).

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod tegelli’n cael eu defnyddio hyd yn oed cyn i’r gair ei hun fodoli! Er enghraifft, mae *archeolegwyr wedi dod o hyd i *lestr efydd a ddefnyddiwyd i ferwi dŵr sy’n dyddio’n ôl i *3000CC!

Daeth gwahanol fathau o degelli’n boblogaidd ar draws y byd gyda’r angen i ferwi dŵr i’w wneud yn lân. Tegelli haearn oedd y mwyaf cyffredin gyda theithwyr, milwyr a theuluoedd yn eu defnyddio i goginio bwyd a berwi dŵr (Aqua Libra, 2020).

Ond, yn *Tsieina Hynafol, byddai pobl yn gwella blas dŵr drwy ychwanegu dail te ato, a dyna sut cafodd te ei ddyfeisio!

Ac wrth i’r arfer hwn ddod yn fwy cyffredin yn niwylliant Tsieina, roedd tegelli porslen* yn cael eu cynhyrchu yn benodol i wneud te (In The Kitchen, 2017).

Cafodd Prydeinwyr eu dylanwadu gan y traddodiadau hyn a dyna pam ein bod ni ym Mhrydain yn caru te gymaint heddiw!

Pan ddaeth te o Asia i Brydain am y tro cyntaf yn y 17eg ganrif, dim ond pobl gyfoethog a allai fforddio ei yfed. Ond gyda threigl amser, roedd te ar gael i bawb, ynghyd â’r offer a oedd angen i’w baratoi hefyd. Erbyn diwedd y 18fed ganrif, dechreuodd tegelli copr ymddangos mewn cartrefi ym Mhrydain.

Yn yr 20fed ganrif, cyrhaeddodd y tegell stof gartrefi Prydain, ynghyd â’r tegell chwibanu a fyddai’n chwibanu i roi gwybod bod y dŵr wedi berwi! Yn y pen draw, cyrhaeddodd y tegell trydan modern, sef yr hyn mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n ei ddefnyddio heddiw.

Felly pam nad yw tegelli yn boblogaidd yn yr Eidal? Oherwydd yn hanesyddol, dydy’r Eidalwyr ddim wir yn yfed te!  Yn hytrach, mae’r Eidalwyr wrth eu bodd â’r diwylliant coffi, sydd wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ers i goffi gyrraedd Fenis am y tro cyntaf yn y 17eg ganrif.

Cafodd y coffi cryf  espresso ei ddyfeisio ym Milan ar ddechrau’r 20fed ganrif ac yn fuan wedi hynny, codwyd y bariau coffi cyntaf sydd erbyn hyn i’w gweld ledled yr Eidal (Neighbourhood Coffee Roasters, 2022).

Felly pan oedden ni Brydeinwyr yn berwi dŵr ar gyfer te mewn tegelli, roedd Eidalwyr yn gwneud coffi cryf mewn potiau moka* a oedd yn cael eu cynhesu ar stof yn debyg iawn i degell traddodiadol yn y DU!

Efallai bod tegell yn anghyffredin yn yr Eidal, ond dw i ddim wedi ymweld â’r un cartref heb bot moka neu beiriant espresso!

O ystyried yr holl hanes, ddylwn i ddim synnu mewn gwirionedd bod Eidalwr, er ei fod yn oedolyn, ddim yn gallu weithio tegell trydan! Ydych chi’n cytuno? Rhannwch eich barn yn y sylwadau.

Geiriau:

  • Cofiadwy: rhywbeth sy’n hawdd ei gofio am ei fod/wedi bod yn arbennig neu’n anarferol
  • Hen Saesneg: Y ffurf gynharaf ar Saesneg ar gofnod, a ddefnyddiwyd hyd at tua 1150
  • Archeolegwyr: rhywun sy’n astudio hanes trwy gloddio ac astudio gweddillion
  • Llestr: Cynhwysydd, yn enwedig un a ddefnyddir i ddal hylif
  • CC: Cyn Crist
  • Tsieina Hynafol: Gwareiddiad hen iawn
  • Porslen: Yn cael ei adnabod yn fwy cyffredin fel ‘tsieina’, sef enw’r lle y tarddodd ohono
  • Pot Moka: Teclyn i wneud coffi ar y stof a ddyfeisiwyd yn yr Eidal (https://en.wikipedia.org/wiki/Moka_pot)


Proffil Ysgol: Ysgol Aberconwy

Ysgol Aberconwy, Jamie McAllister

Cyfrwng: Saesneg

Lleoliad: Aberconwy

Ieithoedd: Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, rwyf wedi neidio ar lori lwyddiant dull Conti a chyflwyno dulliau Cyfarwyddyd Prosesu Estynedig (EPI) a MARS-EARS yn fy adran.

A ninnau wedi cael ein hysbrydoli gan lyfr ‘Breaking the Sound Barrier’ Conti a Smith (a gafodd effaith fawr a phwysig arnaf), rydym wedi gweld mwy o ddysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3 yn cymryd diddordeb mewn ieithoedd, ond yn anffodus, ddim effaith ar nifer y dysgwyr sy’n mynd ymlaen i astudio ieithoedd yng Nghyfnod Allweddol 4.

Felly, wrth ddechrau cynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd, gwnaethom benderfynu y byddem yn mynd i’r afael ag agweddau at ddysgu ieithoedd gyda dysgwyr Blwyddyn 7, cyn mynd ati i ddysgu’r ieithoedd rhyngwladol eu hunain.

Dadleuol, ond beth sy’n wych am y Cwricwlwm i Gymru yw ei fod wedi rhoi’r rhyddid i ni fynd i’r afael â’r anghenion dysgu yn ein hysgol unigol.

Mae ein niferoedd yn gostwng, er gwaethaf unrhyw fentrau rydym yn eu gweithredu neu newidiadau addysgegol rydym yn eu gwneud. Felly, y teimlad oedd ei bod yn bryd gwneud rhywbeth hollol wahanol.

Ar ôl cael ein hysbrydoli gan wefan We Are Multilingual, aethom ati i seilio ein prif gysyniadau ar gyfer ein prosiect cyntaf ar y themâu hyn:

  • Ydw i’n berson amlieithog?
  • Beth yw iaith y corff?
  • Fy iaith yw fy hunaniaeth
  • Beth yw diwylliant?
  • Pam ydw i’n dysgu iaith?

Cafodd yr adnoddau ar y wefan eu defnyddio a’u haddasu gennym, ac wrth i ni gynllunio’r prosiect, gwnaethom ystyried ein lleoliad daearyddol: Conwy, Gogledd Cymru.

Er mwyn gallu rhoi profiadau dilys yn rhan o’n gwersi, aethom â’r dysgwyr i dref Conwy er mwyn iddynt allu gwneud arolwg o agweddau’r cyhoedd at ddysgu iaith ac amlieithrwydd.

Gwnaeth y dysgwyr fwynhau’r profiad yn fawr a chwrdd â llawer o ieithyddion yn uniongyrchol yn y dref dwristaidd.

Roedd yn gyfle iddynt hefyd ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol a llafar mewn sefyllfa go iawn. I ni, roedd yn gam i’r cyfeiriad cywir i greu dysgwyr uchelgeisiol, galluog, hyderus a gwybodus.

Rwy’n poeni, wrth gwrs, nad ydym wedi addysgu ieithoedd rhyngwladol o gwbl ers deng wythnos, ond y gobaith yw y bydd y gwaith a wnaed gennym yn helpu rywfaint i newid agweddau a chael ein dysgwyr i sylweddoli gwerth sgiliau iaith, sy’n cael eu diystyru a’u tanbrisio’n fawr ganddynt ar hyn o bryd.

Wrth gyflwyno unrhyw gwricwlwm newydd, mae problemau cychwynnol yn anochel, ac wrth i ni ystyried ein prosiect cyntaf, byddwn wrth gwrs yn gwneud sawl peth yn wahanol y tro nesaf.

Fodd bynnag, o ran gwerth yng nghyd-destun ein hysgol ein hunain, rydym ni, fel adran, yn teimlo bod ein amser wedi’i fuddsoddi’n dda.


Hyfforddiant Mentora Ionawr 2023!

Wel, wel, am benwythnos! Dyna benwythnos hyfforddi arall wedi’i gwblhau’n llwyddiannus, ac rydyn ni wrth ein boddau!

Rydyn ni wedi cael y fraint o gyfarfod ein mentoriaid, cael sgwrs ddiddorol â nhw a mwynhau awyrgylch hapus llawn cyffro gyda’n gilydd.

At ei gilydd, ymunodd 44 o fentoriaid dan hyfforddiant â ni yng Nghaerdydd am ddau ddiwrnod er mwyn dysgu mwy am Fentora ITM a beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o’r prosiect.

Cawson nhw gyfle i ddysgu wrth rai o’n mentoriaid presennol anhygoel, a oedd yn rhan annatod trwy gydol y penwythnos hyfforddi.

'Rhannu syniadau amrywiol'

Mae bob amser yn gyffrous cwrdd â mentoriaid newydd, ac nid oedd y penwythnos hyfforddi hwn yn ddim gwahanol.

Gwahoddwyd myfyrwyr o Aberystwyth, Bangor, Wrecsam Glyndŵr, Abertawe, Caerdydd a Met Caerdydd, felly roeddem yn gwybod y byddai hwn bendant yn benwythnos diddorol!

Fel arfer, mae ein penwythnosau hyfforddi yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ar draws y wlad, ond y penwythnos hwn penderfynon ni ddod â phawb at ei gilydd o bob rhan o Gymru, gan ganiatáu i ni weithio gyda’n criw newydd o fentoriaid fel un grŵp mawr.

Un o’r pethau gorau am gwrdd â’r mentoriaid yw darganfod mwy amdanyn nhw a’u rhesymau dros gymryd rhan yn y prosiect.

Gyda mentoriaid o bron bob cornel o’r byd, o Gymru a’r DU, i India, Gwlad Pwyl, Tsieina, Sbaen, Fietnam, Cyprus,

Ynysoedd y Philipinau, i enwi ond ychydig! Mae’n gyfle prin a rhyfeddol i gael cymaint o unigolion o wahanol gefndiroedd diwylliannol ac ieithyddol i gyd gyda’i gilydd mewn un lle.

Mae’r adborth a gawsom gan un o’n mentoriaid ar ôl yr hyfforddiant yn disgrifio hyn yn berffaith: ‘Doeddwn i ddim yn disgwyl i lawer o bobl o wahanol ddiwylliannau fod mewn un man yn rhannu syniadau amrywiol. Roeddwn wrth fy modd â hynny ac wedi mwynhau cwmni pobl mor hyfryd!’

Mae’r mentoriaid hefyd yn astudio amrywiaeth eang o bynciau gwahanol, o gyrsiau iaith i bynciau sy’n cynnwys marchnata, busnes, sŵoleg, cyfansoddi caneuon, y gyfraith, comics, a throseddeg.

Mae’n galonogol gweld cynifer o bobl o gefndiroedd ac arbenigedd gwahanol yn dod at ei gilydd ac yn ffurfio cyfeillgarwch diolch i’w cariad at ieithoedd.

Rydym hefyd yn hynod falch o’r mentoriaid presennol a oedd wir wedi blodeuo yn ystod y penwythnos hyfforddi, gan weithio’n galed ac arwain ar  sawl elfen o’r hyfforddiant.

Roeddem yn ffodus iawn i gael cwmni Alice, Dom, Firial, Elliott, Hannah, Jacob a Jules drwy gydol yr hyfforddiant.

O’r dechrau i’r diwedd, roeddent wedi arwain trwy esiampl gan ymgorffori egwyddorion y prosiect yn arbennig o dda, sy’n dipyn o gamp o ystyried mai dim ond nôl ym mis Medi y dechreuodd rhai ohonyn nhw ar eu taith fentora gyda ni!

'Yn hytrach na meddwl ‘dydw i ddim wedi dod o hyd i iaith rwy’n ei hoffi’, meddyliwch, ‘dw i ddim wedi dod o hyd i iaith rydw i’n ei hoffi eto.’

Dros y penwythnos, clywodd y mentoriaid yn uniongyrchol gan dîm y prosiect am yr hyn y mae rôl Mentor ITM yn ei olygu yn ystod gweithdai pynciau amrywiol megis sgiliau a rhinweddau mentor a diogelu plant mewn ysgolion.

Cynhaliwyd gweithgareddau ymarferol gyda’n mentoriaid presennol yn ogystal â ffair syniadau rhyngweithiol.

Yn ystod un o’r gweithgareddau, lle bu mentoriaid yn trafod sut i ymateb i agweddau negyddol tuag at ieithoedd mewn ysgolion, cafwyd rhai ymatebion arbennig o dda.

Nod y dasg oedd crybwyll ymatebion bosib i sylwadau cyffredin mae ein mentoriaid wedi dod ar draws gan ddysgwyr nad sydd eisiau ymgysylltu ag ieithoedd rhyngwladol oherwydd nad ydynt yn hoffi dysgu Cymraeg.

Roeddem wedi gwirioni  ar y cyngor canlynol gan un grŵp: “Mae angen meddwl am ieithoedd yn debyg i chwaraeon. Efallai nad ydych yn hoffi un gamp, ond efallai y gwelwch eich bod yn mwynhau camp arall hollol wahanol gyda rheolau gwahanol.”

Ymateb gwych gan grŵp arall oedd: “Yn hytrach na meddwl ‘dydw i ddim wedi dod o hyd i iaith rwy’n ei hoffi, meddyliwch, dw i ddim wedi dod o hyd i iaith rydw i’n ei hoffi eto.”

Fe wnaethom hefyd annog mentoriaid i fyfyrio ar eu perthynas ag ieithoedd, gan ofyn iddynt ystyried gwahanol agweddau o’u hunaniaeth amlieithog a gosod nodiadau wrth ymyl y gwledydd perthnasol ar fap o’r byd.

Eto, roedd yn anhygoel gweld cymaint oedd gan bawb yn gyffredin er gwaethaf eu gwahanol gefndiroedd.

Mae ein mentoriaid yn rhannu cysylltiad ddofn iawn, waeth o ble maen nhw’n dod a pha gwrs maen nhw’n ei astudio, sef eu bod nhw’n amlieithog ac yn awyddus i rannu’r rhan honno ohonyn nhw eu hunain gyda dysgwyr ledled Cymru, gyda’r gobaith o’u hysbrydoli i ddilyn taith iaith/amlieithog eu hunain.

Dros y penwythnos, fe wnaethom hefyd ofyn i’n mentoriaid dan hyfforddiant ateb rhai cwestiynau i ni felly gallem o bosibl ddefnyddio eu hymatebion mewn adnoddau yn y dyfodol. Roedd yr atebion a gawsom wir wedi ein helpu i ddeall gymhellion a theithiau iaith ein mentoriaid newydd.

Pan ofynnwyd iddynt pa iaith y byddent wrth eu bodd yn ei dysgu yn y dyfodol, atebodd un o’n mentoriaid: “Pwnjabi, oherwydd mae fy nheulu yn ei siarad ond wnes i erioed ei ddysgu fy hun.

Yn yr un modd, wrth ymateb i’r un cwestiwn, atebodd mentor arall: “Gaeleg, achos mae’n iaith a oedd yn cael ei siarad yn fy nheulu ond sydd bellach wedi’i cholli, a dw i’n caru sut mae’n swnio.

Er bod yr ymatebion yn cyfeirio at ddwy iaith wahanol, yr un yw’r teimlad a rennir rhwng y ddau fentor hyn – adfer rhan o’u hunaniaeth sydd wedi cael ei chymryd wrthyn nhw.

Efallai y bydd hyn yn rhywbeth y gallent ei drafod gyda’u dysgwyr hefyd, o ystyried y gwahanol agweddau tuag at y Gymraeg mewn gwahanol rannau o’r wlad.

Camau nesaf

Ar hyn o bryd rydym wrthi’n paru ysgolion â’u mentoriaid newydd gan ystyried yn ofalus pa ysgolion sydd  yn gweddu orau i’n mentoriaid.

Rydyn ni’n awyddus iawn i weld pa lwybrau bydd ein mentoriaid yn ei dilyn yn y pen draw a beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig iddynt ar ôl penwythnos hyfforddi mor wych!

Rydym yn edrych ymlaen at ddod i adnabod aelodau newydd teulu Mentora ITM yn well a chlywed hanes eu taith mentora.

A phwy a ŵyr, efallai y bydd rhai ohonyn nhw’n dychwelyd yn ddiweddarach eleni i hyfforddi’r criw mentora nesaf….


O Geg Y Fentor: Jacob Franklin

Amdanaf fi 

Shwmae, Ciao, Hello! Fy enw i yw Jacob, a dw i’n 19 mlwydd oed. Dw i’n dod o dref fach o’r enw Flitwick yn Swydd Bedford (yng nghanol unman!), tua 35 munud o ogledd Llundain.

Dw i wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers mis Medi 2021, pan ddechreuais astudio Eidaleg a Cherddoriaeth *(BA) ym Mhrifysgol Caerdydd. Ffaith ddiddorol amdana i yw fe wnes i gwblhau fy arholiad canu gradd 8 pan oeddwn i’n 18 oed wrth i’r DU ddod allan o’r cyfnod clo. 

Tyfu i fyny a’r ysgol 

Dw i’n dod o un o’r ychydig siroedd yn y DU lle nad yw’r system ysgolion cynradd ac uwchradd traddodiadol yn cael ei defnyddio.

Yn hytrach, mae gennym Ysgol Isaf, Ysgol Ganol, ac Ysgol Uchaf. Mae hyn yn golygu, Ysgol Isaf (Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 4), Ysgol Ganol (Blwyddyn 5 i Flwyddyn 8), Ysgol Uchaf (Blwyddyn 9 i Flwyddyn 13).  

Dechreuodd fy *angerdd am gerddoriaeth yn yr Ysgol Isaf, ac am ieithoedd yn yr Ysgol Ganol. Cefais wersi trwmped rhwng 8 a 17 oed (fe wnes i gwblhau gradd 6), a chefais wersi canu o 9 oed ymlaen, a dw i’n parhau hyd heddiw gyda fy athro canu anhygoel Buddug, sydd wedi fy nysgu ers i mi ddechrau yn y brifysgol.

Cefais wersi piano hefyd rhwng 14 a 18 oed felly mae gen i ddealltwriaeth dda o’r offeryn hwn hefyd.  

O ran ieithoedd, dechreuais ddysgu Ffrangeg yn rheolaidd ym mlwyddyn 5 a Sbaeneg o flwyddyn 9 ymlaen pan gyrhaeddais i’r Ysgol Uchaf. Roeddwn i wrth fy modd yn astudio Ffrangeg a Sbaeneg ar gyfer Safon Uwch.

Roeddwn i’n hynod o lwcus yn yr Ysgol Uchaf i allu mynd ar deithiau trochi* i Rouen yn Ffrainc a Malaga yn Sbaen bob blwyddyn.

Es i ar y teithiau yma rhwng 13 a 17 oed (dw i’n cofio dod adref o Malaga ganol mis Mawrth 2020 ychydig cyn y cyfnod clo!).

A dweud y gwir, byddwn i’n dweud mai’r teithiau trochi yma, yn byw gyda theuluoedd o Sbaen a Ffrainc nad oedd yn siarad Saesneg, oedd rhai o brofiadau gorau fy mhlentyndod.

Dysgais i gymaint amdanaf fi fy hun ac fe wnaeth y profiadau roi *hwb mawr i fy hyder ac agor fy llygaid i wahanol ddiwylliannau ledled y byd.

Es i i Sbaen am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2017 yn 14 oed, pan oeddwn i ond wedi bod yn dysgu Sbaeneg am chwe mis, ac rwy’n cofio teimlo mor falch o fy hun am fynd drwy brofiad mor *frawychus ond cyffrous. Ac wrth gwrs, roeddwn i’n gwneud cymaint o gamgymeriadau doniol wrth siarad Sbaeneg.

Er enghraifft, dw i’n cofio un diwrnod doeddwn i ddim yn siŵr a ddylwn i wisgo fy nghôt a gofynnais i fy Madre (mam) Sbaeneg a oedd hi’n boeth tu all.

Yn hytrach na defnyddio’r gair ‘calor’, defnyddiais y gair ‘caliente’. Os ydych chi’n deall Sbaeneg, gobeithio bod fy nghamgymeriad wedi gwneud i chi chwerthin!

Weithiau, mae gan eiriau sawl ystyr gwahanol ac mae’n bwysig gwneud yn siŵr ein bod ni’n defnyddio’r un cywir!

Ieithoedd a Fi 

Dw i’n siarad Saesneg fel fy iaith gyntaf a dw i’n dysgu Eidaleg yn y brifysgol, mae hyn yn golygu fy mod i’n mynd i fyw yn yr Eidal flwyddyn nesa – dw i mor gyffrous! Dw i eisoes wedi sôn fy mod i wedi astudio Ffrangeg a Sbaeneg ar gyfer Safon Uwch, felly dw i’n teimlo’n eithaf hyderus yn siarad y ddwy iaith yna hefyd (efallai fy mod i’n fwyaf hyderus yn siarad Sbaeneg oherwydd roeddwn  i wrth fy modd yn dysgu Sbaeneg yn  yr ysgol). Efallai eich bod chi am ofyn, fel llawer o bobl, “ym…Jacob, pam wyt ti’n dysgu Eidaleg nawr?”. Yn gyntaf, dw i wastad wedi bod eisiau dysgu Eidaleg ond ychydig iawn o ysgolion sy’n ei chynnig hi fel pwnc. Yn ail, doedd gen i ddim diddordeb mewn parhau â’r Ffrangeg, felly roedd yn rhaid dewis rhwng Sbaeneg neu Eidaleg. Wrth chwilio am brifysgolion roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n cynnig Cerddoriaeth gyda naill ai Ffrangeg, Almaeneg neu Eidaleg, oherwydd y cysylltiadau rhwng cerddoriaeth a’r ieithoedd hyn. I mi, mae Eidaleg a Cherddoriaeth yn gyfuniad hyfryd ac felly roedd hi’n amlwg ei bod hi’n bryd dechrau fy nhaith Eidaleg! Dw i dal i siarad Sbaeneg o bryd i’w gilydd gyda ffrindiau dw i wedi eu gwneud drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a bydd fy nhaith Sbaeneg byth yn dod i ben, achos dw i wedi datblygu cymaint o gariad tuag at yr iaith dros y blynyddoedd!  

Fel canwr â *hyfforddiant clasurol dw i wedi canu fy *natganiadau dros y blynyddoedd mewn Almaeneg, Ffrangeg ac Eidaleg a dw i hefyd bellach yn cael cyfle i ganu yn Gymraeg gyda fy athrawes canu.

Ar hyn o bryd dw i’n dysgu’r darn “Cân yr Arad Goch” gan Bryn Terfel a dw i’n mwynhau’n fawr.

Tra’n bod ni’n sôn am ddysgu Cymraeg, dw i wedi cwblhau cwrs Cymraeg 10 wythnos o hyd gyda Phrifysgol Caerdydd, a byddwn i wrth fy modd yn dysgu mwy yn y dyfodol (pan fydd gen i fwy o amser i’w dysgu!). 

Fy Mywyd fel Myfyriwr a'r Dyfodol 

Hyd yn hyn, dw i wedi mwynhau mas draw yn y brifysgol a dw i wedi gwneud ffrindiau oes a chwrdd â fy nghariad anhygoel Dom, sy’n astudio Ffrangeg a Sbaeneg yma hefyd.

Ar wahân i fy ngradd, mae’r brifysgol wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi fel gwirfoddoli.

Rai misoedd yn ôl, cefais gyfle i wirfoddoli gyda therapi lleferydd ar gyfer y mudiad Cymreig ’21-Plus’, elusen sy’n cefnogi teuluoedd gyda phlant a phobl ifanc sydd â syndrom Down.

Dw i’n meddwl ei bod hi mor bwysig bod llais pawb yn cael ei glywed, ac fel myfyriwr ieithoedd roedd fy sgiliau cyfathrebu a’r ffaith fy mod i’n hoffi gweithio gyda phobl yn golygu nad oeddwn i am golli’r cyfle yma.  

Yn y dyfodol, dw i’n gobeithio astudio *gradd meistr mewn Therapi Lleferydd ac Iaith neu Therapi Cerddoriaeth gyda’r sgiliau dw i wedi dysgu yn y brifysgol.

Geiriau: 

  • canol unman – ardal yng nghefn gwlad ymhell o bobman
  • BA – cwrs prifysgol ‘Baglor yn y Celfyddydau’
  • angerdd – teimladau cryf am rywbeth
  • taith drochi – treulio amser mewn gwlad arall yn siarad iaith arall
  • rhoi hwb mawr i’r hyder – gwneud i rywun deimlo’n fwy hyderus am rywbeth
  • profiad brawychus – teimlo’n nerfus neu’n poeni am rywbeth
  • canwr â hyfforddiant clasurol – rhywun sydd wedi’i ddysgu i ganu gan ddefnyddio cerddoriaeth glasurol fel ‘Ave Maria’
  • datganiadau – perfformiad cerddorol
  • gradd meistr – cwrs y gellir ei astudio ar ôl gorffen gradd prifysgol


Beth sydd gan ysgolion i'w wneud ag ieithoedd?

Roedd noson yr 11eg – 12fed Rhagfyr 2022 yn nodi 420 mlynedd ers brwydr hanesyddol rhwng *Protestaniaid a *Chatholigion yn Genefa.

I ddathlu’r Genevoises (pobl o Genefa) yn curo’r milwyr Catholig, cynhelir gŵyl flynyddol o’r enw ‘La Fête de L’Escalade’ gyda phenwythnos yn llawn digwyddiadau ledled y ddinas.

Wrth iddi nosi, ar brynhawn Sul oer ofnadwy, gwyliais rai o’r gweithgareddau sy’n dathlu un o draddodiadau hynaf Genefa.

Roedd *gorymdaith wedi’i threfnu gan grŵp *ailberfformio hanesyddol y ddinas gyda dynion, menywod a phlant dan arweiniad grwpiau o ddrymwyr a *ffliwtwyr.

Roedd pobl yn gorymdeithio ar gefn ceffyl neu ar droed, yn gwisgo gwisgoedd hanesyddol.

Roeddent yn falch o gario baneri gydag *arfbais Genefa, fflachlampau wedi’u goleuo gan dân, *mwsgedau, ac ysgolion.

Er y gall ysgol swnio’n rhyfedd, daw’r enw gŵyl ‘L’Escalade’ o’r ferf Ffrengig d’escalader (i ddringo), ac mae’r ysgol yn cynrychioli’r milwyr a ddefnyddiodd ysgolion i ddringo waliau’r ddinas.

Yng nghanol y ddinas, roedd llawer o stondinau yn gwerthu gwin cynnes (‘vin chaud’ yn Ffrangeg a ‘Glühwein’ yn Almaeneg), cnau castan wedi’u rhostio (‘marrons chauds’ yn Ffrangeg a ‘geröstete Kastanien’ yn Almaeneg), a bara gyda math arbennig o gaws wedi’i doddi o’r enw ‘raclette’ ar ei ben.

Gan gadw at y thema bwyd, mae holl archfarchnadoedd Genefa yn gwerthu *crochan (‘une marmite’ yn Ffrangeg, ‘ein Kessel’ yn Almaeneg) wedi’i wneud o siocled sy’n dathlu’r foment y taflodd cogyddes ddewr Genevoise o’r enw Catherine Cheynel grochan berwedig o gawl dros un o’r ymosodwyr! Mae’r crochan yn cynrychioli *gwrthsafiad a dewrder y Genevoises.

Roedd yr orymdaith ei hun wedi teithio ar hyd y strydoedd prysur a dosbarthwyd lanternau i blant.

Gorffennodd yr orymdaith y tu allan i’r eglwys gadeiriol lle canodd y côr ‘Cé qu’é lainô’ (Ef sy’n uchel), emyn Genefa yn y *dafodiaith leol o’r enw Arpitan, sy’n swnio’n debyg iawn i’r anthem genedlaethol Brydeinig ‘God Save the Queen/King.’

Mae gan yr emyn, a gyfansoddwyd ar ôl y frwydr, 68 o benillion ac mae’n adrodd stori L’Escalade a buddugoliaeth y Genevoises dros y Savoyards (milwyr Catholig y *Dug Savoy).

Cafodd coelcerth ei chynnau y tu allan i’r eglwys gadeiriol o flaen torf fawr. Dyma lle cwrddais ag Alma a Mathias, pâr priod sy’n byw yn Genefa.

Gyda’n gilydd, gwelsom dynion ifanc gyda *sashis coch a gwyn, yn dal dwylo ac yn ffurfio cylch o amgylch y goelcerth i ganu’r Picoulet, cân werin sy’n dyddio’n ôl i’r Oesoedd Canol.

Mae’n enwog yn ardaloedd y Swistir sy’n siarad Ffrangeg ac yn cael ei chanu yn ystod gwyliau. Mae’r Picoulet yn gân hwyl, lle mae grŵp o ddynion yn sefyll mewn cylch yn dawnsio ac yn canu am wahanol rannau o’r corff, fel bysedd, dwylo a phenelinoedd… roedd yn ffordd wych o gadw’n gynnes yn ystod yr ŵyl!

Yn Genefa, mae wedi bod yn hyfryd iawn cael y cyfle i weld gŵyl leol mor bwysig sy’n llawn hwyl i’r teulu cyfan.

Geirfa

Protestaniaid – pobl sy’n dilyn eglwysi Protestannaidd, a dorrodd i ffwrdd o’r eglwys Gatholig yn yr Oesoedd Canol (o ddiwedd y bumed ganrif i ddiwedd y 15fed ganrif)

Catholigion — pobl sy’n dilyn y ffydd Gatholig ac sy’n cael eu harwain gan y Pab

gorymdaith – parêd neu ymdaith

ailberfformio – actio digwyddiad o’r gorffennol

ffliwtwyr – pobl sy’n chwarae’r ffliwt

arfbais – dyluniad a ddefnyddir ar eitemau fel tarian a baneri

mwsgedau – math o ddryll, wedi’i danio o’r ysgwydd

crochan – pot metel mawr ar gyfer coginio dros dân agored

gwrthsafiad – i wrthod derbyn neu gytuno â rhywbeth

tafodiaith – math o iaith sy’n benodol i ranbarth neu grŵp o bobl

Dug Savoy – Charles Emmanuel I oedd arweinydd Dugiaeth Savoy a arferai fod yn wlad yng Ngorllewin Ewrop

Sash – Stribed hir o ddefnydd sy’n cael ei wisgo dros un ysgwydd neu o amgylch eich canol

Dolen i Cé qu’è lainô – YouTube sy’n canu tri o’r 68 pennill o emyn Genefa.

Dolen i Lyrics of Cé qu’è lainô | Ville de Genève – Safle officiel (geneve.ch) yn Arpitan a Saesneg.

Dolen i Cortège de l’escalade gyda “Le Picoulet” – YouTube o 2015. Mae’r gân yn dechrau am 5 munud.

Dolen i wefan La Fête de L’Escalade (yn Ffrangeg): Accueil – Compagnie de 1602

Credyd llun crochan: https://cuisinehelvetica.com


Proffil Ysgol: Ysgol Gyfun Whitmore

Ysgol Gyfun Whitmore, Angharad Williams

Cyfrwng: Saesneg

Lleoliad: Y Barri

Ieithoedd: Ffrangeg, Sbaeneg

Gwybodaeth am ein hysgol

Yn Adran Ieithoedd Rhyngwladol Ysgol Uwchradd Whitmore (YUW), mae wedi bod yn tymor cyntaf cyffrous.  Gallwn ni, athrawon, deimlo weithiau fel pe baem yn cynllunio ymlaen llaw yn dragywydd. Fodd bynnag, mae hyn yn hanfodol yn YUW, i’r genhadaeth Dyfodol Byd-eang ac o ran sicrhau bod cymaint o ddysgwyr â phosibl yn dewis astudio Ieithoedd Rhyngwladol yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5.

Gall fod yn heriol iawn sicrhau bod nifer dda o ddysgwyr yn astudio Ieithoedd Rhyngwladol, ac rydym yn ffodus yn YUW bod nifer y dysgwyr sy’n astudio Ffrangeg a Sbaeneg yn iach iawn a bod sawl dosbarth yn cael ei gyflwyno yn y ddwy iaith yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5.  Er ein bod yn ceisio ennyn diddordeb ein dysgwyr mewn Ieithoedd Rhyngwladol bob amser, ar ddiwedd tymor yr hydref, cynhaliom ni amrywiaeth o weithgareddau i hysbysu dysgwyr ym Mlynyddoedd 9 ac 11 yn benodol am yr hyn y gall ieithoedd ei gynnig iddynt – yn yr ysgol, fel cymhwyster ac ar gyfer eu gyrfa a’u ffordd o fyw yn y dyfodol.

Ein hysgol a Mentora ITM

Roeddem yn ddiolchgar iawn am gael ein dewis unwaith eto i gael mentor fel rhan o gynllun  Mentora ITM, Prifysgol Caerdydd.  Y llynedd, oherwydd COVID-19, ymunodd ein mentor â ni dros y we ar gyfer sesiynau byw. Gweithiodd hyn yn dda iawn, ond rydym wedi bod yn gyffrous i gael mentor yn ymweld â ni ac yn siarad â’n dysgwyr wyneb-yn-wyneb y tymor hwn.  Yn ogystal, mae pob dysgwr ym Mlwyddyn 9 wedi cael gwers blas TGAU, sy’n ceisio dangos faint o’r iaith y mae’r dysgwyr eisoes yn ei deall a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon ynghylch y naid i astudio’r iaith ar lefel TGAU.

Yn yr un modd, mae ieithyddion Blwyddyn 11 wedi derbyn gwersi blas UG, lle buom yn archwilio’r gwahanol bynciau diwylliannol sy’n cael eu hastudio yn y cwrs Safon Uwch.  Fe wnaethom hefyd gynnal brecwastau gwobrwyo yn yr adran ar gyfer dysgwyr sydd wedi gwneud ymdrech arbennig y tymor hwn. Gwahoddwyd rhieni a gwarcheidwaid hefyd er mwyn iddynt allu ymuno â ni i ddathlu llwyddiant y dysgwyr.

Gweithgareddau ac ieithoedd

I droi at fater arall, roedd yn bleser gennym groesawu Miss Xin Li, ein Cynorthwyydd Iaith Tsieinëeg cyntaf, i’r adran.  Mae Miss Li wedi ymgartrefu’n gyflym yng nghymuned yr ysgol, ac rydym wrth ein boddau ei bod yn barod nid yn unig i gyflwyno gwersi Tsieinëeg yn yr adran, ond hefyd i gefnogi mentrau drwy’r ysgol gyfan, fel gweithdai diwylliannol sy’n addysgu Tai Chi a’r grefft Tsieineaidd o blygu papur.  Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu sgiliau Tsieinëeg ein dysgwyr a hefyd eu hymwybyddiaeth o ddiwylliant Tsiena yn ystod y flwyddyn, a byddem yn cynghori ysgolion eraill yn gryf i ystyried cymryd rhan yn y rhaglen yn y dyfodol.

Mae ein Hadran Ieithoedd Rhyngwladol yn credu mewn cydweithio cymaint â phosibl, ac rydym yn ffodus bod gennym ymarferydd Ieithoedd Rhyngwladol arweiniol ar gyfer ein consortiwm lleol (Consortiwm Canolbarth y De) yn aelod o’r tîm.  Gall Consortiwm Canolbarth y De gynnig ystod o gyfleoedd, ac roeddem yn falch iawn o gael ein dewis i dderbyn cyllid ar gyfer y prosiect EPI Conti. Mae hyn yn golygu gweithio gydag 20 o ysgolion eraill ar draws cyfnodau allweddol er mwyn archwilio addysgeg newydd, sy’n teimlo’n fwy perthnasol nag erioed wrth roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith.

Yn olaf, penderfynom gynnal ein her ar gyfer Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd yn rhithwir eto eleni, am fod gwneud hyn yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn llwyddiant mawr.  Roedd hyn wedi galluogi dysgwyr i gymryd rhan mewn heriau hirach gartref, a dewisodd lawer ohonynt bobi neu greu campweithiau.  Derbyniodd y dysgwyr buddugol dystysgrifau a deunyddiau ysgrifennu ar y thema ieithoedd, ac fel y gwelwch o’r lluniau, roeddwn nhw wir wedi mwynhau bwyta’r holl ddanteithion.


O geg y fentor: Sara Bariselli

Amdanaf fi

Hello/Ciao/Shwmae/Hallo/Hola/مرحبًا! Fy enw i yw Sara, dw i’n 28 oed, a dw i’n fyfyriwr *PhD Eidalaidd ym Mhrifysgol Bangor.

Dw i’n dod o bentref bach wrth droed yr Alpau, yng ngogledd yr Eidal. Dw i bob amser wedi mwynhau cyfarfod â phobl newydd , a dw i’n meddwl bod gallu siarad ieithoedd gwahanol  yn rhan fawr o hyn.

Mae gen i ffrindiau o bob rhan o’r byd, a hyd yn oed ym Mangor dw i’n cael y cyfle i sgwrsio mewn tair iaith wahanol gyda ffrindiau a chydweithwyr.

Weithiau dw i’n deffro yn y bore a dw i’n siarad gan gymysgu ieithoedd gwahanol hefyd. Dw i’n meddwl fy mod i  wedi dweud rhywbeth sy’n gwneud synnwyr, ond wedyn mae fy mhartner yn edrych arna i mewn ffordd ddoniol neu’n dechrau chwerthin, a dw i’n sylweddoli fy mod i wedi drysu fy ieithoedd eto!

Dw i wedi bod yn byw yn y gogledd ers dwy flynedd bellach, a dw i wrth fy modd!

Fy marn i am ysgol

Dw i’n dod o bentref bach o’r enw Gianico yn yr Eidal ac fe es i i’r un ysgol â fy ffrindiau nes oeddwn i’n 14 oed. Pan wnaethon ni dechrau yn yr ysgol gyfun, yn sydyn roedd yn rhaid i ni ddod i arfer ag adeilad llawer mwy, mewn tref fwy, gyda myfyrwyr a phobl o’r cwm cyfan. Doedd gen i ddim ffrindiau yn fy nosbarth newydd i ddechrau, ond fe wnes i lwyddo ymgartrefu ar ôl ychydig.  Fe es i i ysgol uwchradd, ond roeddwn i’n ddigon ffodus i astudio pynciau fel Lladin ac Athroniaeth yno gan nad yw hyn bob amser yn bosibl.

Mae’r system ysgolion yn wahanol yn yr Eidal, a does gennych chi ddim yr un rhyddid i ddewis pa bynciau rydych am eu hastudio . Pan rydych yn 13, mae rhaid i chi benderfynu pa ysgol sy’n cynnig y pynciau rydych chi’n eu mwynhau fwyaf,  ac yna ni fydd eich pynciau’n newid am y pum mlynedd nesaf oni bai eich bod yn symud i ysgol arall. Dw i bob amser wedi dwlu ar ysgol. Dw i’n meddwl mod i’n dipyn o nerd; a dweud y gwir dw i’n meddwl mod i’n dal i fod yn un!

Gianico, Lombardy:

Dw i bob amser wedi cael diddordeb mawr mewn pethau ‘newydd’, dw i wrth fy modd yn dysgu pethau am bobl a natur. Fy hoff bynciau yn yr ysgol oedd gwyddoniaeth a hanes.

Roeddwn bob amser yn hiraethu am adref pan oeddwn yn iau, i’r pwynt na fyddwn yn stopio crio amser gwely os nad oeddwn yn yr un lle â mam (tan fy mod tua 12!). Roedd fy nheulu wedi synnu cymaint pan wnes i ddweud wrthyn nhw fy mod i eisiau gwneud cais am *ysgoloriaeth i dreulio blwyddyn yn astudio yn *Ecuador pan oeddwn i’n 17! Doedd neb yn credu y bydden i’n ymdopi, ond dyna oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.

Ieithoedd a fi

Yn amlwg, Eidaleg yw fy iaith gyntaf. Dw i hefyd yn falch o siarad fy *nhafodiaith leol, iaith sydd bellach yn diflannu ac mae pobl iau yn anghofio’n hawdd fod tafodieithoedd yn ein cysylltu â’n *gwreiddiau amaethyddol.

Dw i’n rhugl yn Saesneg a Sbaeneg a dw i’n siarad Ffrangeg yn eithaf da – dw i hefyd wedi dechrau dysgu Cymraeg ers i mi symud yma!

Fe wnes i ddechrau dysgu Sbaeneg yn ystod fy mlwyddyn tramor yn Ne America a dw i’n gwybod tipyn o Ffrangeg oherwydd tyfodd fy nain i fyny yn Ffrainc, ac fe wnes i astudio Ffrangeg yn yr ysgol uwchradd hefyd.

Dw i’n gwybod ambell air neu frawddeg mewn ieithoedd eraill hefyd a dw i’n hoffi eu defnyddio wrth deithio. Mae llawer o ieithoedd eraill dw i eisiau dysgu hefyd: Portiwgaleg, *Esperanto, Gaeleg yr Alban, ail-cychwyn Arabeg … mae’n rhestr ddiddiwedd!

Dw i’n ffeindio dysgu Almaeneg yn anodd. Dw i wedi ceisio ei dysgu, ond am ryw reswm dw i’n ei chael hi’n llawer anoddach nag ieithoedd eraill.

Yn gyffredinol, dw i’n meddwl mai’r peth pwysicaf yw nid pa mor rhugl ydych chi mewn iaith, ond yn hytrach pa mor fodlon ydych chi i ddysgu hyd yn oed ychydig eiriau: mae’n arwydd o barch, cynwysoldeb a *gostyngeiddrwydd.

Nid yw pawb yn siarad Saesneg a dw i’n meddwl ei fod yn beryglus credu hyn.

Fy mywyd fel myfyriwr

Yn y brifysgol yn Fenis, astudiais cwrs BA mewn Diwylliannau’r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, ac roeddwn i wedi astudio Arabeg a Ffarsi.

Roeddwn i’n *angerddol am wyddoniaeth ac eisiau astudio meddygaeth, ond roeddwn i hefyd yn meddwl y byddai gradd mewn ieithoedd yn caniatáu i mi deithio mwy. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn gydweithrediad a diplomyddiaeth ryngwladol* hefyd.

Doeddwn i ddim yn gallu treulio amser mewn gwlad Arabeg ei hiaith am nifer o resymau ac roedd yr arholiadau gramadeg yn anodd iawn. Fe wnes i ddarganfod hefyd, yn enwedig yn yr Eidal, ei bod yn anodd dilyn gyrfa mewn diplomyddiaeth os nad ydych chi yn y cylchoedd cywir  neu ddim yn ddigon cyfoethog.

Felly, fe wnes i sylweddoli’n fuan nad oedd Cysylltiadau Rhyngwladol yn addas i mi, a gramadeg Arabeg hyd yn oed yn llai felly (o leiaf adeg hynny). Ond er hyn, fe wnes i ddyfalbarhau; doeddwn i ddim eisiau gwastraffu’r holl waith caled, ac yn y pendraw roeddwn i’n hapus iawn gyda’r radd enillais.

Yn ystod fy mhrofiad gwaith roeddwn yn ddigon lwcus i weithio mewn Ysgol Ryngwladol yn Dubai gyda disgyblion ag anghenion arbennig. Roeddwn i wir wedi mwynhau gweld sut roedd plant yn mynd ati i ddysgu iaith.

Roeddwn i wedi ffeindio fy *ngalwedigaeth newydd, roeddwn i eisiau dysgu mwy am yr ymennydd! Felly, treuliais  blwyddyn yn astudio modiwlau mewn *ffisioleg, ystadegau a rhaglennu, ac yna dechreuais *radd meistr mewn Niwrowyddoniaeth Wybyddol yn fuan wedi hynny.

Cefais brofiadau anhygoel yn ystod y ddwy flynedd hynny, yn ogystal â rhai adegau anodd hefyd. Roeddwn i yn yr Eidal yn bennaf ac roeddwn i braidd yn siomedig am hyn oherwydd roeddwn i bob amser wedi bod eisiau symud nôl dramor ar ôl fy mhrofiad cyntaf yn Ecwador, ond roedd teulu mawr yn golygu bod yn rhaid i mi helpu gartref, a dw i  bob amser wedi gweithio wrth astudio ers i mi fod yn 16.

Treuliais chwe mis yn yr Almaen i wneud fy nhraethawd ymchwil meistr, a dysgais lawer am fy mhrosiect ac amdanaf fi fy hun yn ystof y cyfnod yma. Fe wnes i gymaint o ffrindiau diolch i orfod rhannu ystafell wely, ond eto doedd y profiad o weithio yn y labordy yno ddim yn *gynhwysol iawn*  – efallai mai’r profiad hwn sy’n gyfrifol am fy anawsterau wrth ddysgu Almaeneg.

Fe wnes i wir gael y gorau o fy ngradd ac ni feddyliais erioed y byddwn yn gwneud cystal ag y gwnes i! Roeddwn yn falch iawn ohonof fy hun.

Fi yn y dyfodol

Cyrhaeddais bwynt lle  roeddwn i wedi ennill fy ngradd, roeddwn yn *wenynwraig, cefais brofiad siomedig yn yr Almaen, ac roeddwn wedi symud o un lle i’r llall o amgylch yr Eidal a threulio ychydig o amser dramor wrth astudio.

Doeddwn i ddim yn siŵr am PhD ond roeddwn i eisiau bod yn flaengar, felly fe wnes i gais am ychydig o gyrsiau ond doeddwn i ddim yn eu cymryd o ddifri mewn gwirionedd.

Roeddwn i’n hapus lle roeddwn i, yn hapus iawn. Ac yna, daeth COVID.

Roeddwn i’n lwcus fy mod i’n byw mewn pentref bach gyda chae mawr lle gallwn i anadlu a threulio amser gyda’m gwenyn, ac nid oedd yr un o fy nheulu yn yr ysbyty oherwydd COVID.

Ond yn y dyfodol roeddwn i eisiau mwy , ac roeddwn yn ofni ychydig y byddwn i’n sownd yn y cwm hwnnw yn y pen draw.

Felly, penderfynais symud i Gymru i ddilyn fy angerdd am wenyn!

Rwy’n ddiolchgar am y profiad hwn, ac am allu bod yn rhan o lawer o brosiectau cyffrous, megis Mentora ITM.

A byddwn yn gwneud y cyfan eto heb feddwl ddwywaith!

  • PhD – cwrs prifysgol sy’n seiliedig ar ymchwil, dyma’r lefel uchaf o gymhwyster y gallwch ei gael yn y DU
  • Ysgoloriaeth –pan fyddwch yn gwneud cais i sefydliad dalu am eich cwrs
  • Ecuador – mae Ecuador yng nghornel orllewinol uchaf cyfandir De America
  • Diplomyddiaeth ryngwladol – rheoli cysylltiadau rhwng gwahanol wledydd
  • Profiad gwaith – swydd tymor byr yn cynnig profiad ymarferol mewn rôl broffesiynol
  • Ffarsi – Dyma’r iaith Iraneg fodern sy’n cael ei siarad yn Iran ac Afghanistan. Mae hefyd yn cael ei alw’n Berseg
  • Tafodiaith- amrywiad o iaith sydd yn nodweddiadol o ardal benodol neu grŵp penodol o siaradwyr
  • Gwreiddiau amaethyddol – ffermio yn y gorffennol
  • Angerddol – teimlo’n gryf iawn dros rywbeth
  • Gostyngeiddrwydd – rhywun sy’n gwybod nad ydyn nhw’n berffaith
  • Galwedigaeth – teimlad cryf tuag at yrfa neu alwedigaeth benodol
  • Ffisioleg – astudio sut mae’r corff yn gweithio
  • Gradd meistr– cwrs academaidd y gallwch ei astudio ar ôl cwblhau eich gradd gyntaf yn y Brifysgol
  • Wenynwraig – rhywun sy’n cadw gwenyn
  • Cynhwysol – gwneud i bawb deimlo bod croeso iddynt
  • Esperanto – iaith artiffisial a ddyfeisiwyd yn 1887 fel ffordd o gyfathrebu rhwng gwledydd
  • Traethawd ymchwil – traethawd hir, hir iawn


Newid safbwyntiau

Helo bawb! Dw i wedi dysgu plant mewn ysgol Eidalaidd heddiw, a nawr dw i bach yn drist!

Fe wnes i ffeindio allan eu bod nhw’n meddwl mai’r caws oren, llipa* ’na sy’n cael ei roi ar ben byrgyrs yn McDonald’s yw caws Cheddar! Dw i ddim yn gallu credu’r peth!

Ar ôl y profiad yma, dyma fi’n dechrau meddwl sut mae pethau’n cael eu drysu* wrth symud o un wlad i’r llall; fel ein caws Cheddar ni yn yr achos yma!

Mae’n wych blasu bwydydd o wledydd eraill, mae’n gyfle i ni ddysgu am wahanol rannau o’r byd, a weithiau am lefydd na fydden ni byth yn dod ar eu traws fel arall.

Ond pam oes dryswch ynghylch rhai bwydydd? Pam ydy pobl yn yr Eidal yn drysu’r caws, oren llachar ’na sydd fel plastig, gyda chaws Cheddar, sy’n ddim byd tebyg?

Beth ydy’r dryswch yma’n dweud wrthon ni am yr hyn sy’n digwydd wrth rannu a chyfnewid* diwylliant?

Beth am edrych ar beth sy’n digwydd pan rydyn ni’n cyflwyno rhywbeth i ddiwylliant a phobl newydd.

Beth am pizza? Yn y DU rydyn ni’n gwybod bod pizza Domino’s ddim yr un peth â pizza Eidaleg traddodiadol.

Rydyn ni’n gwybod bod rhaid i ni fynd i fwyty Eidalaidd go iawn* os ydyn ni eisiau blasu pizza Eidaleg go iawn. Hynny yw, un ai bwyty Eidalaidd lleol sy’n cael ei redeg gan deulu Eidaleg, neu deithio i’r Eidal ei hun!

Serch hynny, pe bai Prydeinwyr yn gweld pizza Eidaleg traddodiadol, bydden nhw’n gwybod beth yw e, cywir? Felly, er bod Pizza Eidaleg, a pizza Dominos, ddim wir yr un peth, rydyn ni’n cytuno mai pizza ydy’r ddau ohonyn nhw.

Yn wir, pan wnes i ddangos llun o gaws Cheddar i’r plant yn y wers, wnaethon nhw protestio achos doedd y caws ddim yn oren!

Mae’n amlwg i mi felly, mai’r hyn mae’r Eidalwyr yn ei ystyried yn gaws Cheddar a’r hyn rydyn ni yn y DU yn ei ystyried yn gaws Cheddar, yn wahanol!

A dweud y gwir, mae’r hyn mae Eidalwyr yn ystyried yn gaws Cheddar mor wahanol i beth yw e go iawn, mae’n amlwg bod bwydydd Prydain ddim yn cael eu cynrychioli’n* gywir mewn gwledydd eraill.

Efallai bod y ddwy wlad yn galw’r ddau gaws yn Cheddar, ond ydyn ni wir yn rhannu ein diwylliant bwyd ag eraill, os ydy’n syniadau ni am y bwyd yn hollol wahanol?

Dw i wedi penderfynu fod Eidalwyr wedi drysu ystyr y gair Cheddar. Er yn gyfarwydd* â’r enw, prin iawn o bobl sydd ddim yn dod o’r DU sy’n gwybod bod y caws wedi’i enwi ar ôl y pentref lle mae’n cael ei gynyrchu.

Os nag oes cysylltiad rhwng y caws oren a’r pentref yn Lloegr, pam galw’r caws yn Cheddar o gwbl?!

Allwch chi feddwl am unrhyw enghreifftiau eraill o fwydydd sy’n achosi dryswch pan maen nhw’n cael eu gwerthu mewn gwledydd eraill?

Neu, efallai rydych chi’n meddwl bod rhannu diwylliant yn bwysicach na phoeni am ddrysu ystyr pethau. Rhowch eich barn a’ch sylwadau isod!

Llipa – ‘floppy’

Drysu – ‘confuse’

Cyfnewid diwylliant – ‘cultural exchange’

Go iawn – ‘authentic’

Cynrychioli – ‘represent’

Gyfarwydd – ‘familiar’


Proffil Ysgol: Ysgol Gyfun Porthcawl

Ysgol Gyfun Porthcawl, Gaëlle Morgan

Cyfrwng: Saesneg

Lleoliad: Porthcawl

Ieithoedd: Ffrangeg, Almaeneg

Sut rydyn ni'n codi proffil ieithoedd rhyngwladol yn ein hysgol

Rydyn ni’n lwcus iawn ym Mhorthcawl i ddysgu Ffrangeg ac Almaeneg.

Mae gennym glwb Cymreig a chlwb Ieithoedd Rhyngwladol dwi wedi bod yn eu rhedeg ers 15 mlynedd, lle mae dysgwyr yn chwarae gemau bwrdd mewn gwahanol ieithoedd a gemau cyfrifiadurol (Kahoot, Blooket, Quizlet…), yn o gystal â sgwrsio ac ymarfer chwarae rôl. Hefyd, rydyn ni wedi cynnal sesiynau blas ar iaith mewn ieithoedd megis Japaneeg a Sbaeneg. Mae’r chweched dosbarth yn aml yn cynnal y clybiau, sydd yn boblogaidd iawn gyda’r dysgwyr iau.

Rydw i hefyd yn trefnu cystadleuaeth pobi Ffrengig bob mis gyda rysáit gwahanol bob tro (quiche lorraine, galette des rois, ac ati) gyda gwobrau a thystysgrifau i’w hennill. Mae’n gystadleuaeth boblogaidd iawn yn ein hysgol.

Mae gennym hefyd lysgenhadon iaith (dysgwyr TGAU yn bennaf) sy’n cynnal gwasanaethau i hybu Ieithoedd Rhyngwladol.

Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd

Rydyn ni’n dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd yn ein hysgol bob blwyddyn ym mis Medi.

Rydyn ni’n trefnu gwasanaethau arbennig a gynhelir gan ddysgwyr iaith a llysgenhadon o CA4 a CA5, ac rydyn ni’n cynnal cystadlaethau dosbarthiadau cofrestru ar draws yr ysgol, fel cwisiau.

Mae gennym hefyd fwydlen Ewropeaidd arbennig yn y ffreutur i ddathlu’r achlysur (pain au chocolat, selsig Almaenaidd, ac ati).

Rydyn ni wedi canfod bod yr holl weithgareddau hyn yn codi proffil Ieithoedd Rhyngwladol yn ein hysgol yn fawr.

Teithiau allgyrsiol

Trefnais taith lwyddiannus iawn i’r Institut Français yn Llundain ym mis Chwefror 2022

i wylio ffilm Ffrengig yn eu sinema ac archwilio’r ardal Ffrengig yn Kensington. Rwy’n argymell y daith hon yn fawr ac rwy’n bwriadu cynnal un tebyg y flwyddyn nesaf!

Rydyn ni’n mynd â 55 o ddysgwyr (o flwyddyn 10 i flwyddyn 13) i farchnad Nadolig Lille ym mis Rhagfyr 2022. Mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr at y daith hon a dyma’r pedwerydd tro i ni fynd yno. Mae’r daith hon bob amser yn hynod o boblogaidd gan nad yw’n rhy ddrud ac mae’n llawer o hwyl!

Rydyn ni hefyd yn trefnu dwy daith i Baris a Disneyland Paris yn 2023, un ym mis Mawrth ac un ym mis Ebrill. Pam? Oherwydd bod cynifer o ddysgwyr wedi dangos diddordeb a doedden ni ddim eisiau siomi neb – Rhaid ein bod ni braidd yn wallgof!

Hybu amlieithrwydd a manteision ieithoedd yn cydweithio ar draws Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae ein maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu (adrannau Saesneg/Cymraeg/Ffrangeg/Almaeneg) yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd ac rydyn ni eisoes wedi cynhyrchu a chyflwyno prosiectau llythrennedd triphlyg a phedwarplyg gyda llwyddiant mawr, gyda’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i wreiddio yn y mwyafrif ohonynt.

Mae ein gweithgareddau pontio blwyddyn 6 wedi eu seilio ar lythrennedd pedwarplyg a gwreiddiau ieithoedd ac mae’r adborth gan yr ysgolion cynradd a’r dysgwyr bob amser yn wych.

Rydyn ni hefyd yn cynnal cystadleuaeth ganu gyda blwyddyn 6. Rydyn ni’n eu rhannu’n grwpiau o dri – mae un grŵp yn canu cân Almaeneg, grŵp arall yn canu cân Ffrengig a’r trydydd grŵp yn canu cân yn y Gymraeg. Maen nhw’n ymarfer ac yna’n mynd ar y llwyfan i gystadlu yn erbyn ei gilydd cyn i ni gyhoeddi’r enillydd. Mae’n weithgaredd llawn hwyl!

Rydw i a chydweithiwr arall yn parhau â’n rôl fel Ymarferwyr Arweiniol Ieithoedd Rhyngwladol Uwchradd am yr ail flwyddyn yn olynol. Rydyn ni’n creu adnoddau i hyrwyddo amlieithrwydd ac ymgysylltiad yn yr ystafell ddosbarth yn CA3/4 a 5. Mae’r ddau ohonom yn cynnal gweminarau ar-lein lle rydyn ni’n rhannu ein syniadau gydag athrawon ysgolion uwchradd a chynradd ar sut i hyrwyddo Ieithoedd Rhyngwladol yn yr ysgol.

Roeddwn i hefyd wedi gweithio gydag Ieithoedd Rhyngwladol yn y sector cynradd y llynedd drwy ddatblygu adnoddau ar sut i ennyn diddordeb dysgwyr mewn dosbarthiadau Ieithoedd Rhyngwladol gan ddefnyddio llefaredd a chysylltiadau rhwng ieithoedd.

Strategaethau llwyddiannus i wella ymgysylltiad ag Ieithoedd Rhyngwlado

Mae gwneud llawer o waith llafar yn hollbwysig oherwydd mae dysgwyr wrth eu boddau yn siarad yr iaith. Y gemau fwyaf poblogaidd yn ein hadran ni yw:

  • Trapdoor
  • Un beiro, un dis
  • Lleidr brawddegau
  • Battleships

Mae dysgwyr hefyd wrth eu boddau yn gwylio ffilmiau yn yr iaith darged, felly mae’n braf cynllunio’r sesiynau hyn adeg y Nadolig neu ar ôl prawf fel gwobr!